麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Eisteddfodau Geoff Charles
Cyfoeth o luniau steddfod rhwng rhwng y tri a'r saith degau
Llyfr sy'n si诺r o fod o ddiddordeb arbennig i bob eisteddfodwr yw un a gyhoeddwyd ar gyfer Eisteddfod Yr Wyddgrug, 2007 - casgliad o luniau eisteddfodol gan y diweddar Geoff Charles.

Yn dynnwr lluniau i'r Cymro ers Tridegau'r ganrif ddiwethaf gwelodd Geoff Charles nid yn unig yr Eisteddfod Genedlaethol yn ei holl agweddau ond hefyd holl amrywiaeth eisteddfodau eraill ar hyd a lled Cymru gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd.

Bob blwyddyn bu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ganolbwynt i'w weithgarwch fel tynnwr lluniau a newyddiadurwr.

Trydydd casgliad
Hwn fydd y trydydd casgliad o'i luniau a gyhoeddwyd yn ystod y tair blynedd ddiwethaf; wedi eu dethol gan Ioan Roberts o gasgliad Geoff Charles yn yr Amgueddfa Genedlaethol.

Bu Ioan Rioberts yn cydweithio ag ef yn ohebydd ar Y Cymro ac yno pan dynnwyd rhai o'r lluniau.

Du a gwyn yw lluniau'r gyfrol i gyd ac yn ddarlun hiraethus o gyfnod yn ymestyn o 1939 i 1974.

"Yn ogystal 芒 chofnodi enwogion a selogion y cyfnod, mae'r llyfr yn amlygu dawn Geoff Charles i ddal ysbryd achlysur diwylliannol unigryw," meddai Ioan Roberts a gafodd y cur pen o orfod dewis o blith miloedd o luniau.

Rhan bwysig
"Mae dros 120,000 o luniau negatif yn y casgliad, a miloedd o luniau Eisteddfodol, gan fod hyn yn rhan mor bwysig o waith Geoff Charles," meddai.

"Byddai wedi bod yn hawdd llenwi'r llyfr 芒'r lluniau ffurfiol, cadeirio a choroni'r beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ond mae pobl yn mynd i'r Eisteddfod am bob math o resymau, i eistedd a siarad 芒 ffrindiau, neu i gerdded o amgylch y maes. Felly roeddwn am gynnwys lluniau anffurfiol o'r cyfnod hwnnw hefyd; doeddwn i ddim am adael y werin bobl allan o'r llyfr," meddai.

Ac mae'r lluniau yn amrywio o un o Paul Robeson yn annerch oddi ar y llwyfan i D J Williams a Cassie Davies yn cael eu dal ar ganol sgwrs.

Nodiadau difyr
Er bod yr hanes y tu 么l i rai o'r lluniau yn eithaf amlwg mae Ioan Roberts wedi ychwanegu sawl nodyn difyr.

Er enghraifft ochr yn ochr 芒 llun o Nansi Richards, Telynores Maldwyn, a Catrin Jones, Telynores Mawddwy, yn1939, eglurir ei bod yn haws tynnu lluniau yn yr awyr agored yn y cyfnod hwnnw nag mewn pabell neu neuadd lle byddai'r golau'n wael.

Mae yma luniau bendigedig o enwogion fel Saunders Lewis, Cynan a Kate Roberts yn ogystal 芒 sawl llun cynnar o rai o s锚r mwyaf y sgrin fach fel Dai Jones, Dafydd Iwan ac Elinor Jones.

Perffeithio
Ond er nad oes amheuaeth i Geoff Charles berffeithio'i ddawn i dynnu lluniau eisteddfodol gwych bydd yn syndod i rai sy'n ei gofio yn gweithio ar y maes i ganfod na chafodd ei fagu yn y traddodiad Eisteddfodol.

"A dweud y gwir, dw i ddim yn gwybod sawl Eisteddfod y bu Geoff ynddi cyn iddo ddechrau gweithio i'r Cymro ym 1936," meddai Ioan.

"Nid oedd yr Eisteddfod yn rhan fawr o'i fagwraeth ym Mrymbo, fel yr oedd i nifer o'i gydweithwyr, ac i'r darllenwyr hefyd. Ac eto, fe ddwedwn i ei fod wedi gwneud mwy nag unrhyw un arall yn y ganrif ddiwethaf i gofnodi traddodiad Cymreig yr Eisteddfod."

  • Eisteddfodau Geoff Charles gan Ioan Roberts. Y Lolfa. 拢12.95

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Ewch i weld detholiad o luniau o'r llyfr


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy