麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Nid Roc ... ond Rol
O fro'r chwareli i Benigamp
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Nid Roc ... ond Rol. Hunangofiant Rol Williams. Gwasg y Bwthyn, 拢6.95.


  • Mae clip sain ar ddiwedd yr adolygiad.

    Chefais i erioed y pleser o gyfarfod Rol Williams - er bod ei enw a'i lais yn adnabyddus i mi.

    Fe'i cofiaf fel un o griw ffraeth t卯m y Gogledd o Penigamp - un o gyfresi poblogaidd Radio Cymru 'slawer dydd.

    Clawr y llyfr Hyfryd cael darllen ei hunangofiant a rhyw fath o roi cnawd ac esgyrn i'r llais.

    Cafodd blentyndod a magwrfa ym Mrynrefail, bro ddiwydiannol y chwareli ac yn nhraddodiad yr holl ddiwylliant yr ydym yn ei gysylltu 芒'r ardaloedd hynny. Diwylliant capel ac eisteddfod a'r cyfarfodydd cymdeithasol.

    Mae'n anochel fod rhywun o'm cenhedlaeth i, wrth ddarllen cyfrol fel hon, yn cymharu ei brofiadau ei hun 芒 phrofiadau'r awdur - a phethau rhyfedd yw'r rheini yn aml!

    Dau driawd
    I feddwl bod disgyblion Ysgol Brynrefail yn gorfod eistedd yn llonydd am ddwyawr unwaith y flwyddyn i ddiodde triawd llinynnol o'r enw The Bangor Trio er enghraifft - fgan mai Y Dorian Trio fyddai'n merwino clustiau plant ysgolion uwchradd Sir Aberteifi.

    Tybed ai yr un triawd oedden nhw, dan enw arall yn Sir Gaernarfon?!

    Rhyfedd o beth nad yw plant heddiw'n hel mwyar duon. Cefais y profiad yr haf yma o blentyn yn gofyn imi "Odi chi'n gallu byta nhw, syr?"

    Ond cymydog yn s么n wrtha i fel y bydde glowyr oedd yn gorffen shift ganol prynhawn a mynd allan i'r mynydd i hel mwyar.

    Cawn gan Rol Williams ddisgrifiadau o'r chwaraeon plant, wedyn gan beri imi holi, tybed a yw'r hen chwaraeon Cymreig a Chymraeg wedi diflannu'n llwyr o iardiau ysgolion y br枚ydd Cymraeg erbyn hyn?

    Yn yr awyrlu
    Cafodd brofiadau diddorol yn yr awyrlu adeg y rhyfel, gan gynnwys cyfarfod a dod i adnabod rhai o b锚l-droedwyr enwog iawn y cyfnod.

    Mae un stori hynod o drist am gyfaill a chwaraewr disglair o'r Alban.

    Adeg y rhyfel a'r deng mlynedd wedi hynny yr oedd yn orfodol i bob bachgen ifanc, fwy neu lai, dreulio cyfnod yn y Lluoedd Arfog ac rwy'n tybio i lawer elwa llawer o'r trefniant drwy gael profiadau a chyfarfod pobol na fydden nhw byth wedi dod i'w hadnabod fel arall ac mae'n amlwg i Rol Wiliams wneud yn fawr o'r cyfle hwnnw.

    Nosweithiau llawen
    Hon a'r bennod am ei brofiadau yn arwain part茂on noson lawen yw rhai difyrraf y llyfr ac fe hoffais y stori am Napier Williams - rwyn tybio mai dyna'r Napier rwy'n ei gofio'n drefnydd Clybiau Ffermwyr Ieuanc yn Sir Gaerfyrddin - yn canu Arafa Don mewn noson lawen ym Mhenmacho a chael andros o fraw o weld Ritchie Thomas yn y gynulleidfa.

    O blith y nifer o gerddi sy'n britho'r gyfrol dylwn nodi'r un i gofio'i ddiweddar briod, Gwenlli, a fu farw y llynedd a hefyd ei fersiwn ef ei hun yn null y Co Bach o Llongau Madog.

    Stagio'n miglo un deg tri
    O longa' bach o cei bach ni,
    Stagio Madog - dewr o go
    Ordro pawb i neud fel fo;
    Mynd y mae i roi ei begla
    Ar le na stagiodd neb tro d'wtha,
    A'tur e'byd paid a son
    Ydi stemar bach Sir F么n.

    Fe gafodd sawl parod茂wr a pherfformwyr hwyl gyda Llongau Madog dros y blynyddoedd - ond rwy'n hoffi hwnna'n arbennig.

    Deuawd
    Diddorol gweld, hefyd, y cyfeiriadau at raglenni teledu poblogaidd fel Hob y Deri Dando a chanfod iddo unwaith ganu deuawd gyda Myrddin - g诺r Rosalind ac aelod o Hogia'r Wyddfa.

    Mae yna sawl stori dda am droeon trwstan, un neu ddwy dda iawn am Penigamp pan aeth y gyfres ar y teledu.

    Diddorol hefyd cael fy atgoffa am Deg Uchaf Y Cymro fu'n eitha poblogaidd un adeg.

    Cyfrol ddifyr am gymdogaeth dda gan un fu, ac sy'n, was da i'r gymdogaeth honno.

    Yn ystod ei sgwrs mae'n cyfeirio at:

  • Denu cystadlaethau rhwyfo Gemau'r Gymanwlad 1958 i Lyn Padarn.
  • Syr Thomas Parry dan deimlad.
  • Yn yr RAF
  • Sgrifennu at Trevor Ford.
  • Neges i Mr Hitler.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy