麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yr Arwisgo
Cynnwrf y Chwedegau
  • Adolygiad Bethan Wyn o Yr Arwisgo gan Sonia Edwards. Cyfres Fy Hanes i, Gwasg Gomer. 拢4.99.


  • Mae 'na rywbeth am angerdd, hyfdra a diniweidrwydd cenhedlaeth y Chwedegau a chyffro'r cyfnod sydd wedi cydio yn fy nychymyg i.

    Fallai mai wedi treulio gormod o amser yng nghwmni hen rebals ydw i yn s么n am y 'dyddia da' pan oedd peint o gwrw'n costio dau swllt a Chymru'n ennill g锚m rygbi bob wip stitsh.

    Neu 'fallai mai cenfigen plentyn Thatcher sy'n fy nghnoi am na ches i flasu'r don o ysbrydoliaeth a'u sbardunodd nhw i gicio yn erbyn y tresi a theimlo y gallan nhw newid y byd hefo pot o baent gwyrdd a brwsh.

    Clawr y llyfr O ganlyniad i hyn, roedd cynsail Yr Arwisgo - nofel ddiweddaraf Sonia Edwards - yn apelio ata i.

    Nofel fer yw hi ar ffurf dyddiadur merch ifanc o'r cyfnod ac mae'n rhan o gyfres Fy Hanes i Gwasg Gomer ar gyfer pobl ifanc.

    Mae'r gyfrol hon yn mynd ati i bortreadu cyfnod cythryblus y misoedd cyn seremoni arwisgo'r Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon a hynny drwy lygaid Sara Harries - merch sydd 芒 th芒n yn ei bol dros ei hiaith ac yn ferch i blismon.

    Tyndra dwys
    Yn y berthynas rhwng y ferch a'i thad cawn gipolwg ar y tyndra dwys oedd yn bodoli yng Nghymru'r Chwedegau a'r ffordd y cyrhaeddodd ei anterth yn 1969 cyn yr Arwisgo.

    Sara ar un pegwn yn ysu am gael torri allan o focs ei phlentyndod a chodi ei llais a'i thad ar y pegwn arall yn mynnu'n chwyrn bod ei ferch yn "rhoi gorau i'r syniadau Welsh Nash 'ma".

    Dengys y nofel gymhlethdod y sefyllfa fel mwy na gwrthdaro rhwng y cenedlaethau gan fod yma gyffwrdd 芒 phenbleth rhai o'r genhedlaeth h欧n sy'n rhannu daliadau Sara yn ddistaw bach ond yn "ofn y canlyniadau" - ofn pechu'r mistar, ofn colli cwsmeriaeth.

    Clywn s么n am weithwyr yn ymddiswyddo am iddyn nhw gael eu gwahardd rhag ateb y ff么n yn Gymraeg a phobl Caernarfon yn rhegi protestwyr ifanc Cymdeithas yr Iaith.

    Cawn gip hefyd ar y gwrthdaro rhwng carfannau eithafol a heddychlon y cenedlaetholwyr a deuoliaeth Eisteddfod yr Urdd yn cadeirio bardd am gerddi gwrth-Brydeinig ar y naill law ond yn croesawu'r Tywysog i'r maes ar y llall.

    Drwgdeimlad
    Ond efallai mai'r wers bwysicaf yma i ddarllenwyr ifainc yw nad oedd Cymru'n wlad ddwyieithog tan yn ddiweddar.

    Yn yr oes hon o ddwyieithrwydd, ysgolion Cymraeg a Deddf Iaith, mae'n hawdd anghofio am wrthdaro a brwydro'r gorffennol ac yn fwy byth mai Cymry Cymraeg oedd rhai o wrthwynebwyr ffyrnicaf y frwydr dros statws y Gymraeg.

    Gwelwn yma'r drwgdeimlad oedd yn codi'i ben rhwng cymdogion, cydweithwyr a hyd yn oed o fewn yr un teulu.

    Mae cyfeiriadau at fywyd y cyfnod yn britho'r tudalennau a dim ond weithiau maen nhw'n teimlo mor fwriadol ag i amharu ar ddilysrwydd y dyddiadur.

    Ar y cyfan maen nhw'n helpu i'n tynnu ni'n gelfydd i mewn i gyffro a miri'r ychydig fisoedd cynhyrfus hyn wrth i ni ddilyn hynt Sara.

    Yn sg卯l ei pherthynas 芒 Gwil, mab y Gweinidog, caiff Sara ei thywys i fyd lliwgar y protestwyr ifanc ac yn ogystal 芒 rhannu'r wefr, caiff hefyd weld nad yw pethau'n f锚l i gyd.

    Disgrifio a chymeriadu
    Mae yma ddisgrifio a chymeriadu gwych, yn arbennig y paratoi a'r cynnwrf cyn y brotest yng Nghaernarfon.

    "Cyrraedd Caernarfon mewn m么r o chwerthin a chadw reiat a chael andros o drafferth cael hyd i le parcio. Welais i erioed gymaint o bobl. Roedd y cei dan ei sang. Cannoedd o brotestwyr a baneri ac arwyddion wedi eu dal yn uchel. Roedd yr awyrgylch yn drydanol..."

    Byddwn i wedi mwynhau cael fy nhynnu'n ddyfnach i mewn i'r byd yma - y dadlau tanbaid dros beint a'r trefnu a'r paratoi yn y digs - ond wedyn mae'n debyg nad nofel drwy lygaid merch ysgol fyddai honno.

    Yn fyw
    Fel adnodd addysgol mae'r nofel yn llwyddo heb os nac oni bai, a hynny drwy ddod 芒 holl gyffro a thensiwn y cyfnod yn fyw i fyfyrwyr ysgol sydd, o bosib, yn fwy gwerthfawr na llyfr hanes neu ddarlith.

    Mae yma ddyfyniadau o ffynonellau cynradd, lluniau o'r cyfnod a chyfeiriadau at ddigwyddiadau go iawn sy'n gosod yr hanes yn ei gyd-destun ac yn rhoi darlun cliriach, ym meddyliau'r darllenwyr, o'r digwyddiadau.

    Er hyn, rhaid cofio nad yw'r nofel yn ffynhonnell hanesyddol gynradd ac mai o safbwynt un ochr yn unig y caiff yr hanes ei adrodd. o'r digwyddiadau o'r digwyddiadau Nofel i bobl ifanc...?
    Dwi'n rhyw amau hefyd na fydd pleser i'w gael yn ei thudalennau i ambell un 'chydig bach h欧n hefyd, nid cymaint oherwydd dwyster y dweud neu gymhlethdod y plot, ond oherwydd y ffordd gelfydd mae hi'n llwyddo i'n tynnu ni i mewn i fyd y cymeriadau - byd y sgert fer, y polo nec, y bouffant a'r seidis.
    On'd doedden nhw'n ddyddia da?
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy