麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hon, Ynys y Galon
Boddi mewn delweddau iasol a thrawiadol

  • Adolygiad Lois Eckley o Hon - Ynys y Galon. Delweddau Ynys Gwales gan Iwan Bala. Gwasg Gomer 拢19.99.
  • Byddwch yn barod i gael eich boddi mewn delweddau iasol a thrawiadol yn y gyfrol newydd Hon.

    Mewn llyfr amlgyfrwng sy'n ddarluniau bl锚r a lliwgar ac yn llawn celfyddyd geiriau a dychymyg byw, Ynys Gwales yw calon y gyfrol hon.

    Gwales Beth sy'n dod i'ch meddwl chi wrth feddwl am Gwales? Ydi hi'n ynys hardd yn llawn breuddwydion ac yn anymwybodol o'r byd mawr y tu allan i'w thraethau fel yn y Mabinogion?

    Ydi hi'n ferch yn llyfu ei chlwyfau o dan y tonnau fel yng ngeiriau Mererid Hopwood, neu efallai yn fabi i fam natur fel yn un o ddelweddau Iwan Bala?

    Hen eiriau
    Ditectif chwedloniaeth ydi Sioned Davies yn ei chyfraniad hi, yn chwilota'n drwyadl drwy hen eiriau'r Mabinogion am bob cliw posib wrth ein tywys ni ar helfa drysor.

    Ei 'Greal Sanctaidd' hi yw'r ynys a chyda geiriau'r Capten John Evans mae hi'n ceisio rhoi cnawd ar esgyrn yr awgrym bod ynys o fywyd a phridd wedi bodoli yno ar un amser.

    Mae'r gyfrol yn llawn symbolaeth fyd-eang, delweddau o ynys goll ynghudd o dan y d诺r yn adlais o Atlantis, Lemuria - a Chantre'r Gwaelod.

    Mae'r m么r fel mam yn cadw'r cyfan yn gyfrinach.

    Y benglog
    Chewch chi ddim dianc rhag benglog Hon wrth iddi syllu allan o sawl llun ar y tudalennau glosi.

    Penglog Mae'r benglog yn dyst i bopeth, yn gydwybod dawel gyda thyllau gwag, dyfnion, du yn olion y llygaid.

    Mae Br芒n yn dal i'n gwylio ni o hyd.

    Mae'r benglog yn symbol mor bwerus - ac wedi ei defnyddio gan sawl diwylliant ar hyd yr oesoedd ac yn parhau felly fel y gwelwyd yng ngwaith diweddaraf Damien Hurst.

    Chewch chi ddim byd mwy ysgytwol na phenglog i ddehongli bywyd a marwolaeth mor amrwd.

    Mae byd symbolaeth yn ddealladwy i bawb beth bynnag eu iaith ac er mai cyfrol Gymraeg yw Hon mae hi hefyd yn goresgyn iaith a gwlad a chonfensiynau gyda'r byd ysbrydol wedi ei blethu'n drwy'r byd materol.

    Pynciau oesol
    Mae'r pynciau yn bynciau oesol:

  • Oes yna baradwys?
  • Pam ydym ni yma?
  • Oes yna fwy i fywyd na wyddom ni?
  • Oes yna Dduw a chreawdwr mawr sydd yn goeden bywyd i'r hyn oll?

    Dengys y Duw paganaidd Cernunnos ei liwiau yma hefyd mewn darn o waith gan Iwan Bala ac yn cynnig dim ond un o lawer o bosibiliadau yn y gyfrol.

    Hiraeth a chadwynau
    Mae yna hiraeth yma a chadwynau sy'n ein clymu ni'n dynn i'r gorffennol mewn delweddau a geiriau ac mae'r cyfan wedi ei osod at ei gilydd fel llyfr sgets yn eiriau yma a lluniau acw.

    Rydyn ni wedi ein caethiwo mewn deuoliaeth fel y sylwa John Meirion Morris yn ei erthygl ef.
    Y goleuni a'r tywyllwch, yr Ying ar Yang. Rydym ni fel Cymry i gyd yn rhan o chwedl Hon.

    Yn sicr wrth imi droi tudalennau'r llyfryn bwrdd coffi yma mae'n fy nharo pa mor soffistigedig a dwys ydi campweithiau'r Mabinogion.
    Mae yna wersi oesol, delweddau bythgofiadwy a dychymyg creadigol heb ei ail yn y stor茂au hyn.

    Bydd y dychymyg a'r dehongli yn parhau hyd byth gymaint yw cyfoeth y geiriau hynafol.
    Diolch am Hon.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy