Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
HanesCymru
Ychwanegu at y blociau?
Heddiw cyhoeddir diweddariad o Hanes Cymru gan y Dr John Davies - llyfr a gafodd ei gydnabod pan gyhoeddwyd ef gyntaf yn 1990 fel y fersiwn awdurdodol ar hanes ein gwlad mewn un gyfrol.

Mae'r diweddariad yn cynnwys pennod newydd yn ymdrin â'r cyfnod wedi 1979 - cyfnod a welodd refferendwm ar ddatganoli, sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 a chodi adeilad Senedd y Cynulliad.

Ar ddiwedd ei gyfrol wreiddiol edrychai John Davies ymlaen o ganol Wythdegau'r ugeinfed ganrif ddiwethaf at wawr cyfnod newydd pan fyddai Cymru yn gwir ffurfio fel cenedl.

"Gwelir arwyddion o ailenedigaeth," meddai gan restru ymhlith yr arwyddion hynny:
"Dygnwch a llwyddiannau'r mudiad iaith; y twf mewn sefydliadau a ddaeth yn sgîl y Swyddfa Gymreig; y ddirnadaeth gynyddol o arwyddocâd brwydrau dosbarth gweithiol Cymru; yr ysbryd newydd sy'n cyniwair ymhlith menywod Cymru; yr ail ddeffroad yn yr Alban a bywiogrwydd Catalonia ac eraill o genhedloedd anhanesiol Ewrop; y twf mewn syniadaeth ddeallusol sy'n gefnogol i hunaniaeth y cenhedloedd hynny" - oll meddai yn ffactorau â'i gwnâi yn bosibl i edrych yn hyderus tuag at y dyfodol.

Clawr y llyfr Atebodd hefyd gwestiwn yn nheitl llyfr hanesydd arall, Gwyn Alf Williams, When Was Wales? trwy ddweud na fu Cymru eto yn ei llawnder gyda'r awgrym mai i ddod yr oedd hynny.

Mae'r ymdeimlad hwnnw mai rhywbeth i ddod yw 'Cymru' a'n bod y awr yn nes nag erioed at ei gweld "yn ei llawnder" ym mhennod newydd, ychwanegol, y diweddaraiad o Hanes Cymru hefyd:

I'r dyfodol
"Ar ddiwedd argraffiad cyntaf y gyfrol hon, awgrymwyd mai i'r dyfodol y perthyn y genedl Gymreig yn ei llawnder. Gwefr yw byw i weld nad di-sail y broffwydoliaeth honno," meddai.

Ymhlith y pethau sydd wedi calonogi'r Dr Davies yn ystod y cyfnod hwn mae'r modd y cyrhaeddodd Cymru gyflwr ei bod nid yn unig mewn proses o greu sefydliadau cenedlaethol ond o greu pethau gweladwy fel adeiladau sy'n adlewyrchiad o'i chenedligrwydd.

Darlun sydd yma o wlad yn darganfod, yn creu ac yn arddangos ei hun.

"Tra bod y byd y tu allan yn cydnabod bodolaeth Cymru, yr oedd y Cymry eu hunain yn codi adeiladau ac yn creu sefydliadau y gellid eu hystyried yn flociau adeiladu cenedl," meddai

Ymhlith y 'blociau' hynny mae'n cyfrif pethau fel S4C, yr Ardd Fotanegol, Canolfan y Mileniwm a Stadiwm y Mileniwm "sy'n dod yn gymaint o symbol o Gaerdydd ag ydyw Tŵr Eiffel o Baris neu'r Tŷ Opera o Sydney" ac yn symbol hefyd o genedligrwydd y Cymry.

Llyfrau pwysig
Yn yr un modd dywed y gall cyhoeddiadau hefyd fod "yn flociau adeiladu cenedl" ac ymhlith y rheini mae'n enwi Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru Geiriadur yr Academi a'r Gwyddoniadur Cymreig sydd ar fin gweld golau dydd - cyhoeddiad uchelgeisiol y mae ef yn olygydd ymgynghorol iddi.

Tebyg y byddai rhai yn rhestru cyfrol Dr Davies ei hun ymhlith y blociau hynny hefyd a hithau yr unig gyfrol sy'n adrodd hanes Cymru o'i chyn-hanes hyd y dydd heddiw.

Canmol mawr
Bu boddfa o ganmol y llyfr pan gyhoeddwyd ef gyntaf yn 1990 ac mae'r canmol a'r croesawu wedi cychwyn yn barod i'r diweddariad gyda'r Dr Graham Jones yn disgrifio Hanes Cymru fel "y llyfr gwychaf ar hanes Cymru a ysgrifennwyd erioed".

Llyfr clawr caled a gafwyd yn 1990 ond Penguin clawr meddal arferol a gyhoeddir nawr gydag argraffiad Saesneg ar gael ochr yn ochr ag ef. Ei bris yw £16.99.

Hanes ar y we
Y Dr John Davies hefyd yw awdur y wefan Creu Cenedl ar Â鶹ԼÅÄ Cymru 'r Byd - y fersiwn cyntaf erioed o hanes Cymru a ysgrifennwyd yn benodol ar gyfer y we ac a gyhoeddwyd gyntaf yn y flwyddyn 2000.

Gyrfa John Davies
Yn frodor o'r Rhondda addysgwyd John Davies yn Nhreorci, Bwlchllan a Thregaron. Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedyn yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt.

Bu'n darlithio ym Mhrifysgol Abertawe ac wedyn yn Aberystwyth lle'r oedd hefyd yn warden Neuadd Pantycelyn am 18 mlynedd.

Yn awr yn byw yng Nghaerdydd mae'n sylwebydd neu 'bwndit' Hanes huawdl a chyson ar raglenni radio a theledu gan ennill cryn enw iddo'i hun fel hanesydd poblogaidd.

Ymhlith ei gyhoeddiadau mae llyfr ar hanes darlledu yng Nghymru, Broadcasting and the Â鶹ԼÅÄ in Wales

Mae'n awdur hefydThe Making of Wales, The Celts and Cardiff: a Pocket Guide."

Cliciwch i ddarllen adolygiad Betsan Powys o Hanes Cymru

Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Betsan Powys


  • Gwefan Creu Cenedl


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý