麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Dylan Iorwerth - lle mewn llenyddiaeth'
Dylan Iorwerth yn siarad gyda Dei Tomos
Ar 么l gadael eu hardal y mae llenorion Cymraeg yn tueddu i sgrifennu am eu bro.

Ac hyd yn oed wedyn mae eu diddordeb fwy ym mhobl yr ardal honno nag yn ei daearyddiaeth.

Yn siarad gyda Dei Tomos am bwysigrwydd "lle mewn llenyddiaeth" dywedodd Dylan Iorwerth, enillydd Medal Lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eryri, 2005, mai peth eithaf prin yn y Gymraeg yw disgrifiadau manwl o dir a thirlun gan ein llenorion.


Cael ei synnu
Cyfeiriodd at y nofel Cysgod y Cryman fel eithriad prin - ond ychwanegodd mai sgrifennu am ardal oedd yn newydd iddo yr oedd Islwyn Ffowc Elis nid am fro ei febyd yn Nyffryn Ceiriog.

Yn gyffredinol, meddai; "Mwya'n byd oedd pobl yn eu hardal lleia'n byd oedden nhw'n ddisgrifio o'r wlad."

Ychwanegodd; "Nid yn Rhosgadfan yr oedd Kate Roberts yn sgrifennu llyfrau am Rosgadfan ac nid yn Rhydcymerau yr oedd D J Williams pan oedd o'n sgrifennu am y filltir sgw芒r ond yn Abergwaun a llefydd felly," meddai.

Hyd yn oed wedyn, ychwanegodd, dyw'r un o'r ddau yn disgrifio'n helaeth ddaearyddiaeth a thirlun eu hardaloedd.

"Fe wnaeth hynny fy synnu i achos y syniad oedd gen i oedd fod Kate Roberts yn disgrifio'r chwareli a phethau felly ond o fynd yn 么l ychydig iawn o hynna sydd yn ei gwaith.

"Ac efo D J Williams, llai fyth. Pobl sydd yno drwy'r amser nid y wlad ac y mae hynny yn gyffredinol wir am awduron Cymraeg - bod yna lawer iawn, iawn, mwy o bobl a llai o dirwedd a thirlyn nag sydd yna gan lot o awduron Saesneg," meddai.

Mapio dwfn
Hyd yn oed gyda'r gyfres deithio Crwydro'r Siroedd dywedodd mai pobl nid golygfeydd sydd yn y llyfrau fwyaf!

Cynigiodd fod y syniad o 'fapio dwfn' sy'n ymgorffori hanes a phobl a phethau yn gymaint rhan o gymeriad sgrifennwyr Cymraeg nad ydynt yn tueddu i weld gystal y map arwynebol.

Ond gall hynny newid pan fo rhywun yn symud i ardal newydd:

"Yr ydw i pan yn Llambed yn sylwi mwy ar y wlad na phe byddwn adref yn Y Waunfawr.

"Hynny ydi, os ydw i yn meddwl am fferm yn Waunfawr yr ydw i'n meddwl gyntaf am y bobl ond yma rydw i yn meddwl am y t欧 a'r caeau ac mae hyn hefyd i'w weld yng ngwaith llenorion," meddai.

Cysgod y Cryman
Enghraifft amlwg o hynny yw Islwyn Ffowc Elis a Chysgod y Cryman
"Yr oedd o wedi mynd ati yn fwriadol i ddisgrifio . . . Yr oedd o dan ddylanwad John Steinbeck ac wedi mynd ati yn fwriadol i drio cael y wlad a'r ddaear i adlewyrchu beth oedd yn digwydd yn y llyfr.

"Mi es i yn 么l i edrych ar Cysgod y Cryman a sylwi; ar y dechrau, fod bron bob pennod yn dechrau efo rhyw ddisgrifiad o'r tir, y wlad a beth oedd yn digwydd o ran amaeth ac yn y blaen.

"Ond wrth iddo fo fynd mewn i'r stori roedd o fel tasa fo wedi anghofio y patrwm yma ac erbyn Yn 么l i Leifior mae'r penodau yn dechrau efo digwyddiadau.

"Efallai, unwaith yr oedd o wedi mynd i fyw efo'r cymeriadau doedd o ddim mor ymwybodol o'r ddaear," meddai.

  • Cliciwch uchod i glywed y sgwrs yn gyflawn rhwng Dei Tomos a Dylan Iorwerth

  • Cysylltiadau Perthnasol

  • Llambed Dylan Iorwerth


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy