麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Alwyn Humphreys - Yr Hunangofiant
Cordiau ar goll
Adolygiad Ruth Thomas, o Alwyn Humphreys - Yr Hunangofiant. Y Lolfa. 拢9.95.

Roedd Alwyn Humphreys yn ddyn dewr pan benderfynodd ddechrau ei gyfrol gan ofyn a yw ei stori yn un a all gynnal dros ddau gant o dudalennau.

Ar yr olwg gyntaf mae'n gwestiwn twp: sut all dyn sydd wedi cyflawni a chyfrannu cymaint amau a yw ei stori yn un gwerth ei hadrodd?

Clawr y llyfr Ond gan fod yr awdur ei hun yn cwestiynu hynny, dyna wnes innau hefyd wrth ddarllen.
Nid am fy mod wedi fy niflasu ar unrhyw adeg - i'r gwrthwyneb - mae yma ddegau o hanesion difyr, disgrifiadau llachar a chymeriadau byw.

Dilyn y daith
O Gapel Gad, Bodffordd, i D欧 Opera Sydney, ac o brifathro ei ysgol gynradd, Frank Grundy, i'r Pab Ioan Pawl II, cawn ein tywys trwy ddigwyddiadau arwyddocaol bywyd Alwyn Humphreys a'n cyflwyno i'r profiadau a'r personoliaethau a'i ffurfiodd.

At ei gilydd, caiff y cyfan ei gyflwyno'n gronolegol -dilynwn daith bywyd yr awdur trwy ysgol a choleg, ei waith yn athro ysgol, cynhyrchydd a chyflwynydd radio a theledu, ac wrth gwrs ei bum mlynedd ar hugain yn arweinydd C么r Orpheus Treforys a hanes diddorol y c么r hwnnw.

Yr eithriad i'r gronoleg yw y penodau byrion sy'n dwyn teitlau termau cerddorol lle'r ymdrinnir 芒'r salwch difrifol a'i tarodd yn ddyn ifanc.

Aros yn y cof
Ond er y pytiau dirdynnol yma, a'r llu o lwyddiannau sy'n cael eu cofnodi'n effeithiol, mae arna i ofn mai'r stori sydd wedi aros yn fy nghof i yw'r un gochaf a ddarllenais erioed mewn llyfr Cymraeg - un am ddigwyddiad lle nad oedd yr awdur hyd yn oed yn bresennol.

Rydw i'n cyfeirio at feirniadaeth anffodus yn dilyn cystadleuaeth gwn茂o rhwyll botwm mewn eisteddfod bentref .

Caiff yr hanesyn ei adrodd mewn modd celfydd o gynnil - bu'r maestro yn graff i sylweddoli nad oedd angen dim brodio ar gynnwys y stori arbennig hon!

Mwy am y dyn
Gyda deunydd fel hyn, mae'n si诺r fod Alwyn Humphreys yn siaradwr gwadd penigamp, ond fel mae ei ymholiad agoriadol yn ei awgrymu, mae yna le i fwy nag anecdotau diddan mewn hunangofiant.

Roeddwn i eisiau naratif llawnach: er cymaint y gwnes i fwynhau'r straeon, byddwn wedi gwerthfawrogi mwy o ddadansoddi a chloriannu.

Ceir ambell i frawddeg sy'n awgrymu doethineb a hunanymwybyddiaeth ddofn - e.e.
"Mae ansicrwydd yn troi'n ddiffyg hyder, a diffyg hyder ydi gelyn mwya hapusrwydd" - ond doedd yna ddim chwarter digon o'r rhain.

Mae'n anodd credu bod Alwyn Humphreys erioed wedi dioddef o ddiffyg hyder ac yntau wedi cael gyrfa mor gyhoeddus ond mae'n crybwyll ac yn cynnig tystiolaeth o'r peth droeon ac o ganlyniad, roeddwn yn ysu i'w glywed yn dyfalu beth oedd i gyfri am y cyflwr, ac i wybod mwy ynghylch yr hyn a'i galluogodd i oresgyn y gelyn dinistriol hwn yn y pen draw.

Yn y b么n, roeddwn am ddarllen stori Alwyn Humphreys yn hytrach na chyfres o straeon amdano - sment a sylfaen ei fywyd yn ogystal 芒'r conglfeini.

Lle i ddilyniant
Dechreuais trwy s么n am ddewrder Alwyn Humphreys.
Rydw i'n gobeithio nad ydw innau wedi bod yn rhy ddewr wrth ysgrifennu'r pwt hwn o ymateb i'w lyfr.

Mae'r awdur yn dyfynnu dau wnaeth ei feirniadu'n angharedig dros y blynyddoedd. Rydw i'n croesi fy mysedd na fyddaf yn gweld sillaf o'r uchod mewn unrhyw ddilyniant i'r gyfrol hon!

Yn ddi-os mae yna le i ddilyniant - mae'n si诺r y gallai'r awdur s么n am ddegau'n rhagor o uchafbwyntiau cerddorol a throeon trwstan nad oedd lle iddynt yma.

Byddai'n wych o beth pe bai hefyd yn ateb mwy o'r cwestiynau y mae ef ei hun yn eu gofyn yn y llyfr cyntaf hwn.

Pe llwyddid i wneud hynny, ni fyddai angen gofyn y cwestiwn agoriadol, ac ni fyddai neb (gan gynnwys yr awdur gobeithio) yn amau nad oedd y stori yn cynnal. Heb ei gorffen


Symffoni anorffenedig yw Yr Hunangofiant. Mae ynddo nodau swynol, brawddegau cofiadwy, a chymalau cyhyrog ond, fel y mae'r teitl diddychymyg yn ei awgrymu, dydy'r gwaith ddim cweit yn gyflawn.

Yn 么l gwefan C么r Orpheus Treforys, fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, alw Alwyn Humphreys yn legend.

Mae'n ddisgrifiad teg, ac efallai y byddai teitl mwy bachog tro nesaf (yn ogystal 芒 dadansoddiad mwy swmpus) yn fodd i ddenu mwy i ddarllen am gerddor sy'n chwedl yng Nghymru ac ym mhob cwr o'r byd.

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch

    Alwyn Humphreys
    Adolygiad praff a hollol deg. Dim angen croesi bysedd o gwbl! Hoffwn i Ruth gysylltu er mwyn i mi gael ceisio egluro rhai o'r rhesymau am y diffyg hyder ayb.



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy