麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Twist ar 20
Plesio - er gwaethaf cymysgu enwau
  • Adolygiad Rhodri Llyr Evans o Twist ar 20 gan Daniel Davies. Lolfa. 拢6.95.


  • Ar un wedd, mae cyfrol newydd Daniel Davies yn chwa o awyr iach.
    Wrth ddarllen clawr cefn Twist ar 20, deallais yn syth nad yw'n gyfrol sy'n ceisio cyrraedd uchelfannau campwaith.

    Clawr y llyfr Yn hytrach, caiff y darllenydd wahoddiad diffuant iawn i eistedd, gorffwys, gwneud paned a dechrau darllen 10 stori fer - gan ofalu nad oes briwsion bisgedi'n disgyn rhwng y tudalennau.

    Deg stori yn ymwneud 芒 phynciau eang - cariad, brad, gamblo, datganiadau piano, darts a physgota mecryll!

    Felly, dyma dderbyn y gwahoddiad ac amgylchynu fy hun 芒 gwerth awr neu ddwy o fwyd a diod cyn dechrau arni.

    Yn gyfrol berffaith ar gyfer pnawn Sul glawog, mae Twist ar 20 yn chwim, yn fachog a'r cyfan oll wedi ei sgrifennu mewn ffordd gyfarwydd a chynnes gyda thafodiaith gyfoethog Ceredigion yn wadin i'r naratif.

    O gofio natur y stori fer, mae'n anodd ymgolli mewn unrhyw stori unigol - ac nid dyna yw y nod wrth gwrs, ond yn hytrach cynnig cip ar fywyd cymeriad - ffocysu ar fanylyn oddi mewn i'r llun mawr.

    Dyna a gawn - a'r cyfan gyda dogn helaeth o hiwmor.

    Mae natur bersonol, gyfrinachol, bron i'r straeon - fel petai prif gymeriad y stori honno yn datgelu ei stori a hynny'n slei bach.

    Ond eto, mae modd ymgolli ynddi fel cyfrol. Hynny yw, gwneud sesiwn ohoni a'i darllen ar ei hyd, yn hytrach na drachtio cegeidiau bychain o straeon yn awr ac yn y man.

    Er, digon hawdd fyddai gwneud hynny hefyd heb golli dim o natur gynnes yr adrodd, ond i'w gwerthfawrogi'n llawn, credaf mai ar ei thalcen y dylid ei drachtio.

    Tro yn y gynffon
    Yn fuan iawn, daw arwyddoc芒d y teitl i'r amlwg wrth i'r awdur brofi ei fod wedi meistroli crefft 'y tro yn y gynffon' ond gan nad yw'n fwriad gennyf cael fy nghyhuddo o ddifetha'r llyfr, mi dawaf.

    Er yn gyfrol 'gyfoes', mae'n canolbwyntio'n bennaf ar gymeriadau sy'n disgyn yn daclus dan faner 'canol oed' a chyda llawer o'r straeon, mae awyrgylch o argyfwng yn dilyn y cymeriadau fel rhyw gysgod hollbresennol sy'n gyfrifol am lywio'u hanes.

    Priodas wedi colli'i fflach, swydd ddiflas neu hyd yn oed un o'r cysgodion mwyaf, unigedd - a'r cyfan yn gofyn i gymeriadau'r gyfrol weithredu.

    Ac ni ellir ymbellhau oddi wrth yr holl gamblo sydd ynddi ychwaith gan gysylltu hynny ag argyfyngau'r cymeriadau.
    Herio trefn amser, gwrthod y llwydni a chwffio n么l.

    Yn chwim
    Caiff natur chwim y gyfrol ei chyfleu yn y berthynas glos rhwng naratif a deialog. Ni cheir dyfynodau ynddi a chanlyniad hynny yw creu llif eithaf cyflym i rediad y naratif - y cyfan fel petai'n gwau yn un cipolwg brysiog ar fywydau'r bobl rhwng y cloriau gan adael y manylion diangen ar 么l.

    Ni cheir ddisgrifiadau helaeth o f么r a mynydd a chlawdd a gorwel ond, yn hytrach, un frawddeg o ddisgrifio bachog sy'n llwyddo i ddweud y cyfan.

    Gweler y disgrifiad o blant yn troelli o amgylch mam yn stori Egwyddor Eferest. Hyfryd o syml.

    Cyfrol hwylus ac eithaf ffwrdd-芒-hi yw Twist ar 20 ac yn hynny o beth mae'n llwyddo.

    Ond eto, mae gwendidau.
    Yn gyntaf, mae'r 10 stori, ar wah芒n i un neu ddwy, fel petaent yn dod o enau'r un cymeriad ac mae hynny, ar 么l pedair neu bum stori, yn gallu diflasu darllenydd. Hynny yw, mai eiddo'r un cymeriad oedd cyfran helaeth o'r straeon ac nid straeon cwbl annibynnol.

    Ond nid yw'n wendid sy'n tarfu'n ormodol ond ar adegau yn peri i undonedd lechu ymhell ar y gorwel.

    Cymysgu enwau
    Mae'r gwendid mwyaf o du'r golygu - neu'r diffyg golygu. Mewn dwy stori, o leiaf, mae enw cymeriad yn newid - Stephen yn troi'n Mark am frawddeg cyn dychwelyd yn 么l i Stephen am weddill un stori - heb unrhyw gyfeirio pellach at y 'Mark' dirgel.

    Mewn stori arall, cawn ddisgrifiad o Simon yn cerdded at ddrws ffermwr a chyflwyno'i hun fel William Jones.

    Mae'r fath wallau yn rhai y gellid fod wedi eu hosgoi gyda golygu sylfaenol.

    Serch hynny, o anwybyddu camgymeriadau o'r fath, mae'r gyfrol yn llwyddo i wneud yr hyn 'a ddywedir ar y tun' sef diddanu.

    Yr arf perffaith yn erbyn diflastod Sul glawog.
  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy