麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hen Garolau Cymru
Casgliad o 60 o garolau plygain
  • Hen Garolau Cymru - 60 o Garolau Plygain. Golygwyd gan Arfon Gwilym a Sioned Webb. Cwmni Cyhoeddi Gwynn. 拢8.50.


  • Gellir gwrando Arfon Gwilym yn siarad am ei lyfr ar ddiwedd yr erthygl hon.


  • Un o lyfrau mwyaf amserol Nadolig 2006 yw casgliad Arfon Gwilym a Sioned Webb o hen garolau Cymraeg.

    Cyhoeddir Hen Garolau Cymru - 60 o Garolau Plygain gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn ac y mae yr unig gasgliad o'r fath sydd ar gael.

    Fe'i golygwyd gan Arfon a'i briod, Sioned Webb ond dywedodd Arfon iddo fod mewn cryn gyfyng gyngor cyn cymryd y cam o gyhoeddi'r llyfr.

    Clawr y llyfr "Roeddwn i'n gweld yr angen i gyhoeddi cyfrol eithaf cynhwysfawr - ac rwy'n credu bod 60 o garolau yn eithaf cynhwysfawr - ac hefyd gyfrol oedd yn hwylus," meddai wrth gael ei holi gan John Roberts ar y rhaglen radio, Bwrw Golwg.

    "Mae yna lawer iawn o garolau wedi cael eu cyhoeddi ar hyd y blynyddoedd ond maen nhw mewn gwahanol lyfrau - rhyw ddwsin fan hyn a rhyw bymtheg fan acw - a llyfrau allan o brint ac yn y blaen; felly roeddwn i'n gweld yr angen yna," meddai.

    "Ond ar y llaw arall roeddwn i'n ymwybodol iawn fod yna deuluoedd a phart茂on plygain yn ardaloedd Sir Drefaldwyn lle mae'r traddodiad yn dal yn fyw a lle mae rhai o'r carolau yma yn cael eu gwarchod yn ofalus iawn, iawn.

    "Ac roeddwn i'n gyndyn braidd - neu roeddwn i'n nerfus - o fynd i amharu ar y rhan yna o'r peth. Y busnes yma o agor y drysau yn llydan i'r byd i gyd.

    "Ond yn y diwedd y penderfyniad oedd cyhoeddi am y rheswm fod y traddodiad canu plygain yn perthyn i Gymru gyfan nid ond i un rhan o Gymru - a honno oedd y ddadl wnaeth ennill yn y diwedd."

    Traddodiad llafar
    Pwysleisiodd mai traddodiad llafar yw hwn ac un - fel canu gwerin - amhosib ei gofnodi'n llwyr ar bapur.

    "Rwy'n mynegi yn y rhagair, Dyma'r geiriau, dyma'r nodau ichi ond os ydy ch chi eisiau gwybod sut mae eu canu nhw go iawn wel gwrandwch ar hen recordiadau fel yr un wnaeth Roy Saer o Sain Ffagan yn y Saithdegau. Hwnna ydi'r arweiniad gorau o ddigon," meddai.

    "Wrth gwrs y gallwch chi roi nodau ar bapur ond allwch chi byth ddisgrifio yn union beth ydi'r y m芒n bwysleisiadau.

    "Un peth a sylwais i pan ddechreuais i fynd i blygeiniau oedd bod y carolau yn cael eu canu yn yr un ysbryd a ch芒n werin efo'r rhyddid yna a'r dal ar ambell i nodyn, dal ar ambell i air. Y geiriau oedd yn bwysig wrth gwrs ond nid y nodau," meddai.

    "Ond mae'n rhaid yn rhywle gofnodi beth ydi'r nodau a beth ydi'r geiriau er mwyn i bobl eraill eu dysgu nhw," ychwanegodd.

    Gwasanaeth nid cyngerdd
    Pwysleisiodd hefyd mai rhan o addoliad a defosiwn yw'r carolau.

    "Rydw i'n pwysleisio fwy nag unwaith yn y llyfr mai gwasanaeth ydi'r Plygain ac nid cyngerdd," meddai.

    Yn ystod y drafodaeth gwahaniaethodd hefyd rhwng carolau ac emynau o ran eu natur.

    "Mae emynau yn ffitio i rhyw batrwm mwy taclus rhywsut ond fe gewch chi rai carolau tua phymtheg llinell yr un a llawer iawn ohonyn nhw yn faledi - alawon baled wedi dod i mewn o Loegr - ac mae hanes y rheini yn hynod ddiddorol," meddai.

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Bwrw Golwg

  • Cyhoeddi Cydymaith Caneuon Ffydd

  • Lleol i Mi - Canolbarth Cymru


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy