麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Tyllau
Trosiad Cymraeg Holes yn llenwi twll
  • Adolygiad Glyn Jones o Tyllau. Addasiad Cymraeg Ioan Kidd o Holes gan Louis Sachar. Gomer. 拢6.99.


  • Mae'n ddeng mlynedd ers i Louis Sachar gyhoeddi ei nofel Holes.
    Ers hynny fe'i haddaswyd yn ffilm Ddisney, ei phleidleisio'n un o lyfrau'r 麻豆约拍 Big Read Top 100 a'i chyfieithu i nifer o ieithoedd.
    O'r diwedd wele'r cyfieithiad Cymraeg - Tyllau.

    Clawr y llyfr Yn 么l yr awdur, y lleoliad yn hytrach na digwyddiad neu gymeriad a'i hysbrydolodd i sgrifennu'r nofel.

    Anialdir Tecsas yw'r lleoliad hwnnw ac o hynny y daeth y syniad o wersyll Glaslyn, canolfan i droseddwyr ll'r anfonir Stanley Yelnats, prif gymeriad y nofel, er ei fod yn ddieuog.

    Cloddio tyllau
    Cloddio twll yw'r gorchwyl, un bob dydd, pum troedfedd bob ffordd.
    "Da chi'n cloddi er mwyn adeiladu cymeriad. Ond os ydach chi'n digwydd d诺ad o hyd i rwbath, mi fasa'r Warden isho clywad amdano fo," meddai un o swyddogion y gwersyll.

    Dyma enghraifft benigamp o grefft yr awdur. Tyn ein sylw at sinistrwydd y sefyllfa. Beth mae staff y gwersyll yn ei ddisgwyl i'r bechgyn ei ganfod yng ngwely llyn sych?

    Yn sydyn nid yw anialdir Tecsas yn lle mor anniddorol. Enynir ein chwilfrydedd. Rhaid darllen ymlaen.

    Ond nid celwydd yw'r 'cloddio er mwyn adeiladu cymeriad' chwaith. Buan y try'r frwydr i oroesi yn gystadleuaeth wenwynig rhwng y cymeriadau, a rhwng staff y gwersyll a'i gilydd. Dyna'r helynt ynghylch yr hadau blodau haul a Stanley o flaen ei well yn nghaban y Warden.

    "Trodd y Warden i wynebu Mr. Syr, a oedd yn eistedd wrth y pentan.
    'Felly, rwyt ti o'r farn taw fe ddygodd dy hade blode haul?'
    'Nagw. Mae e'n gweud taw fe aeth 芒 nhw, ond rwy'n credu taw -'
    Camodd hi tuag ato a'i daro ar ei wyneb . . .
    'Sdim llawer o ots gyda fi am dy hade blode haul.'"

    Mae'r datblygiad cymeriadol yn naturiol, ac eto'n annisgwyl. Dyma un o brif gryfderau'r nofel.

    Mewn modd tebyg, hynt Stanley. Mae'r awdur yn ei achub drwy adael iddo brofi'i hun yn ddieuog.

    Nerth a chyfaill
    Canfu Stanley gryfder yn y gwersyll, canfu gyfaill, ac am y tro cyntaf yn ei fywyd, canfu hapusrwydd. Trwy ei weithredoedd ef condemnir y Warden farus a'i gwersyll i ddinistr. Dyma brif thema'r nofel. Y gwan yn trechu'r cryf.

    Llwydda'r awdur i oresgyn cyfyngder ei leoliad gyda'r dull y cyflwyna ei stroi. Mae'n dechrau in media res, hen dechneg lenyddol sy'n golygu dechrau stori ar ei chanol.

    Yng nghwrs y nofel eir a ni'n 么l i wahanol gyfnodau yn y gorffennol; i fywyd Stanley ychydig wythnosau cyn ei anfon i'r gwersyll, yn 么l gan mlynedd pan roedd tref lewyrchus, llyn a lladron penffordd ar safle gwersyll Glaslyn, ac yn 么l drwy hanes teulu Stanley, at ei "hen-dad-cu-pwdr-y-diawl-a-ddygodd-fochyn" ac a ddygodd hefyd felltith ar y teulu.

    Dyma dechneg effeithiol am dri rheswm.
  • Sicrha nad yw'r nofel yn troi yn ei hunfan.
  • Dengys fel mae'r gorffennol yn dylanwadu ar y presennol ac fel y dylanwada hwnnw yn ei dro ar y presenol, un arall o brif them芒u'r nofel.
  • Galluoga'r awdur i wneud defnydd o eironi dramatig. Gwyddom ni arwyddocad pethau na 诺yr cymeriadau'r nofel amdanynt.

    Cyd-ddigwyddiadau
    Unig wendid y nofel yw ei bod yn frith o gyd-ddigwyddiadau cwbl angrhedadwy.

    Esgidiau ymarfer chwaraewr p锚l-fas enwog yn disgyn o do car, dros ben wal a tharo Stanley ar ei ben.
    Eiliadau wedyn, gwelir ef gan yr heddlu a'i arestio.

    Yng ngwersyll Glaslyn cyferfu 芒'r hogyn a'u dygodd, sy'n digwydd bod yn ddisgynnydd i'r sipsi y dygodd Tad Cu Stanley fochyn ganddi.

    Wedi dweud hyn, mae'r cyd-ddigwyddiadau hyn yn plethu i'w gilydd yn drefnus sy'n dyst i rym dychymyg yr awdur.

    Llwyddiant cymysg
    Ioan Kidd, cyn gyflwynydd Ffeil a gafodd yr her o addasu'r nofel afaelgar hon. Cafodd lwyddiant cymysg.

    Heb unrhyw amheuaeth llwyddodd i gadw cynnwrf ac awyrgylch y testun gwreiddiol. Mae llwyddiat y nofel Gymraeg yn brwf o hynny.

    Bu ei ymgais i gyflwyno'r cefndir estron i gynulleidfa Gymraeg hefyd yn llwyddiant. Cymerer y frawddeg hon:

    "Ond th芒l hi ddim iti gael dy gnoi gan fadfall felen fraith."

    Er na wn i beth yw un o rheini, gwn fod yr enw yn un o'r enwau Cymraeg gorau a roed ar anifail sy'n estron i'r tir hwn.

    Dyna wersyll Glaslyn wedyn; yn swnio mor Gymreig a Glan Llyn neu Langrannog.

    Wrth drosi sgwrs mae'r Gymraeg yn gyhyrog a naturiol:

    " 'Ble mae'r ysbail?'
    'Does 'na ddim ysbail,' meddai Kate.
    'Gad dy gelwydd!' gwaeddodd Trout. 'Rwyt ti 'di ysbeilio pob banc o fan hyn i Houston.'
    'Well i chi weud wrtho fe,' meddai Linda. 'Mae di mynd i'r pen arnon ni.'"

    Anystwyth
    Fodd bynnag, ofnaf fod yr addasydd hefyd yn euog o or gymhlethu cystrawen ei frawddegau.
    "Doedd Stanley na'i deulu ddim yn credu mewn melltithion," meddai unwaith.
    O ddweud y frawddeg yn uchel rhaid rhuthro'r 'ddim yn' a'r frawddeg yn anystwyth o ganlyniad a'r tri negydd yn taro'n chwithig.

    Oni fyddai, Nid oedd Stanley na'i deulu'n credu mewn melltithion yn llyfnach o lawer heb beri anhawster?

    Nofel i bawb yw hon ac yn un digon cyffrous i hudo'r ifanc o'r teledu, pe feiddient ei diffodd. Nid yw'n rhy simplistig i'r darllenydd h欧n ychwaith ac i rai sy'n stryffaglio yn nyfnderoedd llenyddiaeth, bydd fel awel Fai drwy'r t欧.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy