Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Sibrydion o Andromeda
Dychryn a chwerthin o'r gofod
  • Adolygiad Eiry Miles o Sibrydion o Andromeda gan Emyr Wyn Roberts. Gwasg Gwynedd. £7.95.


  • Ffuglen wyddonol yw nofel gyntaf Emyr Wyn Roberts - ond o gofio mai ef yw Himyrs - un o'n digrifwyr Cymraeg mwyaf poblogaidd a llwyddiannus - nid yw'n syndod fod tipyn go lew o hiwmor yn y stori hon.

    Clawr y llyfr Mae'r nofel yn adrodd hanes dyn ifanc digon cyffredin o'r enw Dafydd Gruffydd, sy'n taro ar ymwelwyr o alaeth bell wrth loncian un noson.

    Tipyn o sinig yw Dafydd, sy'n amharod iawn i gredu ei fod yn wynebu 'êliyns' go iawn. Yn anffodus iddo, trosglwyddir gwybodaeth bwysig gan yr êliyns i'w gorff - gwybodaeth y mae ymerodraeth ddieflig y Maelai yn awyddus iawn i'w chael.

    Gyda chymorth êliyns da o lwyth y Delyr, newyddiadurwraig chwilfrydig (a hardd) o'r enw Kate, a'i gyfaill Frankie, ceisia Dafydd ddianc rhag y Maelai ac atal y byd rhag bod yn rhan o'u hymerodraeth greulon.

    Ffeithiau a ffantasi
    Yn ôl broliant y nofel, gwyddoniaeth yw maes yr awdur ac mae'n ymddiddori'n fawr mewn seryddiaeth. O ganlyniad, plethir ffeithiau am alaethau a phlanedau i ganol y stori, a gwelwn ddealltwriaeth gref yr awdur o'r gofod.

    Serch hynny, ffantasi lwyr yw'r stori, ac mae'r awdur yn amlwg wrth ei fodd yn creu creaduriaid dychmygol - ac od eithriadol.
    Dyma'r creadur a wêl Dafydd ar ddechrau'r nofel:
    Wyth llygad wedi'u gosod mewn parau o amgylch y pen, fel pedwar wyneb cloc o amgylch tŵr, ac un pâr yn syllu'n syth ar Dafydd. Ar ei ben roedd talpyn bach o ffwr a edrychai fel pe bai wedi ei drin mewn siop trin gwallt, ac yn gorffwys yn y canol roedd rhywbeth yn debyg i ddiemwnt neu addurn.

    UFOs
    Mae'r awdur hefyd yn gwbl gyfarwydd â chwedloniaeth yr UFOs, fel y dengys y cyfeiriadau at ddigwyddiadau fel 'Roswell' a gwaith Arthur C. Clarke.

    Ond yr hyn sy'n gwneud y nofel hon mor wreiddiol a gwahanol i'r doreth o nofelau sci-fi yn ein siopau llyfrau yw ei bod mor Gymreig.

    Mae enwau'r êliyns, megis Gweddon a Blodeugan, yn adleisio enwau cymeriadau o'r Mabinogi (daw'r rheswm am hyn yn glir tuag at y diwedd).

    Cawn gyfeiriadau at broblemau mewnlifiad a thensiynau rhwng Cymry a Saeson ac mae hyd yn oed y car chase cyffrous ar ddiwedd y nofel yn rhuthro trwy bentrefi bach Sir Ddinbych.

    Er bod ynddi lawer o gonfensiynau nodweddiadol nofelau Americanaidd y genre, nofel wedi'i lleoli'n gwbl bendant yng ngogledd Cymru yw hon.

    Cofi dre
    Cymeriad Frankie sy'n bennaf gyfrifol am hiwmor y nofel - 'Cofi dre' annwyl a braidd yn ddiniwed sy'n gweithio gyda Dafydd yng Nghwmni Peirianneg John Watcyn.

    Fe'i bedyddiwyd yn Frankie Spook oherwydd ei fod wedi mopio'n llwyr ar UFOs ac mae bod yn rhan o antur fawr Dafydd a chael cwrdd ag êliyns go iawn yn brofiad cwbl wefreiddiol iddo.

    Mae'r deialogau rhyngddo ef a Dafydd yn ddigri' iawn ar brydiau ac yn torri ar y disgrifiadau toreithiog o blanedau a nano dechnoleg ac êliyns, a all fod yn ddryslyd i rywun fel fi, sy'n anghyfarwydd a'r jargon.

    Ambell neges
    Ar brydiau, ceisia'r awdur gyflwyno ambell neges ynghylch anoddefgarwch crefyddol a hysteria ynglŷn â therfysgwyr.

    Ar ôl cael ei weld yn ymddwyn yn amheus wrth geisio dianc rhag un o'r Maelai, caiff Dafydd ei gyhuddo o fod yn derfysgwr a'r rheswm dros hynny yw bod Nia, ei gariad, o dras Asiaidd.

    Mae'r profiad o gwrdd ag êliyns hefyd yn gwneud i Dafydd gwestiynu ei gred (neu ei ddiffyg cred) ei hun.

    Ond, yn aml, nid yw'r rhannau difrifol hyn yn taro deuddeg; fel petaent allan o le yng nghanol rhialtwch y nofel.

    Cymeriad Dafydd
    Yn yr un modd, mae ymgais yr awdur i roi tipyn o sylwedd i gymeriad Dafydd yn aflwyddiannus. Ceir cyfeiriad brysiog at farwolaeth tad Dafydd mewn damwain yn y chwarel, a dirywiad ei berthynas ef a Nia wedi hynny ond ni ddown i'w adnabod mewn gwirionedd ac efallai y byddai'r nofel ar ei hennill o fod wedi'i hysgrifennu yn y person cyntaf, ac o roi cyfle inni gael golwg gliriach ar feddwl Dafydd.

    Y diweddglo
    Nid yw'r diweddglo yn foddhaol o gwbl.
    Nid wyf yn un am ddiweddglo hapus o hyd ond mae'r diwedd yn swta a llawer gormod o fylchau a phroblemau heb eu datrys.

    Beth fyddai tynged Nia?
    Pam nad oedd ffrindiau Dafydd o Dafarn y Llong yn pryderu amdano?
    Oedd gan Dafydd deulu o gwbl?

    Serch hynny, nofel antur yw hi ac efallai imi ddisgwyl gormod ohoni. Wedi'r cyfan, mae hi'n ddarllenadwy, yn ddoniol ac yn gyffrous ac at ddant llawer o bobl ifanc yn eu harddegau (os na fydd eu rhieni'n poeni'n ormodol am y rhegi), a bydd helyntion Dafydd a Frankie Spook yn siŵr o ddod a gwên i wynebau ffans ffuglen wyddonol o bob oed.



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý