Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Stori Sydyn - pedwar llyfr newydd
Pedair stori sydyn ar gyfer Diwrnod y Llyfr
Ar bedair cyfrol Gymraeg newydd yn y gyfres Stori Sydyn y bydd llawer o'r pwyslais Ddiwrnod y Llyfr 2007.

Llyfrau byrion yw'r rhain wedi eu bwriadu'n arbennig ar gyfer cynneu diddordeb mewn llyfrau ymhlith rhai ydynt fel rheol yn darllen.

Awduron y pedwar llyfr Cymraeg diweddaraf yn y gyfres yw Bethan Gwanas, Caryl Lewis Gary Slaymaker a Gareth F Williams.

Mae'r llyfrau yn fyr - 126 tudalen yw'r hiraf -mewn print bras ac yn hawdd eu darllen.

Lansiwyd cynllun Stori Sydyn - a Quick Reads yn Saesneg - yn 2006.

Y disgrifiad swyddogol, fel petai, yw : "Cyfres o lyfrau byr, cyffrous, byrlymus, wedi'u hysgrifennu'n benodol gan awduron poblogaidd, ar gyfer oedolion sy'n egin ddarllenwyr, y sawl sydd wedi colli'r arfer o ddarllen neu unrhyw un sy'n chwilio am lyfr i'w ddarllen yn sydyn."

Yn dilyn cyhoeddi'r pedair cyfrol Gymraeg newydd Mawrth 1 - a phedair arall yn y Saesneg - trefnir digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru.

Hefyd bydd copïau arddangos rhad ac am ddim ar gael i'w darllen mewn caffis, meddygfeydd, siopau trin gwallt "neu unrhyw le ble mae pobl yn eistedd o gwmpas yn chwilio am bethau i'w darllen!"

Canolbwyntir ar dair ardal benodol :
  • Caernarfon - Mawrth 5-10
  • Aberystwyth - Mawrth 12-17
  • Abertawe - Mawrth 19-24

    Tair nofel ac un gyfrol gofiannol yw'r pedwar llyfr newydd - cyhoeddwn isod sylwadau'r cyhoeddwr amdanynt:
  • Os Mêts,

  • gan Bethan Gwanas.
    Clawr y llyfr Mae Ann ar fin priodi Dylan.
    Ond rhaid iddi fynd ar benwythnos cwennod cyn priodi. Hanna, ei mêt gora, sy wedi trefnu pob dim ac mae Hanna'n nytar. Limousine i Gaer?

    Dim ffiars o beryg! Canws a dringo a rhyw lol fel'na sydd wedi ei drefnu, a dydi'r criw ddim yn hapus. Ond diawch, mae 'na hwyl i'w gael yn y diwedd - ac ambell gath yn cael ei gollwng o'r cwd. Fyddan nhw byth, byth yn anghofio'r penwythnos hwn.


  • Tacsi i'r Tywyllwch

  • gan Gareth F. Williams.
    Clawr y llyfr Dau gorff i ddechrau.
    Anodd eu nabod o ganlyniad i'r tân. Ac mae llaw hefyd, yn perthyn i gorff arall. Ond mae'r heddlu'n datrys y problemau hyn yn ddigon hawdd.

    Y broblem yw PWY wnaeth e, a PHAM? Mae'r heddlu'n meddwl eu bod yn gwybod PAM. Ond does dim llawer o brawf. Ac maen nhw'n nabod y rhan fwyaf o'r lladron, gwerthwyr cyffuriau, mygyrs a bwlis.

    Felly mae PWY yn broblem anodd. Ond un gair o gyngor! Gwyliwch rhag yr un sy'n teithio yn y tacsi.

  • Y Jobyn Gorau yn y Byd

  • gan Gary Slaymaker.
    Clawr y llyfr Pwy yw'r person lwcus sy 'di cwrdd â Stan Lee, y gŵr a greodd y comics Spider-Man, yr Incredible Hulk a'r Fantastic Four? Pwy aeth i Hollywood a chwrdd â Clint Eastwood yno, a dweud 'olreit, lyf' wrth Charlize Theron?

    Pwy gafodd brynhawn ar y pop yn Efrog Newydd yng nghwmni Rhys Ifans?

    Mae e'n nabod Gareth Edwards, ac yn cefnogi tîm rygbi cenedlaethol Cymru yn ogystal â bod yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Cardiff City.

    Hefyd, wrth gwrs, mae e'n dwli ar fynd i weld ffilmie, siarad am ffilmie a dweud ei farn yn blaen wrthon ni ar y bocs.
    Wel, chi'n gwybod yn iawn nawr hanes pwy sydd yn y llyfr 'ma!


  • Y Rhwyd

  • gan Caryl Lewis.
    Clawr y llyfrMae Meic mewn cariad â'i wraig, Eirlys, ac wrth ei fodd gyda'i ddau blentyn ifanc, Beca a Jac.

    Pam yn y byd mae e'n chwilio am y 'rhywbeth bach ecstra' 'na? Ond mae rhyw ysfa ynddo i fynd ar y trips 'gwaith' dros nos.

    Oes unrhyw syniad gan Eirlys bod Meic yn trefnu ei 'rywbeth bach ecstra' ar y we? Bod ei gwr yn rhoi rhaff i'w ffantasïau ac yn manteisio ar ddyheadau rhywiol rhes o ferched.

    Ydy Eirlys yn amau pam mae ei gŵr yn mynd bant dros nos? A Paul, ffrind gorau Meic, a ffrind i Eirlys ers pan oedden nhw'n blant - beth yw ei rôl e ym mywyd Meic a'i deulu? Druan o Meic, mae'r rhwyd yn cau amdano mor sydyn ac mor annisgwyl. Ond bydd y cyfan yn glir erbyn y diwedd.

    Cyhoeddir y llyfrau i gyd gan Y Lolfa, pris £1.99.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Cychwyn Stori Sydyn


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý