麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Er Dy Fod
Menna Elfyn yn chwarae 'da geiriau
  • Adolygiad Linda Edwards o Er Dy Fod, antholeg gan Menna Elfyn. Goner. 拢6.99.


  • Mae Menna Elfyn yn un o lenorion amlycaf y Gymru gyfoes - wedi cyhoeddi wyth casgliad o farddoniaeth yn ogystal 芒 nofelau a dram芒u.

    Clawr y llyfr Ymysg ei chyfrolau mae'r antholegau dwyieithog Cell Angel a Cusan Dyn Dall/ Blind Man's Kiss a'r gyfrol Perffaith Nam.

    Mae hi hefyd wedi sgwennu cyfrol i blant Rana Rebel ac wedi golygu'r antholeg Eingl-Gymreig The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry.

    Caiff wahoddiadau cyson i ddarllen ei barddoniaeth dros y byd i gyd yn ogystal 芒 phob rhan o Gymru.

    Hi oedd Bardd Plant Cymru S4C 2002-2003.

    Yn fam i ddau o blant, mae hi bellach yn byw yn Llandysul.

    Ar dudalen flaen y gyfrol hon gwelir y geiriau:
    Cerddi gan Menna Elfyn
    I ddathlu dysgu iaith
    Profiadau dysgwyr
    A phrofiadau dysgwyr wrth ddysgu Cymraeg oedd y sbardun iddi fynd ati i greu'r gyfrol.

    Meddai: "Fe sylweddoles i un diwrnod fod gen i fwy o ffrindiau sy'n ddysgwyr neu sydd ddim yn medru'r Gymraeg, nag sydd gen i o Gymry Cymraeg.

    "Ac yn aml iawn mae ffrindiau'n gyrru e-byst ata i'n gofyn beth yw ystyr gair penodol....ac o hynny dechreues i feddwl am y pontio yna, y ddeialog honno sy'n mynd ymlaen rhwng rhywun sy'n siarad un iaith a rhywun sy'n siarad iaith arall."

    Mae'r rhelyw o'r cerddi felly yn gerddi ysgafn a doniol wedi eu hysbrydoli gan ffrindiau sy'n dysgu'r iaith- er enghraifft mae'r gerdd Chutzpa wedi dod i fod ar 么l i ffrind ddweud wrthi:

    "I want to be outrageous in Welsh."
    ac eisiau dweud pethau mwy heriol na'r hyn a ddysgid iddi ar gwrs Wlpan fel "Dwi'n hoffi coffi".

    Beth am Dwi'n hoffi Wisgi Gyda tecila A'i yfed ym Manila

    Un arall wedyn yn trin a thrafod sawl ffordd sydd yna o ddweud 'Yes' a 'No' yn y Gymraeg ar 么l i ddysgwr yn Noc Penfro ofyn "How many ways do you need to say 'yes' and 'no' in Welsh?"

    Un arall eto - Tyddyn wedi codi o'r ffaith na allai'r bardd Gillian Clarke ddweud 'Tyddyn' ac yn dweud yn hytrach 'T欧 Dyn', a'r hwyl gododd o hynny.

    Hwyl eto yn y gerdd Oergell wrth i ddysgwr ddweud ei fod yn cadw llyfrau yn yr 'oergell' yn lle 'llyfrgell'.

    Nid gwneud hwyl
    Ond nid gwneud hwyl am ben dysgwyr mae Menna ond, yn hytrach, uniaethu 芒 hwy- fel y dywed ei hun:
    "Dwi'n cael gwahoddiad i fynd i ymweld 芒 sawl gwlad, naill ai i ddysgu neu i ddarllen fy marddoniaeth, ac yn aml yn canfod fy hun mewn gwlad dramor ble nad ydwi'n deall yr iaith, felly rwyf yn gallu uniaethu 芒 phrofiadau dysgwyr."

    Nid profiadau dysgwyr yw'r unig symbyliad yn y gyfrol chwaith gan fod hoffter Menna ei hun o drin geiriau yma hefyd fel y gwelir yn Geiriannu, Er Dy Fod, 38 Gair Am Gariad, ac mae'n gallu cyfleu'r hoffter hwnnw i'r darllenydd yn gelfydd o syml a'i sbarduno yntau i gael yr un hoffter.

    Mae rhai cerddi hefyd yn ymdrin 芒 materion mwy dwys, rhai am Gymru a thynged yr iaith. Hoffaf yn fawr ei cherdd i Gaerdydd:
    Lle yw hwn, i'r lliaws o bob llais.

    ac mae'r bwrlwm a'r miri yma i'r dim.

    Hefyd, hoffais Rhad ac am Ddim, Cymro Amddifad, Tynged yr Iaith, Rhowch imi Wlad, a Gwybod y Treiglad heb Adnabod y Gair.

    Y byd
    Mae eraill o'r cerddi yn ymdrin 芒 sefyllfa'r byd cyfoes- Pen yn ymdrin ag unbeniaid amlwg ac yn diweddu:
    Boed ben mawr neu'n ben bach
    Boed yn unben neu'n anniben;
    Daw'r lli a daw penllanw.

    Libanus, Y Pwll 2006, wedyn, wedi eu llunio yn anterth y brwydro yn haf 2006; a Golau yn Olauwedi dod i fod wrth feddwl am y byd yn cynhesu. Tair cerdd sy'n pigo cydwybod ac yn aros yn y cof.

    Celfydd a syml
    Beth bynnag fo 'r symbyliad tu 么l i'r cerddi maent i gyd wedi eu sgwennu'n gelfydd o syml, yn hawdd i'w deall, yn gafael yn y dychymyg, yn rhoi golwg newydd ar, ac yn dathlu iaith.

    Fel y dywed Gwyneth Lewis:
    "Mae ein dyled yn fawr i Menna Elfyn gan ei bod hi wrthi adnewyddu ein Cymraeg trwy ei defnyddio fel offeryn sy'n llwyr atebol i gymhlethdodau bywyd yr unfed ganrif ar hugain."

    Ewch ati i ddarllen y gyfrol- fe ail fagwch gariad at eiriau, mi chwarddwch gyda rhai, cael eich pigo gan rai, a meddwl yn ddwys am eraill.

    Fe fwynhewch y cyfan, ac fe erys rhai cwpledau yn y cof am byth.

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy