Casgliad sy'n plesio o ddyfyniadau
Mil a mwy o Ddyfyniadau gan Edwin C Lewis. Gomer. £19.99. Adolygiad Glyn Evans.
Mae Mil a Mwy o Ddyfyniadau gan Edwin C Lewis, yn gasgliad eang ei apêl mewn rhwymiad cadarn ar gyfer defnydd cyson.
Fel yr eglura'r awdur yn ei ragair mae rhai o'r dyfyniadau "yn hen a chyfarwydd, rhai yn hen ac anghyfarwydd a rhai yn gwbl newydd" a'r rheini yn amrywio o'r difyr a'r doniol i'r dyrys a dwys o ran ysbryd.
Gyda phob dyfyniad mae Edwin C Lewis yn nodi pwy ddywedodd beth ac ymhle. Er enghraifft:
"Beth yw ein tasg? Gwneud Prydain yn wlad deilwng i arwyr fyw ynddi," gan Lloyd George mewn araith yn Wolverhampton yn 1918.
A'r dyfyniad yna yn dod a ni at un arall o nodweddion y gyfrol - nid dyfyniadau Cymraeg yn unig yw'r cynnwys ond rhai o ieithoedd eraill hefyd gyda'r gwreiddiol yn ymddangos dan y trosiad Cymraeg - "What is our task? To make Britain a fit country for heroes to live in."
Mae rhai o'r dyfyniadau hyn yn rhai sy'n dra chyfarwydd yn barod - "Cyrhaeddais, gwelais, gorchfygais - Veni, vidi, vici" Iŵl Cesar er enghraifft ac yn rhai sydd i'w gweld mewn sawl un o'r myrdd o gasgliadau dyfyniadau a gyhoeddwyd yn y Saesneg dros y blynyddoedd.
O'r herwydd ni all rhywun beidio â holi ynglŷn â phwrpas eu cynnwys yma lle maen nhw'n mynd a lle dyfyniadau Cymraeg nad ydynt i'w gweld mewn lleoedd eraill.
Yn sicr fe fyddwn i wedi fy mhlesio yn well gyda mil a mwy o ddyfyniadau Cymraeg yn unig o gofio pa mor llwm yw hi arnom o ran cyfrolau.
Yr unig ddrwg gyda rheol mor haearnaidd a hynny yw y byddem yn colli hefyd ddyfyniadau bachog fel "Diwerth yw stori heb awdur" a "Dwêd ychydig ond dwêd e'n dda," o'r Wyddeleg!
I bawb
Am ei gasgliad dywed yr awdur - athro a phrifathro wrth ei alwedigaeth, a'i wreiddiau yng Nghwm Tawe:
"Adlewyrcha llawer o'r casgliad ran o gefndir y diwylliant cyfoethog a berthyn i bob Cymro a Chymraes: iaith syml hwiangerddi, rhigwm, cân werin a thriban; parabledd hen bennill; doniolwch ac arabedd sawl dywediad, dilysrwydd dihareb drawiadol; harddwch barddoniaeth a rhyddiaith afaelgar; addasrwydd gweddi gynnil, mawredd emyn addolgar ac ysbrydoliaeth geiriau'r Ysgrythur Lân."
Fe'i bwriadwyd meddai ar gyfer ysgolion, coleg a chartref "a bydd o ddefnydd cyson i bawb sy'n hoffi darllen," meddai'n ffyddiog.
Mae wedi dosbarthu'r dyfyniadau dan naw pennawd: Y Flwyddyn a'i Thymhorau; Cynghorion a Sylwadau; Cymru a'i Phethau; Hen benillion, caneuon gwerin, hwiangerddi a rhigymau; Y Beibl; Emynau; Gweddïau a dyfyniadau am Grefydd.
Rwy'n credu y byddai rhai wedi dymuno dosbarthu cyfyngach a mwy penodol - ac mae hynny wrth gwrs yn un o broblemau mawr y sawl sy'n mynd ati i lunio'r cyfrolau hyn.
Yr un modd, penderfynu rhestru dyfyniadau dan enwau awduron ynteu dan bynciau ac mae'n ddewis poblogaidd cynnwys y dyfyniadau dan enwau awduron.
Ond mae hynny wedyn yn galw am fynegai hynod o fanwl i helpu'r darllenydd ddod o hyd i sylwadau ar bynciau penodol.
Mynegai manylach nag a geir yn y gyfrol hon er enghraifft.
Bylchau
Os oes bai neu rwystredigaeth ynglŷn â'r gyfrol hon y ffaith bod bylchau yn y mynegai weithiau yw hynny.
Er enghraifft, er bod "gwynt" yn y mynegai nid yw'n ein chwythu at "Mae'th chwiban leddf drwy dwll y clo" ac yn y blaen o gerdd Y Gwynt, R Williams Parry , pedwerydd dyfyniad y gyfrol.
Ac er y gellid dod o hyd i "Mi ganaf a'r ysbryd, ond mi ganaf a'r deall hefyd" o edrych dan 'deall' ac 'ysbryd' nid fydd y sawl sy'n edrych dan 'canu' yn cael ei gyfeirio at y dyfyniad.
Ac ni fyddai edrych dan 'Coleg' nac 'Addysg' yn eich arwain at "Y wir Brifysgol y dyddiau hyn yw casgliad o lyfrau."
Yr un modd; dim ond o edrych dan 'disgwyl' y deuir o hyd i, "Y disgwyl mwyaf sy'n siomi fwyaf" er y byddai'n rhesymol gweld croesgyfeiriad dan 'siom' hefyd.
Bwlch mwy anfaddeuol yw peidio cynnwys y gair 'Afallaon' fel croesgyfeiriad at "Draw dros y don mae bro dirion" ac nid yw 'stori fer' yn ein harwain at ddiffiniad T H Parry-Williams o'r cyfrwng hwnnw.
Ond pethau sy'n peri rhywfaint o anhwylustod ymarferol yw'r rhain - fel arall mae'r gyfrol yn rhagorol ddigon o ran mynegai awduron ac o ran ei dewis o ddyfyniadau.
Bydd yn plesio'n eang er mai dewis un person o ddyfyniadau sydd yma.
Hyd y gall rhywun gasglu o'r trosiadau sydd yma o'r Saesneg mae'r cyfieithu i'r Gymraeg yn gwbl dderbyniol; er mor anodd y gall hynny fod gydag ymadroddion bachog sy'n haeddu ennill eu lle mewn cyfrol fel hon.
Braf hefyd medru rhoi enw wrth ddyfyniadau sydd mor gyfarwydd y maent wedi tyfu'n ddiarhebion bron fel "Mae mistar ar Mistar Mostyn".
Ychydig iawn, iawn, o lithriadau argraffu sydd yna gyda "Nid heb ei fai mor (sic) doethaf" yn eithriad prin.
Rhaid dweud hefyd y bydd darllenwyr arferol llyfrau Cymraeg yn gweld pris hon yn ddrutach na'r hyn maen nhw wedi arfer ei dalu - ond ochr arall y geiniog honno yw bod yma oriau lawer o ddifyrrwch ac o fudd i'w cael o'r llyfr. Ac fe fyddai'n gwneud anrheg benigamp.
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad i Geiriau Gorfoledd a galar