Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Cymro Cryfa
Gogleddwr ddaeth i'r de i ddangos sut i chwarae rygbi
  • Adolygiad Ion Thomas o Y Cymro Cryfaf gan Robin McBryde.


  • Pan fo chwaraewr profiadol ein gêm genedlaethol yn sgwennu hunangofiant, y mae'r cefnogwr rygbi a'i gwestiynau'n barod.

    Yn achos Robin McBryde, sut y daeth bachgen a fagwyd yn Llanfechell Sir Fôn yn gapten ar Lanelli, yn gonglfaen yn nhîm Cymru ac yn Llew?

    Sut y cafodd y bachwr cydnerth hwn y teitl Y Cymro Cryfa?
    Ac yn olaf, ei farn.

    Clawr y llyfr Yn y gyfrol hynod ddarllenadwy yma (tua 185 tudalen) a sgwennwyd ar y cyd â Lynn Davies, ceir atebion manwl i'r ddau gwestiwn cyntaf ac ychydig atebion i'r olaf.

    Egyr y gyfrol gyda'r bennod ar ddigwyddiadau'r gystadleuaeth Y Cymro Cryfaf ar S4C ddechrau'r Nawdegau.

    Braf yw cael darllen am fagwraeth McBryde a dysgu iddo dyfu heb unrhyw freuddwydion na gobeithion o safbwynt rygbi.

    Telir tipyn o deyrnged i'w rieni a buan gwelwn ddylanwad y clybiau rygbi; Bangor yn gyntaf ac yn arbennig Porthaethwy yn llywio ac yn dylanwadu arno.

    Heb amheuaeth dyma ddyn a oedd yn mwynhau'r her corfforol, ac yn synhwyro gyda phob gêm ei fod yn ymdopi ac o dipyn i beth yn rhagori.

    Diddorol yw darllen am y dynion a fu'n gyfrifol am ei gyfeirio a'i ddatblygu, Meic Griffith ac Elvie Parry er enghraifft.

    Map o ddatblygiad
    Gwelir o'r ysgrifennu yma mai pobl o'r un anian sy'n gwneud clwb a phobl felly sy'n gyfrifol am feithrin talent amrwd, a'i dodi ar y cledrau a all arwain at gystadleuaeth uwch.

    Map o ddatblygiad a chamau yng ngyrfa Robin McBryde yw'r gyfrol gyda digon o gyfeiriadau at ymarferion corfforol.

    O'i ddyddiau gyda'r Wyddgrug i Abertawe a Llanelli gwelwn ŵr a oedd yn ymroddedig iawn i gryfhau ei gorff.

    Synhwyrwn yn wir ei fod yn mwynhau gwthio ei hunan a cheir darlun hynod o gofiadwy wrth iddo ddisgrifio sesiwn mewn cae cefn ac yntau'n gorfod cwrsio ci Tina ei wraig wrth iddo geisio cael gafael ar ei esgid.

    Peidio dangos
    Mae darllenwyr cofiannau athletwyr o hyd yn chwilio am athrawiaethau neu fantra seren. Un a weithredai Robin oedd peidio â gadael i'r hyfforddwr weld bod yr ymarferion wedi ei drechu.

    Cwestiwn arall a atebir yn eitha manwl yw'r cyfnod cymharol fyr a gafodd McBryde yn nhîm llwyddiannus Abertawe.

    Ar y pryd roedd Garin Evans yn fachwr effeithiol a mawr ei barch gan lawer. Cadw'r fainc yn dwym yw hanes sawl un pan gwyd sefyllfa o'r fath.

    Mae dadleniadau McBryde yn rhai gonest a'r hyn a welwn yw dyn sy'n ysu am gael chwarae bob Sadwrn ar y lefel uchaf posib. Arweiniodd yr awydd yma iddo dderbyn gwahoddiad i ymuno a thîm Llanelli.

    Yr hyn a wna'r gyfrol yn ddiddorol yw'r mân gyffyrddiadau personol.

    Er enghraifft dysgwn i McBryde gael y cynnig i ymuno â Llanelli pan oedd yn mwynhau barbeciw teuluol ac Alan Lewis, hyfforddwr Y Scarlets ar y pryd, yn taro'i ben dros y wal yn annisgwyl.

    Y mae'r gyfrol yn gofnod da i ddilynwyr y Scarlets o'r tymhorau y bu Robin yn chwarae gydag ambell gêm yn amlwg wedi sefyll yn y cof.

    Uchelgais Robin oedd chwarae dros ei wlad. Ni fu'n daith hawdd iddo sefydlu ei hun fel y dewis cyntaf a cheir darlun da o chwaraewr a weithiai i'r Bwrdd Trydan yn cystadlu mewn maes a drodd yn broffesiynol.

    Ni cheir fawr o ymateb gan McBryde i'r newid yn y gêm, dim ond yr hanes amdano'n sylweddoli'n raddol y byddai'n rhaid iddo fentro er mwyn cyflawni taith y Llewod a medru cynyddu lefelau ffitrwydd.

    Cyfnodau duon
    Fel ymhob llyfr gan chwaraewyr y campau, ceir sôn am y teithiau tramor a'r bywyd breintiedig ar un llaw o fedru crwydro'r byd ac aros mewn gwestai braf.

    Ond darlunia'r chwaraewr gwydn yma hefyd y cyfnodau du o ddioddef anafiadau.

    Mae'r penodau am yrfa McBryde yn ngharfan Cymru yn rhai diddorol ac yn gofnod o'r newid a fu o safbwynt hyfforddwyr a'r datblygiad yn y technegau hyfforddi.

    Mae llawer un wedi holi am swyddogaeth Tîm A Cymru - tîm y cafodd McBryde y cyfrifoldeb o fod yn gapten arno a cheir cryn feirniadaeth ganddo ar barch a chydnabyddiaeth yr Undeb tuag at y tîm yma.

    Ac er nad yw McBryde yn ymhelaethu rhyw lawer ar gyfraniad Graham Henry y mae'n amlwg i hwnnw droi'r trai.

    Rhydd dipyn mwy o ofod a sylwadau ar Steve Hansen.

    Henry a Hansen
    Braf cael darllen am fanylion rhai o'r tactegau a'r technegau a gyflwynodd Henry er enghraifft y system "pod" gan y blaenwyr. A diddorol yw dyfarniad a chasgliadau McBryde:

    "Yn sicr roedd 'na fanteision i system y 'pod' ond roedd e'n gorfodi rhywun i chwara'r gêm fel robot braidd ac yn atal rhywun rhag ymateb i'r hyn roedd o'n ei weld o'i flaen."

    Diddorol gweld fod Steve Hansen wedi ystwytho dipyn ar y system hon gan hybu chwaraewyr i ymateb i'r sefyllfa wedi dwy sgarmes.

    Ond y mae McBryde yn codi'r caead fel petai ar y problemau a gwyd o orfod ymdopi a'r newid mewn tîm hyfforddi a'r ffyddsy'n rhaid iddyn nhw fel chwaraewyr y'i ddangos mewn technegau newydd a chwbl wahanol.

    Mae gennym ni fel cefnogwyr tîm Cymru gof da o'n methiant i ennill a chystadlu mewn llinellau gyda'r blaenwyr yn edrych yn gwbl ar goll.
    Yma, esbonia'r bachwr y cefndir i geisio lliniaru rhywfaint ar y beirniadu a fu.

    Dod i'w adnabod
    Ond a ddeuthum i adnabod Robin McBryde?
    Dywed McBryde mewn un man; "Do'n i ddim wed .i.. cymryd yr agwedd iawn, ddim wedi gofyn i mi fy hun pam nad o'n i'n cael 'y newis.... Ro'n i falle'n rhy barod i feirniadu ac erbyn hyn fedra i ddim coelio 'mod i wedi dweud rhai o'r petha wnes i wrth hwn a'r llall."

    Tybed ai dyna sydd i'w gyfrif pam nad yw McBryde yn taclo ambell berson a phwnc mewn print fel y lloriodd Andy Goode a Rob Snow ar y cae rygbi?

    Ac eto y mae yma ddadlennu manwl ar ŵr a roddodd y flaenoriaeth i serennu ar y cae rygbi. A chyda Robin bellach yn hyfforddwr gyda'r garfan genedlaethol, deallwn ei fod wrth ei fodd yn cael datblygu y genhedlaeth newydd o sêr.

    Dyma gyfrol hynod ddarllenadwy am yrfa un a lwyddodd i gyrraedd y brig yn un o'r safleoedd caletaf ar y maes rygbi.

    Gwelir tipyn o stamp iaith y de ar y gogleddwr ond dyw hynny ddim yn syndod o gofio ei fod wedi hen fwrw'i wreiddiau yn y Tymbl.

    Ac ie, dyma ogleddwr a ddaeth i'r de i ddangos i lawer sut i chwarae rygbi.
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý