麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O Lethrau Cefn Gwyn
Cofiant geiriadurwr
  • Adolygiad Meg Elis o O Lethrau Cefn Gwyn gan Gwilym Lloyd Edwards. Carreg Gwalch. 拢7.50


  • "For really I think that the poorest he in that is in England hath a life to live as the greatest he."

    Fe allwn roi hwn fel arwyddair i'r gyfrol fechan hon - ond buasai'n rhaid i mi newid "in England" wrth gwrs, a throi'r Putney Debates yn Rhyfel y Degwm, yn codi'r Faner Goch, yn Bont Trefechan, yn Wrthryfel y Siartwyr - o, be di'r iws, gyda manylion y selebs distadlaf yn Lloegr yn tra-arglwyddiaethu ar ddigwyddiadau go-iawn yng Nghymru...?

    Clawr y llyfr Hanes bywyd distadl.
    Nid distadl ychwaith, ddywedwn i, gan mai hanes geiriadurwr yw hwn ac un a fu yno ar y cychwyn, adeg sefydlu'r hyn sy'n Feibl i ni gyfieithwyr a phawb sy'n ymh茅l ag iaith, sef Geiriadur y Brifysgol.

    Mae'n dod o ardal fy nghyndeidiau. Mae'n ymwybodol, o'i dras.
    Ac eto ... ac eto.

    Ysgol fach
    "Diddordeb lleol," meddai rhywun wrth sb茂o ar y llyfr yr oeddwn i'n ei ddarllen. Ie debyg, os ydych am ddarllen hanes ac achau'r teulu.
    Maent yn cael eu gosod allan yma yn berffaith, yn gywrain - a does gen i ddim diddordeb o gwbl.

    A hanes bywyd mewn ysgol fechan?
    Sori, mae ysgolion bychain yn cau y dyddiau hyn, a iawn hynny.
    Mae gan bobl fwy o ddiddordeb mewn cael addysg gyflawn i'w plant na'u cadw gydag un athro/athrawes am holl flynyddoedd pwysig eu datblygiad addysgol.

    Petaen nhw'n gwir yn ymboeni am ddyfodol yr ysgol leol, mi fuasent wedi aros yn y pentref a gyrru eu plant yno. Fe wnaethon nhw hynny yn Ysgol Llangywer yn amser Gwilym Lloyd Edwards ac y mae o'n brawf o werth yr addysg honno yn ei chyfnod.

    Gyda'r cenedlaethau a ddilynodd, newidiodd pethau, aeth y plant a'u teuluoedd i ffwrdd ymhellach, a moethusrwydd bellach yw cwyno am gau'r ysgol fach leol.

    Fel crair
    Rydw i'n edrych ar y gyfrol hon fel petawn i'n edrych ar grair. Mi alla'i ganmol cymaint amdani.
    Y sgwennu clir, annwyl, cain.
    Y darlunio manwl.
    Y cymeriad annwyl a ddatgelir.
    Y byd sydd wedi diflannu.

    Hwnna ydi o - fel y basa Ifas y Tryc yn ddweud, creadigaeth Wil Sam, sydd hefyd wedi mynd.
    Sb茂o'n 么l y mae rhywun yn y gyfrol hon.
    Mae'n gameo perffaith o fyd diflanedig, ond y mae'r byd, a'r ysgrifennu hefyd, yn perthyn i gyfnod a fu.

    Tydw i ddim wir yn pryderu am hyn am fod yna gynulleidfa i'r math yma o sgwennu o hyd ac am fy mod i'n ei werthfawrogi.

    Ac fel rhywun sy'n ymwneud 芒 geiriau, mae'r adran am fywyd yr awdur fel geiriadurwr yn hynod werthfawr ac yn ddiddorol dros ben.

    Yr ifanc
    Ga'i fod yn onest?
    Fydd y llyfr hwn ddim yn denu darllenwyr ifanc newydd at y Gymraeg - ond nid dyna'r bwriad, decini. Mi fydd yn denu'r to h欧n.
    Iawn. Dwi'n nes谩u at y to hwnnw fy hun. Erbyn hyn . . .

    Ond dyma fy nadl fawr.
    Mae angen ysgrifennu am y gorffennol mewn modd sy'n denu'r dyfodol.
    Mae J K Rowling yn ei wneud o. A pheidiwch a chamgymryd, y gorffennol sydd ganddi hi - ysgolion bonedd, cred, a brwydr. Perthyn a chred, yw popeth bellach, a buasai heddlu'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn dod i lawr ar Harry Potter fel tunnell o frics petae ganddynt y crebwyll i'w ddeall.
    Ond does ganddyn nhw ddim.

    Diolch am hynny, neu fe fuasen nhw'n alltudio'r math hwn o lyfr hefyd - am ei fod yn s么n am gymdeithas geidwadol, batriarchaidd, anghofiedig - werthfawr.

    Dwi'n mawrygu'r llyfr hwn a hefyd yn dyfynnu Gerallt Lloyd Owen:

    "Fel hyn bob dydd diflannwn; fesul un,
    Fesul awr ffarweliwn
    脗'r Cymreictod hynod hwn,
    Diwylliant nas deallwn."

    Mae yna rai fydd yn deall ac yn croesawu'r llyfr hwn.
    Nid y mwyafrif. Ond tydan ni wedi arfer 芒 bod mewn lleiafrif?

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Martin Williams


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy