麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Smyglwyr Cymru
Troseddwyr oedd yn apelio at wreng a bonedd
  • Adolygiad Glyn Evans o Smyglwyr Cymru gan Twm Elias a Dafydd Meirion. Gwasg Carreg gwalch. 拢6.75.


  • Rhyfedd sut y mae rhai dihirod yn dderbyniol ac eraill ddim.

    Dyna ichi f么r-ladron er enghraifft. Er nad oedd yr un ohonyn nhw yn ymddwyn fel rhywun a gafodd lawer o Ysgol Sul teimlad o edmygedd sydd tuag atyn nhw yn gyffredinol. Yn dipyn o gesus, yn arwyr er gwaethaf bryntni anwaraidd eu ffordd o fyw ar adegau.

    Clawr y llyfr Yr un modd smyglwyr. Darlun rhamantaidd yw'r un cyffredin ohonyn nhw yn chwarae mig 芒'r awdurdodau, yn gwneud i ecseismyn edrych yn wirion ac i ustusiaid ffwndro.

    Nid felly'n union oedd hi mewn gwirionedd wrth gwrs a chawn gip ar yr ochr arall i'r geiniog rhwng dalennau Smyglwyr Cymru - cyfrol y dechreuodd Twm Elias a Dafydd Meirion weithio arni'n annibynnol ar ei gilydd.

    Ond "pan ddeallodd y ddau ohonom fod gennym ddiddordeb yn hanes smyglwyr ac yn bwriadu cyhoeddi rhywbeth amdanynt, peth naturiol oedd cydweithredu," meddai Twm Elias wrth gyflwyno'r gyfrol hon.

    Yn dilyn marwolaeth annhymig Dafydd Meirion a oedd eisoes wedi cyhoeddi llyfr am f么r-ladron Cymru cwblhawyd y gwaith gan Twm Elias ac wele'r gyfrol hon.

    Lladron gonest
    Mae'r darlun o griw dirgel yn dadlwytho casgenni o winoedd a gwirodydd liw nos mewn bae unig i'w cuddio mewn ogofau cyfleus yn un cyfarwydd - dyma'r math o bobl oedd gan yr ysgrifwr o Sais Charles Lamb mewn golwg pan ddywedodd mai'r smyglwr "yw'r unig leidr gonest".

    Ond mae llawer iawn mwy na hynny i smyglo ac mae'r gyfrol hon yn cloi gyda phennod am smyglwyr modern y mae cyffuriau fel 'cocaine' yn rhan o'u hysbail.

    "Daeth oes aur gyntaf smyglo i ben ynghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sgil y 'farchnad rydd' pan ddiddymwyd tollau ar fewnforion bron yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, atgyfodwyd y fasnach anghyfreithlon yn yr ugeinfed ganrif, yn enwedig ar 么l y ddau ryfel byd pan oedd yn adeg o gyni a nwyddau o bob math yn brin," meddir.

    Diddordeb Cymreig
    Byddai rhywun wedi hoffi ymdriniaeth helaeth o smyglo cyfoes ond yn amlwg yn y cyfnodau cynharaf y mae gwir ddiddordeb y ddau awdur ac fe fuont yn casglu'n ddyfal wybodaeth sydd o wir ddiddordeb i'r darllenydd o Gymro gan fod smyglo a'r erlid gan swyddogion y tollau yn hynod gyffredin o gwmpas ein glannau.

    G诺r o'r enw Capten William Gambold a'i long Pelham oedd un o'r swyddogion tollau mwyaf beiddgar yn cadw llygaid ar arfordir M么n a gogledd ddwyrain Cymru.

    Yr oedd ef yn gymaint draenen yn ystlys y smyglwyr fel yr aethant cyn belled 芒 bygwth suddo ei long ond ateb yr awdurdodau i hynny oedd rhoi llong gyflymach i Gambold.

    "Ym mis Mai 1765 pan welodd long a'i hwyliau i lawr o fewn dwy l卯g i Ynysoedd y Moelrhoniaid oddi ar ogledd M么n, fe benderfynodd ei herlid. Cododd y smyglwr ei hwyliau a chyfeirio am Ynys Manaw, ond wedi teirawr o ymlid, llwyddodd y Pelham i'w dal a chanfod 30 casgennaid o frandi, dwy gasgen win, 846 pwys o de, 224 pwys o licris a 40 pwys o dybaco ar ei bwrdd."

    Ceffyl da yw ewyllys wrth gwrs - a'r ewyllys oedd yn gyrru Gambold oedd y ffaith y byddai'n cael cyfran o'r hyn fyddai'n ei gipio.

    Morisiaid M么n
    Cymro adnabyddus a fu'n swyddog tollau oedd Lewis Morris (1705-63) - un o Forisiaid M么n ac yn gweithio Gaergybi a Biwmares.

    Dyfynnir englyn a luniodd ei frawd, Richard, iddo wedi iddo "ddwyn sebon y smuglers":
    Lewys, 诺r cofus, ai cyfion - iti
    Atal da'r tylodion?
    Syber yw'r lleidr sebon
    Nythu mae yn eithaf M么n.

    Ond ymateb Lewis oedd bod angen y dreth "i gynnal ein gwledydd".

    Daeth bendith arall o weithgarwch Lewis Morris hefyd oherwydd rhwng 1737 a 1744 cafodd gomisiwn i wneud map manwl o arfordir Cymru rhwng y Gogarth yn y gogledd ac Aberdaugleddau yn y de.

    "Roedd angen map o'r fath i helpu llongau'r Cyllid i ddod i adnabod pob cilfach . . . yn eu hymgais i atal smyglo."

    Hawdd deall yr angen hwn - a disgrifiodd William, brawd arall i Lewis, a oedd hefyd yn swyddog tollau yng Nghaergybi ei hun fel "cath lwyd yn gwylio cannoedd o dyllau llygod ar yr un pryd".

    Ond y casgliad yn y llyfr yw mai gwaith digalon a diddiolch iawn oedd gwaith y gath lwyd:

    "Faint o obaith oedd gan ddynion y Cyllid a'r milwyr i atal y smyglwyr? Fawr ddim mewn gwirionedd oherwydd dywedir fod deng gwaith mwy o smyglwyr na'r rhai oedd yn ceisio cadw'r gyfraith - ar wah芒n i'r miloedd a oedd yn manteisio ar y fasnach yn anghyfreithlon."

    Daw yn eglur iawn o'r llyfr hwn mai arf pennaf y smyglwyr oedd y ffaith fod mantais uniongyrchol yn deillio o'u gweithgareddau i wr锚ng a bonedd fel ei gilydd ac yn hynny yr oedd eu diogelwch.

    Gan gyfeirio at Ynys Wair yn aber Afon Hafren dywedodd casglwr trethi Caerdydd yn y ddeunawfed ganrif:
    "Never there lived yrt a man on the island of Lundy who was not connected with smuggling."

    Dim rhyfedd felly i'r darlun rhamantus dyfu dros y blynyddoedd.

    Yn wir mae tystiolaeth yn y llyfr fod gan y smyglwyr "ddylanwadau ar haenau uchaf y gymdeithas".

    Fel mynwent
    Ond yr oedd agwedd fwy gerwin i'w gweithgarwch hefyd ac wrth s么n am weithgareddau smyglwyr a ddefnyddiai'r New Inn ym Mhen-y-bont ar Ogwr dywedir:
    "Ymdebygai gardd y dafarn i fynwent gan fod y smyglwyr wedi claddu cynifer o'u gwrthwynebwyr yno!"

    Lle ffrwythlon arall i smyglwyr oedd arfordir Penfro lle mae un ogof yn dwyn yr enw, "Ogo Tybaco".

    Yn Solfach "dywedir i un o'r swyddogion tollau ddeall fod canhwyllau ddefnyddid yn y Capel Bedyddwyr lleol wedi eu smyglo. O ganlyniad aeth i'r Capel un gyda'r nos a meddiannu'r canhwyllau, gan adael y gynulleidfa yn y tywyllwch!"

    Merched hefyd
    Nid dynion mo'r smyglwyr i gyd ychwaith.. Yn y bennod "Smyglwyr amlwg o Gymru" cawn hanes Catherine Lloyd, tafarnwraig y Ferry Inn ym Mhorth Tywyn a'r gyntaf mewn llinach o smyglwyr benywaidd.

    "Parhaodd smyglo yn yr ardal am ganrif arall, a merched yn dal i reoli'r fasnach. Yn 1758 derbyniodd dynion Tollau Porth Tywyn lythyr yn nodi enwau pedair gwraig a oedd wedi mynd o Gastell-nedd i Bridgewater yng Ngwlad yr Haf i brynu te ar gyfer ei smyglo," meddir.

    Cyfrol ysgafn, bytiog ae adegau ond un sy'n gyflwyniad difyr i'r maes yn hytrach nag astudiaeth ddofn ac o'r safbwynt hwnnw mae i'w chroesawu.



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy