麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Annwyl D J
Deunydd darllen difyr a safonol
  • Adolygiad Gareth Miles o Annwyl D.J. - detholiad o'r ohebiaeth rhwng D.J. Williams, Kate Roberts a Saunders Lewis 1924-69. Golygwyd gan Emyr Hywel. Y Lolfa. 377 tud. 拢14.95.


  • Paradocs diddorol yw fod Gohebiaeth wedi ymddangos fel genre o bwys yn ein llenyddiaeth fel y mae'r arferiad o sgrifennu llythyrau ar bapur ymron 芒 darfod.

    Cawsom Gyfaill Hoff, Detholiad o lythyrau Eluned Morgan (Gol. W.R.P. George), Llythyrau Syr O M Edwards ac Elin Edwards (Gol. Hazel Walford Davies), Annwyl Saunders, Annwyl Kate (Gol. Dafydd Ifans) a gallwn edrych ymlaen, cyn bo hir iawn, gobeithio, at ddetholiad Mari Emlyn o lythyrau a anfonodd Cymry'r Wladfa a Chymry'r Hen Wlad at ei gilydd oddi ar 1865.

    Dyma ddeunydd darllen difyr a safonol sy'n teilyngu sylw ein beirniaid craffaf ac yn fwy na digon i lenwi modiwl gradd BA.

    Clawr y llyfr Ac yn awr mae Emyr Hywel yn ein anrhegu 芒 chyfrol swmpus o lythyrau tri o ryddieithwyr Cymraeg gorau'r ugeinfed ganrif; tri chenedlaetholwr dewr a diffuant; tri chyfaill.

    Cyflwynir y llythyrau mewn Rhagymadrodd dadleuol sy'n si诺r o gythruddo doethuriaid yr 'academaidd dost'.

    Ni chytunaf 芒 nifer o osodiadau EH ond maen well gen i o lawer ei ymosodoldeb ef na chytbwysedd diogel yr ysgolhaig proffesiynol.

    脡crivains engag茅s oedd SL, KR a DJ a dyna yw Emyr Hywel.

    Dosbarthwyd y llythyrau yn 么l eu degawdau - y Dauddegau, dechrau'r Tridegau, diwedd y Tridegau, Yr Ail Ryfel Byd, hyd at 'diwedd y Chwedegau'. Ceir 385 o nodiadau manwl a chynhwysfawr a mynegai defnyddiol.

    Gan na chefais gyfle, hyd yn hyn, i wneud llawer mwy na blasu danteithion hwnt ac yma, nid wyf am fentro athronyddu yngl欧n 芒'r ohebiaeth fel ffurf lenyddol, cynnwys y llythyrau, perthynas eu hawduron 芒'i gilydd na natur cyfeillgarwch.

    Y cyfan a wnaf yw annog pob ll锚ngarwr i brynu'r gyfrol neu i annog ei lyfrgell leol i wneud hynny drosto. Atodaf, megis abwyd, rai o'r perlau a ddarganfyddai i:

  • KR at DJ a'i wraig, Si芒n, 3 Chwefror, 1931

  • Yr oeddem yn falch iawn o gael eich llythyr y dydd o'r blaen. B没m yn meddwl tybed a welsoch hanes fy mrawd oblegid gwyddwn y byddai'n ddrwg gennych. Yr oedd yn brofedigaeth fawr iawn, oblegid ei ladd ei hun a wnaeth fy mrawd.

    Collodd ei wraig fis Awst diwethaf wedi iddo fod yn wael am ddwy flynedd cyda chancer o'r gwddf. Yn ystod yr holl amser yna bron bu yntau allan o waith.

    Wedi ei marw aeth yn ddigalon iawn ac yr oedd dan law doctor o hyd. Ond ni feddyliodd neb y buasai'n cymryd ei fywyd. Nid anghofiaf fyth y braw a gefais y diwrnod hwnnw. Yr wyf wedi medru ymddihatru'n lled dda oddi wrth feddyliau prudd, er anhawsed oedd hynny.

    Poeni ynghylch fy rhieni yn eu hen ddyddiau yr oeddwn fwyaf, oblegid nid 芒i ddiwrnod heibio heb i'm brawd ymweled 芒 hwy gan ei fod yn byw yn y ty nesaf, ac mae'r ardd lle digwyddodd y trychineb o flaen eu llygaid bob dydd o'u bywyd.

    Petawn i'n mynd i sgrifennu hanes fy mywyd fe fyddai'n llawn ar un ochr o bethau duon, duon, ac ar yr ochr arall o bethau heulog.

  • SL at DJ, 15 Ionawr, 1950

  • Yr wyf wedi darllen Y Tir Du ddwywaith drwodd.
    Yr ail yw'r orau gennyf o digon, a'r drydedd wedyn. Y mae'r Capten yn gampwaith mawr o ddigrifwch ac yn un o'ch creadigaethau mwyaf chwi, a'r iaith a'r arddull yn gwbl ddigymar. Gwaith meistr.

    Nid wyf yn hoffi Ceinwen ddim oll, na Cholbo lawer. Wrth gwrs, darllenaf bob dim a sgrifennwch gan fwynhau'r arddul a'r Gymraeg loyw gain hyd yn oed pan fo'r mater yn ddamniol - megis Ceinwen.

    Byddaf wrth eich darllen yn teimlo na ddylwn i ddim ymyrrryd 芒'r Gymraeg; ond er fy holl edmygedd diffin o'ch gafael arni, mae'n gas gen i eich pobl dda chwi. Mae 'na wlanen yn eu heneidiau a'u hymenydd sy'n fy nhagu i. Dyna fi wedi ei dweud hi! Yr arswyd annwyl.

  • DJ at SL, 6 Hydref, 1958

  • B没m ym Mhwllheli hefyd ac atgofion byw am fwy nag un peth yn dod i'm meddwl yno. Collais yr het smarta a fu genny' erioed (Sidney Heath a'i Frawd) yn y cwrdd cynhyrfus hwnnw ar y maes.

    Yr olwg olaf a ges i arni oedd gweld ei chicio o gwmpas cyrrau'r dorf, - rhyw glorwth mawr pengrych o 诺r wedi cydio ynof gerfydd fy nhraed a'm cario allan i'r man diogel hwnnw, a minnau'n gwneud fy ngorau i'w dagu yntau ar y daith. Cydiodd dau blismon ynof wedyn a'm rhwystro am dipyn i fynd yn 么l.

    Ie, lle atgofus yw Pwllheli rhwng popeth. Cofio am y tri ohonom dan escort y plismyn yn dod allan wedi'r llys....

  • I weld adolygiad gan Derec Llwyd Morgan ar Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy