麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dauwynebog
Cerddi 'meistr cyfoes'
  • Adolygiad Grahame Davies o Dauwynebog gan Ceri Wyn Jones. (Gomer, 拢7.99. 78 tt.


  • Feddyliais i 'rioed am Ceri Wyn Jones fel rhywun dauwynebog.

    Ond nid dauwynebog yn ystyr 'twyllodrus' a olygir gan deitl yn y llyfr hwn, sef y gyfrol gyntaf i oedolion gan y bardd a ddaeth i amlygrwydd pan enillodd Gadair Prifwyl Y Bala yn 1997, ac a fu ers hynny am gyfnod yn Fardd Plant Cymru.

    Yr hyn a olygir, yn 么l broliant y clawr cefn, yw: "deuoliaeth, yn dathlu a diawlio cymhlethdod byw a bod ar ymyl sawl dibyn - yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol, ac yn ysbrydol."

    Feddyliais i 'rioed am Ceri Wyn Jones fel bardd amwysder a gwrthgyferbyniadau ychwaith.
    Ac a bod yn onest, er gwaetha'r hyn a ddywed y broliant, ar 么l imi ddarllen y gyfrol gref hon, credaf nad dyna ei brif nodwedd.

    Mae'n wir yr ymdrinnir 芒 sefyllfaoedd o dyndra mewn nifer o ffyrdd - byw a darfod, geni a marw, ac yn y blaen ond nid yw gwrthgyferbyniad yr un peth 芒 deuoliaeth.

    Yn wir, unoliaeth yn hytrach na deuoliaeth sy agosaf at ddisgrifio cywair y llyfr ar y cyfan.

    Eithriadau yw enghreifftiau lle yr ymddengys bod y bardd ei hun yn ansicr o ble y safai, lle mae rhwng dau feddwl, neu lle mae'n amheus pa wyneb i'w wisgo. Ceir hyn, efallai, yn yr englyn gwych Rhwng Dau Olau ar Lan yr Aber:

    Lle bo'r 'Paham?', lle bo'r 'Pwy?' 'n tybio bod
    ateb uwch na mympwy,
    oedi'n anwahanadwy
    y mae'r Duw mawr a'r Dim mwy.

    Dweud sy'n dwyn i gof ymsonau amheugar T.H.Parry-Williams neu R.Williams Parry.
    Ac mae'r llinell olaf iasol yn enghraifft o un o'r cymwynasau gorau y gall bardd wneud 芒'i gymdeithas, sef bathu syniad gwreiddiol a'i drefnu mewn geiriau cofiadwy, a thrwy hynny ehangu rhychwant deall a chydymdeimlad y darllenydd.

    Ni fydd fy syniadau am ddirgeleddau bodolaeth byth yr un fath ar 么l darllen y geiriau.

    Angen mwy o hyn
    Mwy o'r meddwl gwreiddiol yna sy' eisiau gan feirdd Cymraeg. Ofnaf fod gormod ohonynt, yn enwedig y rhai sydd ag agwedd gymdeithasol fawr i'w canu, yn bodloni ar gymryd syniadau cyffredin eu cymuned, eu gwisgo mewn ceinder geiriol, ac yna eu cynnig yn 么l i'w cynulleidfa gefnogol.
    Cylch cyfyng cadarnhad.

    Wrth ddarllen hanner cyntaf Dauwynebog, dyna a ofnais oedd yn digwydd, o weld testunau'r mwyafrif llethol o'r cerddi: brwydr yr iaith; dirywiad iaith; adfywiad iaith; cadw'r mur; dosbarthu taflenni'r Blaid; ymgroesi rhag gweld Jac yr Undeb; dychanu Tony Blair; ceryddu George W. Bush; gresynu at fewnfudwyr anwybodus o Saeson; dathlu Owain Glynd诺r; mawrygu gwrthryfelwyr Gwyddelig, ac yn y blaen.

    On message
    Nid nad yw'r cerddi yma'n rhai celfydd.
    Maen nhw, a chan mai ymdrin 芒 deunyddiau diwylliannol y mae cynifer o feirdd Cymraeg yn eu gwaith bob dydd fel athrawon, darlithwyr, cyhoeddwyr neu olygyddion, ni ddylid edliw gormod iddynt ddefnyddio pynciau gwleidyddol a chymdeithasol fel testun cerddi, dim mwy nag y dylid edliw i Dic Jones ddefnyddio delweddaeth byd amaeth.

    A go brin y medrwn osgoi'r her ddiwylliannol sy'n ein hwynebu ar bob ochr.
    Ac ni ddylem wneud hynny ychwaith.

    Ond 芒 llenorion Cymraeg fel petaent oll ac un on message yngl欧n 芒'r materion hyn ni theimlais fod deuoliaeth gweledigaeth ar waith yma fel y cyfryw.
    Mewn cerddi fel y rhain, mae'r bardd i'w weld yn gwisgo agweddau ei gymuned yn gyfforddus fel hen siaced.

    Felly nid newydd-deb syniadol, nac amwyster pryfoclyd, yw rhagoriaethau'r llyfr hwn. Yn lle bod y broliant a'r teitl yn hawlio nodwedd nad yw mor amlwg 芒 hynny yn y llyfr, hwyrach mai gwell fuasai fod wedi tynnu sylw at wir ragoriaethau'r llyfr, sef rhai digon uniongyrchol: llwyrfrydedd, angerdd a chariad.

    Mae'r nodweddion hyn yn taro'r darllenydd mor galed 芒 thacl gan y chwaraewr rygbi a folir yn un o gywyddau godidocaf y gyfrol. John Cilrhue sydd 芒:

    Bodiau fel byllt y beudy
    a chefen fel talcen t欧.

    Heb sefyll yn 么l
    Nid rhywun i sefyll yn 么l a sylwebu'n ddiduedd ac yn eironig o'r ystlys yw Ceri Wyn Jones ac fel sy'n addas iawn i rywun a chwaraeodd rygbi dros Gymru yn fachgen, mynd ar ei ben i wres y drin a wna gan anelu nid yn ddauwynebog ond yn ddi-dderbyn-wyneb, am linell llwyddiant.

    Yn ymroddiad tanbaid ei gymhellion, a chyhyrau cryfion ei gynghanedd, mae hwn yn hyrddiad rheng-flaen o lyfr.

    ...lle caiff chwe gwar ddynwared
    s诺n crynu sinc rhyw hen sied,
    neu eto 'Clatsh!' iet y clos
    nes gweld s锚r eger agos.

    Yr ail hanner
    Yn ail hanner y llyfr, cymeriadau a throeon bywyd yw testun y rhan fwyaf o'r cerddi: englynion, cywyddau ac ambell i gerdd rydd.

    Mae trysorau lawer iawn yma, fel y gerdd wych Y Bioden, lle mae'r bardd, fel athro, yn ceisio ysgogi disgybl i weld yr aderyn hwnnw mewn rhyw ffordd heblaw'r amlwg ddu-a-gwyn.

    Yn y modd y cyplysir deialog 芒'r gynghanedd, mae'n glasur.

    Bywyd cefn gwlad
    Ceir yma hefyd awdl arobryn Y Bala, Gwaddol, cerdd sy'n nodedig am ei gonestrwydd yn cydnabod nad closni cymunedol cefnogol yw bywyd cefn gwlad bob amser, ac sy'n dinoethi'r unigrwydd llethol a geir ar ffermydd ynysig.

    Ond os oes cyfyngiadau i fywyd cefn gwlad, mae cryfder hefyd. O agosrwydd perthynas y bardd gyda'r gymdeithas leol y daw llawer o'r cerddi hyn: yn alarnadau, yn gyfarchion ac yn ddathliadau dwys a digri.

    Os mai "dyn nabod-neb" oedd testun Gwaddod, ymddengys mai "dyn nabod-pawb" y mae'r bardd.

    Ac adnabod nes bod adnabod: sef y cyflwr hwnnw nad oes modd ei gyrraedd drwy unrhyw lwybr cyflym, dim ond drwy hir ymwneud a hir ymroi.

    Mae cerddi Dauwynebog yn dangos traddodiad y canu caeth cymdeithasol ar ei gryfaf.

    Y clawr
    Ychydig o eiriau am y clawr chwaethus: Clawr y llyfr mae'n llwyd a gwyn gyda rhyw wedd ariannaidd, a dyluniad syml, diymdrech, diffwdan sy'n fy atgoffa o fersiwn mwy graenus o'r math o gyfrolau Gymraeg ddiaddurn ond urddasol a gyhoeddwyd yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd.

    Maen nhw'n edrych yn awdurdodol ac yn safonol o hyd gan arddangos y math o hunanhyder tawel nad yw angen trimins afrwydd allanol.

    Am gefn y clawr, rwyf wedi s么n yn barod, gan nodi nad oedd y ddeuoliaeth y sonnir amdani yno yn amlwg imi yn y gyfrol ei hun.

    Bid a bo hynny. Ceir yno un dyfyniad hefyd, a hwnnw gan Alan Llwyd. Un byr a phwrpasol:

    "Dyma feistr cyfoes."

    Ac o feddwl am grefft y gyfrol hon, ni allaf ond cydsynio'n llwyr.


    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy