麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yr Helygen Gam
Gwaredu at iaith plant
  • Adolygiad Meg Elis o Yr Helygen Gam gan John Roberts. Gwasg y Bwthyn. 拢6.00.


  • Bu ymateb i'r adolygiad hwn ar Taro'r Post, 麻豆约拍 Radio Cymru, Mehefin 29, 2007. Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd yr adolygiad.

    Dau brif bryder oedd gen i wrth ddod at y llyfr hwn o stori芒u byrion.
    Yn gyntaf, doedd arna'i ddim eisiau bod yn gas, hyd yn oed pe na bai'r stori芒u at fy nant: mae gwahaniaeth rhwng gonestrwydd a sbeit, wedi'r cyfan.

    Yn nes ymlaen y cododd yr ail bryder: fyddwn i'n gor-ganmol?

    Clawr y llyfr Mae cysylltiad rhwng y ddau, coeliwch neu beidio. Does dim cyfrinach am oedran yr awdur - mae dros ei ddeg a phedwar ugain. Roedd arna'i felly dipyn o ofn dod wyneb yn wyneb ag ysgrifennu na fyddai'n siarad 芒 'nghenhedlaeth i, heb s么n am genedlaethau iau.

    Ac ni wnaeth dechrau gyda'r stori gyntaf, a darllen am "was bach", "posal llaeth", a lleoliad amaethyddol fawr ddim i liniaru'r pryder.

    Gwaith gwahanol iawn
    Pam y perygl i mi or-ganmol, felly?
    Digwydd gorfod darllen gwaith gwahanol iawn, gan ysgrifenwyr o genhedlaeth hollol wahanol, dyna beth wnaeth o.

    Heb fanylu gormod, papurau arholiad safon AS oedd y deunydd darllen, felly s么n yr ydan ni am bobl ifanc dwy ar bymtheg oed yn fras. Os bu unrhyw beth mwy tebygol i 'ngyrru ffwl-pelt at sgwennwr h欧n, dyma fo.

    Ar 么l treulio oriau yn darllen gwaith pobl yr oedd elfennau symlaf gramadeg a threiglo yn ddirgelion annirnadwy iddynt, roedd Yr Helygen Gam yn chwa o awyr iach.

    Cawn ddianc o ymgodymu 芒 thruth ar 么l truth na ddangosai eu hawduron unrhyw ymwybyddiaeth o amseroedd berfau, heb s么n am allu i'w defnyddio, at waith llenor oedd yn meddu ar y crebwyll hwnnw.

    Yr oeddwn yn dal yn weddol sicr y deuwn ar draws pethau i'w beirniadu yn stori芒u John Roberts - ond o leiaf gall yr awdur lunio brawddeg ddealladwy.

    Mater o gyfleu neges
    Cyn i neb ddadlau fy mod yn cymharu dau beth na ddylid eu cymharu, ga'i daro'r ddadl honno ar ei phen?
    Mater yw hyn o gyfleu eich neges - boed hynny yn waith creadigol, yn daflen o gyfarwyddiadau, neu yn gwestiwn arholiad. Ac y mae John Roberts yn gallu cyfleu neges.

    Daw o genhedlaeth sicr ei gafael ar iaith, debyg iawn - ond nid yw hynny ynddo'i hun yn ddigon i greu llenor. Mae'n gallu trin geiriau - peth oedd yn druenus o absennol yng ngwaith y disgyblion a welais i ( ac, ymhlyg yn hynny, eu hathrawon).

    Ac fe all yr awdur hwn hefyd ddweud stori, a deall y ddynol natur. Nid mater o oed nac addysg mo hyn o gwbl: dawn ydyw, ac y mae'r doniau hyn gan John Roberts.

    Troadau dirgel natur dyn
    Adnabyddiaeth o droadau dirgel natur dyn sydd, i mi, yn achub stori Yr Helygen gam.

    Fel y dywedais eisoes, doedd y cefndir ddim yn apelio ond mae'r them芒u yn oesol, a'r ymdriniaeth yn sensitif tu hwnt.

    Mae'r un sensitifrwydd i'w weld mewn stori芒u megis Bill a'r Cortyn Beindar - yn ogystal 芒'r elfen iasoer yr ymddengys bod John Roberts yn gryn feistr arni. Os am batrwm o'r elfen hon, darllenwch Yn y Stafell Frown - campwaith o stori.

    Cychwyn da
    Pethau eithaf syml, felly.
    Dawn dweud, deall mecanwaith sylfaenol iaith, clust at y rhythmau.
    Y man cychwyn - ac o gychwyn da, cerddodd yr awdur ymhell ar y daith tuag at roi pleser llenyddol.

    Ond am y genhedlaeth iau?
    Rydw i'n cyffredinoli, mi wn - ond nid yn ormodol. O dystiolaeth lethol y dyddiau hyn, nid yn unig y mae ein pobl sydd yn eu harddegau a'u hugeiniau (cynnyrch y Shambo cyfoes, addysg Gymraeg) heb gyrraedd y man cychwyn - tydyn nhw ddim hyd yn oed yn wynebu i'r cyfeiriad iawn.


  • Pwnc trafod
    Bu'r adolygiad hwn yn bwnc trafod ar y rhaglen radio Taro'r Post gyda Dylan Jones ddydd Gwener, Mehefin 29, 2007 lle cafodd Meg Elis gyfle i ymhelaethu gyda Rhys Williams o NUT Cymru a Heather Gregory, mam a chyn athrawes, yn ymateb.

    Cafwyd cyfrnaiad dros y teleffon gan Geraint Roberts o Ddinbych a Geraint Roberts, arall, prifathro Ysgol y Strade yn Llanelli.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy