麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cof Cenedl XXII
Michael D Jones - haeddu bod yn dad?
  • Cof Cenedl XXII. Ysgrifau ar Hanes Cymru. Golygydd, Geraint H Jenkins. Gomer. 拢8.99.


  • Dros y blynyddoedd bu'n arferiad cyfeirio at Michael D Jones fel "tad" y Wladfa ym Mhatagonia.

    Heb amheuaeth ei enw ef sy'n dod i'r meddwl gyntaf pan yn s么n am y fenter hon gan achub y blaen ar rai fel Lewis Jones a oedd ymhlith yr ymsefydlwyr cyntaf - er na threuliodd Michael D Jones ei hun ond pedwar mis yn y wlad y bu'n ymgyrchu mor ddeheuig i anfon pobl yno!

    Clawr y llyfr Ond a yw'n haeddu'r disgrifiad "Tad y Wladfa" yw'r cwestiwn sy'n cael ei ofyn - a'i ateb - mewn erthygl ddifyr gan Dafydd Tudur yn yr ail gyfrol ar hugain o'r gyfres Cof Cenedl sy'n cael ei golygu gan yr Athro Geraint H Jenkins.

    Yn olygydd Culturnet Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y mae Dafydd Tudur ein pennaf arbenigwr ar Michael D Jones, y gwladgarwr o'r Bala y cysylltir ei enw mor barod 芒 menter Patagonia.

    "Cysylltir enw Michael D Jones yn bennaf 芒'r wladfa Gymreig a sefydlwyd ym Mhatagonia, De America, ym 1865. Bu'n aelod blaenllaw o'r mudiad a anfonodd bobl o Gymru i ymsefydlu ar lannau afon Chupat, neu'r Camwy fel y daethpwyd i'w hadnabod yn ddiweddarach.

    Cymaint o gyfraniad
    "Ni theithiodd i Batagonia gyda'r fintai gyntaf, ond cymaint oedd ei gyfraniad i'r anturiaeth nes i'w gyd-hyrwyddwr Lewis Jones ei gyfarch ar ddiwedd ei oes fel 'Tad y Wladfa'," meddai Dafydd Tudur.

    Glynodd y disgrifiad hwnnw hyd heddiw ond mae erthygl Dafydd Tudur yn awgrymu ei fod yn fwy o dad maeth nag o dad go iawn.

    Yn wir, dywed mai wedi i fenter arall i sefydlu 'gwladfa' yn Oregon yr Unol Daleithiau y mabwysiadodd Michael D Jones Batagonia yn blentyn!

    Cyn Patagonia bu'n ystyried hefyd Ynys Vancouver - a Syria yn y Dwyrain Canol yn dilyn anogaeth g诺r o'r enw John Mills o Lanidloes a fu'n cenhadu ymhlith Iddewon Llundain ac yn trafod 芒 chennad Twrci.

    Dim ond wedi i'r syniadau hynny fynd i'r gwellt yr ymegniodd o blaid menter Patagonia ac yntau wedi "dymuno ymbellhau oddi wrth y cefnogwyr oedd yn ffafrio Patagonia" cyn hynny.

    "Yn y diwedd ildiodd i farn y mwyafrif, er iddo geisio rhoi'r argraff mai ar sail ymchwil bersonol y penderfynodd fod Patagonia yn lleoliad cwbl addas ar gyfer y wladfa," meddai Dafydd Tudur.

    Aberth ariannol
    Ond unwaith y mabwysiadodd Batagonia aberthodd yn ariannol ac o ran egni i sicrhau 'llwyddiant' y fenter wrth i un peth af 么l y llall fynd o chwith.

    Yr oedd rhesymau ariannol hunanol dros ei frwdfrydedd dros y dewis newydd:
    "Llwyddiant y wladfa yn unig a fyddai'n sicrhau ad-daliad i Michael D Jones, ac felly nid yw'n syndod iddo ymgyrchu'n fwy penderfynol nag erioed er mwyn llwyddo," meddai Dafydd Tudur.

    Ac yn hyn o beth yr oedd yn ffodus bod ei wraig yn ddynes ariannog.

    Dywed mai ei nod oedd denu cymaint ag 20,000 o Gymru yno a mynnu statws daleithiol gan lywodraeth Ariannin.

    Ei gyfraniad pwysicaf
    Ychwanega i Michael D Jones wneud ei gyfraniad pwysicaf "yn y misoedd cyn ymadawiad y fintai gyntaf" yn llogi llong ac yn y blaen a buddsoddi llawer o arian personol pan aeth pethau o chwith gyda'r llong wreiddiol.

    Yn 么l Dafydd Tudur cafodd yr ymrwymiad ariannol gryn effaith ar Michael D Jones;
    "Gydag amser aeth y gwariant hwn yn drech nag ef, a chafodd effaith andwyol ar ei berthynas 芒'r Wladfa ac ar ei waith fel Prifathro Coleg yr Annibynwyr yn Y Bala," meddai Dafydd Tudur.

    Ond ychwanega: "Y peth pwysig ym mis Mai 1865 oedd fod y pwyllgor wedi llwyddo i oresgyn ei holl anawsterau a bod y gwaith o sefydlu'r wladfa Gymreig yn mynd yn ei flaen.

    "I'r sawl a oedd yngl欧n 芒'r anturiaeth, yr oedd yn amlwg mai Michael D Jones oedd biau'r clod am hynny."

    A'i ymdoddiad gymaint nes peri, mae'n amlwg, iddo gael ei alw yn dad y fenter a Dafydd Tudur yntau yn dod i'r casgliad:
    "Oni bai am benderfyniad ac ymroddiad Michael D Jones ni fyddai'r Mimosa wedi gadael dociau Lerpwl ym mis Mai 1865 gydag arloeswyr y wladfa Gymreig ar ei bwrdd."

    Do, mabwysiadodd blentyn y bu'n rhaid iddo aberthu llawer drosto a gallwn fod yn ddiolchgar i Dafydd Tudur am ein goleuo yngl欧n 芒 hynny.

    Mae ei ysgrif ef yn un o chwech yn y rhifyn diweddaraf hwn o Cof Cenedl.

  • Grym y Gair Ysgrifenedig: Tywysogion Cymru a'u Dogfennau 1120-1283 gan Huw Pryce.
  • Parhad, Pragmatiaeth, Propaganda: Llawysgrifau Cyfraith Hywel yn yr Oesoedd Canol Diweddar gan Christine James.
  • Traddodiad y Stori Werin yng Nghymru gan Robin Gwyndaf.
  • Heb Ddim Paent nac Ymdrech i Orliwio: Darllen Hen Wynebau D J Williams fel Hanes gan T Tobin Chapman.
  • Pair Dadeni? Yr ymgyrch Iaith yn Nhref Aberystwyth gan Rhys Jones.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Erthyglau Patagonia


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy