麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ble Wyt Ti Rhwng?
Sbarduno atgofion ond anodd ei ddarllen
  • Adolygiad Angharad Dubheasa o Ble Wyt Ti Rhwng? gan Hefin Wyn.


  • Refferendwm 1979 a sefydlu S4C yw man cychwyn y gyfrol yma gan Hefin Wyn sy'n croniclo hanes canu poblogaidd Cymraeg, ac sy'n ddilyniant i'w gyfrol ar hanes y 60au a'r 70au, Be Bop a Lula'r Delyn Aur.

    Clawr y llyfr Fel newyddiadurwr sydd yn ymddiddori'n y s卯n roc a phop yng Nghymru, mae Hefin Wyn yn un delfrydol i fynd i'r afael 芒'r pwnc ac, yn wir, yn ystod cyfnod ei gyfrol gyntaf, sef y Chwedegau a'r Saithdegau, roedd yn ohebydd adloniant gyda phapur newydd Y Cymro.

    Cymeriadau lliwgar
    Mae stori canu poblogaidd Cymraeg o 1980 i 2000 yn cael ei dweud drwy gyfres o erthyglau, cyfweliadau ac adolygiadau o wahanol ffynonellau - o Golwg i Sgrech, yn ogystal 芒 rhai Saesneg fel yr NME a Mojo.

    Daw rhai o gymeriadau mwyaf lliwgar y cyfnod yn fyw drwy eu geiriau ei hunain mewn dyfyniadau rhwng geiriau Hefin.

    Daw naws yr Wythdegau o obaith a mentro i'r amlwg drwy rai o fandiau mwyaf arloesol y cyfnod, fel Yr Anrhefn, Datblygu a Llwybyr Llaethog drwodd i 'C诺l Cymru' y Nawdegau a rhai o fandiau mwyaf poblogaidd heddiw.

    Sawl cwestiwn
    Mae yna gefndir gwleidyddol i'r llyfr a cheir digon o s么n am y frwydr dragwyddol rhwng y Saesneg a'r Gymraeg.

    Serch hynny, roedd gen i sawl cwestiwn yn dal heb eu hateb wedi cyrraedd y dudalen olaf, gan nad oedd barn yr awdur yn rhy glir.

    Ddim yn hawdd
    Yn glamp o lyfr dydi hwn ddim yn un hawdd i'w ddarllen a buaswn yn argymell y rhai hynny sy'n mynd i'r afael 芒'r dasg i feddu ar ddiddordeb, gwybodaeth a dileit yn y cyfrwng yn barod.

    Gall y llyfr ddarllen fwy fel traethawd ar adegau gan ei wneud yn un anodd i'w ddilyn ac yn anos i gynnal diddordeb.

    Mae'r amrywiaeth o ffynonellau i'w chymeradwyo ond ar brydiau mae'n tueddu iddo fod yn llyfr 'swnllyd' iawn gyda'r holl leisiau gwahanol.

    Serch hynny, mae'n llyfr pwysig o ran adrodd hanes y s卯n Gymraeg cyn i bethau fynd yn angof.

    Sbarduno atgofion
    Er bod yna ambell i gamgymeriad ffeithiol, credaf, o ystyried y doreth o wybodaeth a gyflwynir, y gellir maddau hynny i'r awdur.

    Mae ceisio rhoi ugain mlynedd o hanes mewn un llyfr yn her fawr ac er na chredaf fod y gyfrol hon mor llwyddiannus yn ei bwriad ag oedd Be Bop a Lula'r Delyn Aur mae'r awdur yn deffro llawer o atgofion melys am ddigwyddiadau'r byd cerddorol yn ystod y cyfnod pwysig hwn yn hanes roc a phop Cymru.

  • Gweler Gwales


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy