麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gweledigaethau: Cyfrol Deyrnged Yr Athro Gwyn Thomas
Adolygiad Derec Llwyd Morgan
  • Adolygiad Derec Llwyd Morgan o Gweledigaethau: Cyfrol Deyrnged Yr Athro Gwyn Thomas, gol. Jason Walford Davies, Cyhoeddiadau Barddas 2007, 463tt., 拢19.95.


  • Y Brawd Mingoeth Bradmangar
    Oni wyddwn fod Jason Walford Davies yn ysgolhaig gyda'r mwyaf difrif a chalonbur yn ei genhedlaeth, mi dybiwn ar awr wamal mai cyfrol yw hon nid i glodfori'r Athro Gwyn Thomas, eithr cyfrol yn hytrach i oleuo Mrs Gwyn Thomas, yr hyglod ddiglod Jennifer.

    Clawr y llyfr Yn niwedd un ei hunangofiant, Bywyd Bach, a gyhoeddwyd gan Wasg Gwynedd yn Nhachwedd 2006, dywed Gwyn Thomas, gyda'i wyleidd-dra arabus arferol, iddo ofyn i'w wraig wrth "fwrw iddi efo'r llyfr" a allai nodi rhai o'i rinweddau.

    Ebe hi ar 么l tawelwch "annymunol o hir": 'Rwyt ti bob amser yn plygu dy byjamas.'

    "Ow ac alaeth," gofyn y bardd-ysgolhaig, "ai dyma fy unig rinwedd?"

    Nage, Gwyn, ddim o gwbl oll.
    O hyn ymlaen, os byth y caiff Honco-Sda-Ti, chwedl Islwyn Williams, drafferth i restru dy rinweddau y tu hwnt i bl欧g dy byjamas, sodra o dan ei thrwyn y gyfrol loyw gyfansawdd hon, sy'n dweud mwy na chyfrolau am dy rinweddau ysgolheigaidd, barddonol, theatrig a phersonol, ac nid hwyrach y gw锚l Mrs Thomas wedyn lwcused y bu yn ei chymar cwbl ddigymar.

    O bob cyfeiriad
    Gwych y dywed y Golygydd yn y 'Rhagymadrodd' iddo lunio'r gyfrol deyrnged fel ag i edrych ar gyfraniadau Gwyn o bob cyfeiriad.

    Yn fras, gellir ei rhannu'n dair.
  • Y mae ynddi benodau'n ymwneud 芒 gwaith Gwyn ei hun, ei farddoniaeth, ei waith ysgolheigaidd, ei sgriptiau, ei ddram芒u, ei gyfieithiadau a'i diweddariadau;
  • Y mae ynddi hefyd benodau ar bynciau ac ar amseroedd yr ymddiddorodd GT yr ysgolhaig ynddynt, a chan mor eang ei ddiddordeb a'i ddeall wele cawn drafodaethau gan arbenigwyr ar bethau o Heledd heibio i'r Mabinogi a Dafydd ap Gwilym, heibio'r ddeunawfed ganrif ac Oes Victoria, hyd at Waldo Williams a Hollywood;
  • At hynny, ceir dwy gerdd fawl (gan Myrddin ap Dafydd ac Alan Llwyd) ac un darn rhyddiaith o bortread i GT.

    (Y mae yma yn ogystal gerdd a anfonodd R. S. Thomas fel cyfraniad i'r gyfrol cyn ei farw, cerdd In Memory of Ted Hughes yr wyf yn ei gwerthfawrogi'n olau ar 么l imi ddarllen llythyron Hughes yn ddiweddar; ond yn fy myw ni welaf mai dyma'i lle.)

    Er rhagored y penodau gw芒dd, mewn un ystyr amlwg y tour de force yn y gyfrol yw Llyfryddiaeth yr Athro Gwyn Thomas a luniwyd gan Huw Walters, chwech a deugain o dudalennau sy'n gofnod manwl o'i gyflawniadau printiedig.

    Sut yn y byd gafodd y Gwyn ysgolheigaidd ac awengar amser hyd yn oed i feddwl am blygu'i byjamas?

    Hiwmor ym mhopeth
    Ymatalier rhag pyjamaeiddio mwy, Forgan!
    Purion, mi wnaf.
    Gellid dweud na fyddai neb yn cellwair fel hyn wrth ysgrifennu am gyfrol deyrnged i D. J. Bowen, dyweder, am y rheswm syml fod pob peth a luniodd ef mewn ysgolheictod yn waith dwys, difrifol.

    Am Gwyn Thomas, er dwysed ac er mor llafurwych yw ei waith fel sgolor, y mae ym mhob peth a wnaeth (bron) hiwmor achubol, synnwyr digrifwch sy'n dynoli'r memrwn sychaf neu sy'n condemnio'n ddoniol-haeddiannol y farddoniaeth salaf.

    Rhagorol yw dadansoddiad Gruffydd Aled Williams o'r dyneiddiwch newyddaidd hwn a ddug GT i drafodaethau ysgolheigaidd, a'r modd yr apeliodd hynny at ddarllenwyr ifainc Y Traddodiad Barddol fel at ddarllenwyr h欧n Ellis Wynne a'i Gefndir a Gair am Air.

    Gwyn ei hun a soniai am flynyddoedd ar 么l cyhoeddi'r campwaith ar y Bardd Cwsg fod rhywrai o hyd ym Mlaenau Ffestiniog a dybiai mai Ellis Wynne a'i Gefnder oedd ei deitl.
    Gwamal?
    Wel, sut arall y mae wynebu cwrs y byd, angau ac uffern?

    Sid Vicious a David Charles
    Ys dywed GAW eto, ni ellir dychmygu'r un ysgolhaig Cymraeg arall yn dwyn Sid Vicious a'r Sex Pistols i drafodaeth ddifrifol ar David Charles, Hedd Wyn, Angau a'r Bedd, a thrwy hynny gyfuno'r "anghymarus yn welediad cyfannol a chraff".

    Gwna Hywel Teifi bwynt tebyg wrth drafod awydd y Cymry am arwyr yn Oes Victoria. Gan estyn lliain lletach dros Y Pethe a'r pethau ym mhetheuach America a ddiddorodd Gwyn Thomas mor fawr yn ei farddoniaeth, dengys Gerwyn Wiliams sut y mae'r farddoniaeth honno wedi dal y byd Gorllewinol yn ei gyfanrwydd yn ein haweniaith fach ni, gan bentrefoli'r ddaear, gan ddemocrateiddio'r awen: er bod Monroe a Dodge City, John Wayne a Clint Eastwood yn rhan o'n profiad cyn oes waith Gwyn Thomas, ef a'u hawenodd yn ein heniaith.

    Jason Walford Davies a Gwyn Thomas Yn ein heniaith, aie?
    Aie?
    Dyna bwnc y dychwel Alan Llwyd ato yn ei bennod ar GT y bardd-feirniad.

    Dyna bwnc y mae Dafydd Johnston yn cyffwrdd ag ef wrth drafod cyfieithiadau GT o waith Dafydd ap Gwilym. A dyna bwnc y mae Bobi Jones yn myfyrio arno mewn pennod nodweddiadol ysbrydoledig ar GT a'r Barchedig Iaith.

    Ni all tipyn o adolygydd wneud fawr mwy na chrybwyll y cyfoeth trafod sydd yn y penodau pwysig hyn, a'r cymariaethau a wneir ynddynt rhwng GT a T S Eliot yn y gyntaf, rhwng GT a Joseph Clancy a Tony Conran yn yr ail, a rhwng GT a Dafydd ap Gwilym ei hun (a rhwng GT a T H Parry-Williams) yn y drydedd.

    Yr awdur arall sy'n trafod iaith ac arddull GT yw William R. Lewis, sy'n goleuo theatr y bardd o'r Blaenau.

    Newydd-deb o ddwy stydi
    Pwnc y beirniaid hyn i gyd, wrth gwrs, yw newydd-deb, onid yn wir unigrywedd, y farddoniaeth a ddatblygodd mor annisgwyl yn y ddwy stydi y bu GT yn gweithio ynddynt yn Eithinog, Bangor.

    Pwy, wrth ddarllen Chwerwder yn y Ffynhonnau a'r Weledigaeth Haearn yng nghanol y chwedegau, a feddyliai y c芒i ymhen ugain mlynedd Wmgawa, -- Wmgawaa'i holl baraffernalia moesol a geirfaol a roes i ni am ugain mlynedd arall anghydffurfiaeth awenus ddoniolddwys mewn rhythmau traed-yn-mynd?
    Nid hyd yn oed GT ei hun, mi wrantaf.

    Gwirioneddol gyfoethog
    Canolbwyntiais uchod ar y penodau yn Gweledigaethau sy'n trafod modd a meddwl y gwrthrych ei hun.

    Maddeued awduron y penodau eraill i mi am hynny. Llwyddodd y Golygydd i gael gan bawb ohonynt gyfraniadau gwirioneddol gyfoethog, sy'n dwyn clod i'r awduron yn union fel yr anrhydeddant GT.

    Y mae rhai o'r cyfraniadau hynny mor gyfoethog fel y mae'n anodd tybied y daw neb eto i ychwanegu cufydd at eu maintioli, triniaeth fanylddysg Peredur Lynch o berthynas Gruffydd a Dafydd ap Llywelyn a'r beirdd, er enghraifft, ac esboniad manylddysg (eto) Jason Walford Davies ei hun o'r gerdd Y Dderwen Gam a gyfansoddodd Waldo Williams ddwy flynedd ar 么l cyhoeddi Dail Pren.

    Canu Heledd a'r Mabinogi
    Am gyfraniadau Marged Haycock a Dafydd Glyn Jones, y maent ill dau yn trafod mewn ffyrdd tra gwahanol i'w gilydd y defnydd a wnaed mewn llenyddiaeth gymharol ddiweddar o ddau o'r testunau a aeth 芒 llawer o fryd GT yr ysgolhaig a'r diweddarwr, sef Canu Heledd a'r Mabinogi: y mae'r ddau gyfraniad ehangddysg yn rhwym o ennyn ymateb (ac ychwanegiadau) gan eraill.

    At y Mabinogi y trodd Branwen Jarvis - Branwen Heledd Jarvis, fel yr atgoffa Marged Haycock ni, -- sef at gymeriad y gorffwyll Efnisien, mewn ysgrif graff, olau, ddyngar.

    Yn 么l i Oes Victoria yr aeth Hywel Teifi Edwards, a rhoi inni un arall o'i ddehongliadau difyr o psyche'n hen-hen-deidiau.

    Cyfrannodd R. Geraint Gruffydd olygiad dysgedig o un o awdlau byrion Dafydd ap Gwilym, awdl a gyfieithiwyd gan GT yn Dafydd ap Gwilym: His Poems (2001).

    Yn olaf, ond nid yn lleiaf, ceir yma bennod solet gan Cynfael Lake ar farddoniaeth gaeth Si么n Rhydderch, yr almanaciwr a'r argraffwr y mae ei awen ychydig bach uwchlaw awen y beirdd o'r ail ganrif ar bymtheg y bu GT yn ddigon llawdrwm arnynt yn ei dro.

    Yn ysgubol
    Heb os nac oni bai, daliwyd gwaith Gwyn, ac adlewyrchwyd gwaith Gwyn, yn ysgubol ardderchog yn y Gyfrol Deyrnged wir deilwng hon, a thrwy'r cyfan daliwyd ei gymeriad yn ogystal, yr annibynnwr (a'r Annibynnwr), yr arloeswr, y difrif annifrif, yr egn茂ol diorffwys, di-ffws.

    Aristocrat aeddfed
    Rhyfedd i lanc a'i hadwaenai ac a'i hoffai ddeugain a phump o flynyddoedd yn 么l, mewn ystafell ddarlithio fel ar gwrt tenis, weld ar y clawr ei ben mewn efydd gan John Meirion Morris fel aristocrat aeddfed, a'i weld gyferbyn 芒'r ddalen deitl yn benwyn, ond mor gadarnwedd ag un o'r duwiau, -- rhyfedd, achos, yn ogystal 芒'r athro cadair a'r cydweithiwr o gyfaill caredig, edmygais i'r bowliwr cyflym ar gae criced erioed, yn ei fan yn bowlio mor beryglus o gyflym fel y torrodd fawd un batiwr o d卯m Athrawon M么n unwaith.

    Yn y slips
    Ei weinidog, nage, ei gyn-weindiog bellach, biau ei bortreadu yn Gweledigaethau, ac y mae John Gwilym Jones yntau wedi nabod ei natur ar faes.

    "Gollyngwch chi ddaliad yn y slips oddi ar ei fowlio," ebr ef, "a byddwch yn lwcus os cewch chi faddeuant cyn wynebu t芒n uffern."

    Wel, mi ollyngais i ddaliad oddi ar ei fowlio yn y slips un tro.

    Sniciodd y batiwr y belen nesaf i'r slips eto, a, do, John, daliais honno.
    Onid e, darllen gweledigaeth olaf Mr Wynne o'r Las Ynys y buaswn i hyd y dydd heddiw.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy