麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Nawr
Cyfrol o waelodion a dyfnderoedd
  • Adolygiad Meg Elis o Nawr gan T. James Jones. Cyhoeddiadau Barddas. 拢6.00.



  • "Diwaelod yw dy deulu" meddai Myrddin ap Dafydd wrth gyfarch un ohonyn nhw - Tudur Dylan, dwi'n meddwl ond fe allasai fod ei dad neu un o'i ddau ewythr, a dwi'n si诺r fod yna genhedlaeth nesa, felly watsiwch eich hun 'mhen rhyw ugain mlynedd. . .

    Clawr y llyfr Achos gorfoledd yw'r olyniaeth hon, gyda llaw, nid achos cecru am fod tad yn dilyn mab a llawer o'r un teulu yn dilyn yr un proffesiwn.

    Mae'n beth cyffredin, a dweud y gwir, yn y cyfryngau, meddygaeth, y weinidogaeth - pob galwedigaeth a dweud y gwir - o ie, ac ym mhroffesiwn 'sanctaidd' y glowyr hefyd, nes i rai coliers benderfynu eu bod am wneud rhywbeth call, ac addysgu eu meibion fel na fydden nhw'n gorfod mynd i waith brwnt, peryglus y pwll...

    Ond dwi'n pregethu.
    Peth nad yw Jim Jones yn ei wneud yn y gyfrol hon.

    Teuluoedd
    Dwi'n crybwyll teuluoedd - ac yn sicr, mae'n gwneud hynny hefyd, yn gyfoethog orawenus yn y gyfrol hon - a pham lai?
    Mae'n rhan o'r job.

    Dyna mae bardd i fod i'w wneud - a phob clod i'r beirdd a wnaeth hynny yn gymdeithasol ac yn ddidramgwydd dros y degawdau, hyd yn oed os oeddan nhw hytrach yn ddiawen yn gwneud hynny.

    Ond gyda'r teulu diwaelod hwn, gallwch ddisgwyl mwy - a dyna a gewch.
    Mae'r cerddi dathlu i briodasau yn hwyliog, yn ffraeth, yn grefftus ac yn orfoledd - felly hefyd y cerddi i groesawu'r genhedlaeth nesaf.

    Wrth gwrs ei fod o'n croesawu ei wyrion, ac yn dwli arnynt - on'd ydi pawb?

    Ond dyma fardd sy'n gallu cysylltu dyfodiad y genhedlaeth nesaf 芒'r cenedlaethau a fu - ac yn gwneud hynny'n loyw.
    Mae'n croesawu Mathew Macsen - ac yn gweld ei olyniaeth.

    Mae'n cyfarch Gruffydd ab Owain ac yn crybwyll Traeth Lafan a'r tywysogion fu yno cyn bod y bychan.

    Mae yma fwy na chanu cymdeithasol, er nad yw'r cerddi fyth yn colli eu hagosatrwydd teuluol.

    Canu cymdeithasol, ie, ond i gymdeithas a thylwyth ehangach.

    Marwnadu
    Ac yn anorfod, rhan arall o "yst芒d bardd" oedd marwnadu a does dim disgwyl i fardd awdl ysgytwol Y Ffin anwybyddu'r ochr honno o'i swyddogaeth, chwaith.

    Mae'r awdl fuddugol yma, wrth gwrs, a hynny'n ddigon o gyfiawnhad i'r gyfrol ar ei phen ei hun - ond mae'r cerddi byrion hefyd yn taro i'r byw.

    Myfyrdod yw'r Ffin gan rywun sy'n ddigon dewr i wynebu henaint ac sy'n anffasiynol ymwybodol fod marwolaeth yn rhwym o ddigwydd ac nad oes na thechnoleg nac ideoleg all ei ddileu.

    Mae'r un ymwybyddiaeth yn sail i gerddi byrion megis y delyneg Harmoni ac, wrth drafod math gwahanol o angau, yn Colli Tafodiaith, sy'n gwneud i'r darllenydd sylweddoli nad anwyliaid o gig a gwaed yn unig sydd yn diflannu "i'r dwnshwn du".

    Cyfieithu Dylan
    Diwaelod yw dawn y bardd arbennig hwn, hefyd - hyd yn oed mewn cyfieithiadau, a hynny o waith y bardd mwyaf anghyfieithiadwy hwnnw, Dylan Thomas.
    Ond mae T. James Jones yn llwyddo yma eto - ac yn llwyddo i ychwanegu at y cyfoeth.

    Does ond rhaid edrych ar ddiwedd ei gyfieithiad o Fern Hill, a gweld "in the mercy of his means" yn troi'n "yn nhrugaredd ei drugareddau" i ddeall hynny.

    Mae'n gallu raligampio gyda'r goreuon - ac yn dwysfyfyrio hefyd fel yn "Wrth bwy y llefaraf?" - un o'r cerddi twyllodrus syml y talai i bob darllenydd oedi gyda hi.

    Oes, mae yma waelodion - a dyfnderoedd.



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy