麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
W J Gruffydd - Elerydd
Llenor a bardd amryddawn
O ran 'poblogrwydd' mae rhai o'r farn i'r bryddest a enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli i W J Gruffydd ddod yn fwy poblogaidd nag hyd yn oed pryddest enwog Cynan, Mab y Bwthyn.

Y bryddest hon, Y Ffenestri, yn 1955 oedd y gyntaf o ddwy i ennill coron genedlaethol i'r bardd o Ffair-rhos.

Ef a goronwyd hefyd yng Nghaerdydd yn 1960.

Troi ei law
Mae W J Gruffydd yn fardd ac yn llenor amryddawn yn gallu troi ei law at y dwys a'r doniol.

Clawr ail gyfrol ei hunangofiant Ef yw 'tad' y cymeriadau gwledig hynod hynny Tomos a Marged a fu'n diddanu darllenwyr y Tivyside Advertiser am flynyddoedd yn ystod ei gyfnod yn weinidog yn Y Glog ac y casglwyd eu hanesion mewn saith cyfrol dros y blynyddoedd.

Ymddangosodd y casgliad cyntaf yn 1965 a daeth dwy gyfrol arall yn yr wyth mlynedd wedyn ac wedyn saib o bron i ugain mlynedd nes i'r cyfrolau hwyliog ailgychwyn eto ddechrau'r Nawdegau.

Cadarnhaodd straeon Tomos a Marged le W J Gruffydd ymhlith ysgrifenwyr prin straeon digri Cymraeg.

Yn weinidog
Ganwyd William John Gruffydd yn Ffair-rhos yn 1916 ond yr oedd yn 1946 cyn iddo gael ei ordeinio yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yntau heb fod erioed mewn coleg diwinyddol.

Ar un adeg bu'n gweithio mewn ffatri ordnans a chafodd gynnig swydd yn Somerset House ond iddo ei gwrthod a dychwelyd i fro ei febyd.

Ei ofalaeth gyntaf oedd Cwm Meidrin ac Ainon, Gelli Wen, Sir Gaerfyrddin. Bu wedyn yn Nhal-y-bont, Ceredigion a Hermon a'r Star, Sir Benfro, ddwywaith, ac mewn sawl eglwys yn ardal Llambed.

Bu'n gweinidogaethu am saith mlynedd hefyd ym Methlehem Llanddewi Brefi ac Ebeneser Llangybi gyda'r Annibynwyr.

Daethpwyd i'w adnabod fel W J Gruffydd Y Glog.

Dewi Emrys yn ysbrydoli
Ar wah芒n i straeon Tomos a Marged bu'n ddiwyd fel bardd a llenor mewn cyfeiriadau eraill hefyd gyda Dewi Emrys yn ysbrydoliaeth fawr iddo fel bardd.

Gwnaeth argraff fel bardd yn ifanc - pan oedd WJ yn 16 cyhoeddodd Dewi Emrys delyneg o'i eiddo, Y Gwaddotwr ym Mhabell Awen papur newydd Y Cymro ac fe fu hynny'n sbardun iddo ddal ati i gyfansoddi cerddi gan gyrraedd y copaon gyda'r ddwy goron Genedlaethol a enillodd.

Ei enw yn yr Orsedd yw Elerydd. Fe'i dyrchafwyd yn Archdderwydd yn 1984.

Ar ei benodiad addawodd ddod ag elfen o hiwmor i'r seremon茂au a daeth yn ffefryn oherwydd ei sylwadau ffraeth oddi ar y llwyfan.

Rhwng 1967 a 1971 cyhoeddodd dair nofel a oedd yn nodedig am eu harddull, Hers a Cheffyl, Cyffwrdd 芒'i Esgyrn ac Angel Heb Adenydd

Yn 1986 cyhoeddodd gyfrol gyntaf ei hunangofiant, Meddylu: Hunangofiant Archdderwydd a thair blynedd yn 么l cyhoeddodd yr ail ran O Ffair Rhos i'r Maen Llog sydd yn dal ar gael.

Cysylltiadau Perthnasol
  • Cerddi parti pen-blwydd W J Gruffydd yn 90 oed

  • O Ffair Rhos i'r Maen Llog - adolygiad

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy