Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Harris: Gŵr Duw â Thraed o Glai
Y rhyfeddaf, y garwaf, yr ystyfnicaf, y diflasaf - a'r mwyaf deniadol
  • Adolygiad Derec Llwyd Morgan o Harris: Gŵr Duw â Thraed o Glai gan Herbert Hughes. Gomer, tt. 255. £9.99.


  • Harris, heb os, oedd y rhyfeddaf o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru'r ddeunawfed ganrif, y garwaf ei dymer, yr ystyfnicaf ei natur, y mwyaf unbenaethol ei awdurdod, y diflasaf ei hunan-dyb, a chan hynny wrth gwrs y mwyaf deniadol fel testun llyfr, boed hwnnw'n gofiant neu'n ddrama neu'n astudiaeth grefyddol a seicolegol.

    Clawr y llyfr Yn ystod yr ugeinfed ganrif lluniwyd sawl cofiant iddo, er enghraifft gan Hugh J. Hughes, Gomer M. Roberts a Geraint Tudur, ac o leiaf ddwy ddrama hir nodedig, y naill gan Cynan a'r llall gan Islwyn Ffowc Elis.

    Pregethu a brygowtha
    Seiliwyd y gweithiau hyn ar y dyddlyfrau a'r llythyron a luniodd ef yn ystod hanner oes gythryblus o bregethu a brygowtha, dyddlyfrau a llythyron y rhoddwyd trefn ardderchog arnynt gan haneswyr diwyd fel John Thickens, Tom Beynon, M. H. Jones a'r dywededig Gomer M. Roberts.

    Gan Thickens y cafwyd y gyfrol fawr Gymraeg ar Harris yn Llundain; gan Beynon y cafwyd y golygiad o'r dyddlyfrau (Saesneg) am Lundain, a chanddo ef hefyd y cafwyd golygu'r dyddlyfrau a ddisgrifia Harris yn y fyddin adeg y Rhyfel Saith Mlynedd.

    Goleuo cymaint
    Rhowch ar glawr enwau Geoffrey Nuttall ac R. T. Jenkins a oleuodd gymaint ar gonglau ei fywyd mewn astudiaethau hanesyddol o wir bwys, a dyna i chi lyfrgell ddeche iawn i'r neb a geisio adnabod Howell Harris, Yswain, Trefeca Fach, Sir Frycheiniog.

    Y mae'n amlwg fod awdur y gyfrol ddiweddaraf hon ar Harris, y Parchedig Herbert Hughes, wedi pori'n aml a thra phleserus yng ngweithiau'r ysgolheigion uchod.

    Ni allai fod wedi cyfansoddi'i dair pennod ar Harris ym mhrifddinas Lloegr heb help Thickens a Beynon, nac wedi cyfansoddi'i bennod Cyfnod Harris yn y Fyddin heb help Beynon eto.

    Siawns na fyddai manylion y bywyd Teuluol a greodd Harris yn Nhrefeca o 1752 ymlaen yn brin ganddo oni ddarllenasai naill ai Draethawd MA cwbl ragorol Alun Wyn Owen neu'r bennod ar y Teulu gan Monica Davies yn Y Deffroad Mawr, 1973.

    A diau iddo gael sawl awgrym am natur y berthynas rhwng Harris a Madam Sidney Griffith gan fwy nag un awdur a fentrodd i'r maes difyr, rhywiol-beryglus hwnnw.

    Lliaws o lyfrau
    Dros wyliau'r Nadolig, yn ogystal â'r llyfr hwn ac eraill, darllenais nofel Saesneg o'r enw Damned United gan David Peace, nofel seiliedig ar y pedwar dydd a deugain y bu Brian Howard Clough yn rheoli Leeds United.

    Fel Herbert Hughes, cafodd ef ei ddefnydd o liaws o lyfrau cyhoeddedig, hunangofiannau Hunter a Lorimer, Eddie Gray a Dunphy, llyfrau gan eraill ar hanes y bêl gron yn y Saithdegau, blwyddlyfrau'r Gymdeithas Bêl-droed, &c., ond yn wahanol i Mr Hughes y mae David Peace yn eu henwi oll.

    Yr hyn a geir gan Herbert Hughes yw nodyn i'r perwyl fod ei ddyled yn "fawr i lawer o haneswyr ddoe a heddiw."

    Fel y dywedais eisoes, y mae hynny'n amlwg - ac yn gwbl anochel. Buasai'n bechod (ac yn wiriondeb ofer) petai'r awdur wedi ceisio darlunio bywyd Harris megis o'i ben a'i bastwn ei hun.

    Gan y nofelydd, ynteu, wele gydnabod yn llawn ei ffynonellau; gan Mr Hughes, wele'u cydnabod yn gyffredinol.

    Nid nofelydd
    Gan y nofelydd, meddaf i, wrth sôn am y naill lyfr, a chan Mr Hughes, meddaf, wrth sôn am y llall. Hynny am na wn yn iawn beth i'w alw. Nid nofelydd, yn sicr, oblegid ni cheir yn Harris ddim o'r datblygiadau cymeriadol a storïol a geir mewn nofel.

    Nid hanesydd chwaith, oblegid ni cheir dim o'r trefnu a'r dadansoddi beirniadol a geir mewn llyfr hanes.

    Ac nid ysgrifwr, oblegid ymdriniaeth ffeithiol-wrthrychol yn hytrach na goddrychol yw'r ymdriniaeth â Harris a geir yma.

    Y mae'r broliant ar y clawr cefn yn sôn am y llyfr fel 'ffeithlen,' Cymreigiad o faction, mi dybiaf, sef gwaith y mae iddo sail mewn ffeithiau ond a weithir yn ddychmygus.

    Er mwyn gweithio'n iawn gyfrol ffeithlennol buasai'n dda petai'r awdur wedi mabwysiadu rhai o ddyfeisiau ffuglen, a chynnwys yma ychydig o sgwrsio rhwng cymeriadau, ambell flashback, darlunio gwrthdaro drwy gymeriadu yn hytrach na disgrifio, &c.; dyfeisiau a fyddai wedi rhoi blas amgen i'r llyfr a rhyw sioc fach bleserus i'r darllenydd yn awr ac yn y man.

    Llyfr hyfryd dros ben
    Na'm camddealler:
    Y mae hwn yn llyfr hyfryd dros ben, llawn gwybodaeth werthfawr, wedi'i lunio mewn arddull lefn rwydd.

    Da odiaeth dod ag Evan Moses a Hannah Bowen eto'n fyw.
    Da hefyd y gwaith o wneud hwyl - heb cweit wneud hwyl - am ben yr Harris sy'n gweddïo am gymorth i ddewis rhwng darpar-wragedd.
    A da iawn y gwaith o ddangos pa mor echrydus o ddynol (a gwrth-ddynol) oedd seraff mawr y ganrif.

    Eisiau mwy
    Mwynheais y llyfr, do, ond teimlwn o hyd fod eisiau mwy o bupur a halen ynddo.

    Petawn i'n gwybod llai am Howel Harris nag ydwyf, dichon y buaswn wedi'i fwynhau'n fwy anfeirniadol ond am fy mod yn gwybod rhyw ddimeiwerth am y gwrthrych, wrth ddarllen y llyfr dyhëwn naill ai am oleuni newydd ar ryw agwedd ar gymeriad Harris neu ar ryw ddigwyddiad yn ei fywyd, neu - eto -- dyhewn am rywbeth yn y mynegi i darfu arnaf ac i'm cyffwrdd.

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Gwefan Grefydd y Â鶹ԼÅÄ


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý