麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Igam Ogam
Dyfeisgarwch yn wendid!
  • Adolygiad Kate Crockett o Igam Ogam gan Ifan Morgan Jones. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008. Lolfa. 拢7.95.


  • Mae darllen gwaith awdur newydd yn y Gymraeg bob amser yn ennyn chwilfrydedd, ac os yw'r awdur hwnnw wedi cychwyn ar ei yrfa drwy ennill Gwobr Goffa Daniel Owen, prif gystadleuaeth y nofel yng Nghymru, yna mae'r disgwyliadau yn sicr o fod yn uchel.

    Clawr y llyfr Roeddwn felly yn edrych ymlaen yn fawr at gael darllen Igam Ogam gan Ifan Morgan Jones, y nofel fuddugol yn Eisteddfod Caerdydd 2008.
    Cafodd y gwaith ei ganmol gan feirniaid y gystadleuaeth am ei wreiddioldeb ond mae hon yn nofel sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn yn chwedloniaeth Cymru. Y Mabinogi, dybiwn i, yw'r prif ddylanwad ar Ifan Morgan Jones, wrth iddo greu nofel antur ffantas茂ol cwbl Gymreig.

    Ond nid yn 么l yn y cyfnod cyn hanesyddol mae cychwyn y digwydd i'r tri prif gymeriad, ond yng Nghaerdydd ein cyfnod ni.

    Mae Tomos Ap newydd gwblhau ei MA ym Mhrifysgol y brifddinas; dymuno bod yn gyfryngi a chael byw ym Mhontcanna y mae ei gariad Angharad.
    Ond ar 么l derbyn galwad ff么n annisgwyl gan ei dad mabwysiedig, mae Tomos yn dychwelyd i'r fferm yng Ngheredigion ble cafodd ei fagu, gydag Angharad a chyfaill o Gofi, Dylan, yn gwmni iddo.

    A dyna ddechrau'r antur - ar y fferm mae yna borthwll i fyd arall, byd sy'n gyforiog o gymeriadau chwedlonol yn cynnwys Derwyddon, y Brenin Arthur, Dewiniaid, creaduriaid dychmygol a rhai o gymeriadau'r Mabinogi.

    Mae'r tri'n teithio i'r byd arall hwn - y Fabinogwlad ac yn wynebu pob math o droeon trwstan, sefyllfaoedd cas a brwydrau gwaedlyd.

    Trwyadl ddyfeisgar
    Mae Ifan Morgan Jones yn drwyadl ddyfeisgar ac mae ganddo ddigon i'w ddweud.

    Caiff y Brenin Arthur ei atgyfodi, ond siom yw ei arweinyddiaeth - mae'n imperialydd sydd am goncro'r Fabinogwlad er mwyn gallu datblygu gwlad sydd "heb lob茂wyr yn cwyno am newid hinsawdd".

    Mae'r awdur ifanc hwn yn ysgrifennu yn hyderus ac mae'n rhoi rhwydd hynt i'w ddychymyg ym mhob agwedd, o'r anturiaethau rhyfeddol; i'r enwau dyfeisgar a restrir yn null yr hen chwedlau: "Tegog ap Dwyfnerth, Pabo Post Prydyn, Gwrwst Ledlwn, Gwynnog Farfsych a Dwywg Lyth."

    Gwendid
    Ond yn ei dyfeisgarwch hefyd y mae gwendid y nofel.
    Nid yn aml byddwn yn galw ar awdur i ffrwyno'i ddychymyg ond byddai'r nofel hon yn gryfach o fod wedi tocio tipyn ar y llu digwyddiadau a'r degau o gymeriadau.

    Byddai portreadu'r prif gymeriadau yn llawnach hefyd wedi helpu i ennyn ein cydymdeimlad wrth i'r stori ddatblygu.

    Mae'n addas bod yna fwystfil o'r enw Lob Sgows yn ymddangos - tipyn o lobsgows ydy'r nofel erbyn y diwedd.

    Pa gynulleidfa?
    Roeddwn hefyd yn ansicr at ba gynulleidfa y byddai'r nofel yn apelio.
    Mae'r troeon trwstan sy'n dod i ran y prif gymeriadau yn dwyn i gof ffilmiau animeiddiedig a byddai elfennau o'r nofel yn sicr yn porthi dychymyg byw plant; mae'n debyg iawn o ran plot a naws i nofel Manon Steffan ar gyfer plant rhwng 9 a 13 oed, Trwy'r Darlun , a gyhoeddwyd yn gynt eleni.
    Ond mae iaith gref y Cofi a gor hoffter yr awdur o ddisgrifio effaith y ddiod gadarn yn debygol o olygu na fydd hon yn nofel y bydd rhieni ac athrawon yn ei dewis i'w plant.

    Ar gyfer y dyfodol
    Wedi dweud hyn i gyd mae'n amlwg bod Ifan Morgan Jones yn dalent ar gyfer y dyfodol.

    Mae ganddo ddawn ddisgrifiadol, mae'n stor茂wr greddfol ac os nad yw ei ddychan yn finiog, yn bendant mae'n codi gw锚n.

    Nofel a luniwyd ar gyfer cwrs ysgrifennu creadigol oedd hon ac mae'n sicr nad oedd yr awdur yn disgwyl iddi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen.

    Gobeithio y bydd ennill yn ysgogiad iddo ddatblygu ei ddawn a chyhoeddi eto - byddai'n braf meddwl bod y wobr yn ddechrau ar ei yrfa, nid yn binacl.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Ennill y Daniel

  • Holi Ifan Morgan Jones

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy