麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
A Fu Heddwch?
Robyn L茅wis ar gefn ei geffyl - ond sut geffyl?
  • Adolygiad Gwilym Owen o A Fu Heddwch? gan Robyn L茅wis. Y Lolfa. 拢9.95.


  • I mi, mae'r Dr Robyn L茅wis ar ei orau pan yw ar gefn ei geffyl ac yn deud ei ddeud heb flewyn ar ei dafod - brifed a frifo.

    Clawr y llyfr A phan glywais ei fod yn y broses o ysgrifennu hanes Gorsedd Beirdd Ynys Prydain - ac o gofio am rai penodau yn hanes yr awdur a'r corff hwnnw - roeddwn i'n edrych ymlaen at gyfrol yn llawn t芒n a brwmstan.

    Ond mae'n amlwg, wedi darllen ei gynnyrch, fy mod wedi disgwyl gormod - ac efallai mai arnaf i mae'r bai fy mod i'n teimlo braidd yn siomedig.

    Nid dweud fod hon yn gyfrol wael a diwerth yr ydw i - dim o gwbl.

    Fel y buasech chi'n disgwyl mae ynddi swmp o wybodaeth am y cyfnod y bu'r Orsedd yn paredio yn eu cobannau ar feysydd a rhwng meini o F么n i Fynwy.

    Ond y drwg ydi nad oes yna fawr o ddim newydd yn cael ei ddweud.

    Mae hi'n eithaf amlwg fod gan Robyn L茅wis ei ffefrynnau ymhlith y Gorseddogion a fu ac y mae'r rheini yn cael mwy o sylw na'r lleill ganddo - ac mae ganddo bob hawl i wneud hynny wrth gwrs.

    Cig blasus
    Mae hynny o gig blasus sydd yn y cyhoeddiad i'w ganfod pan fo'r awdur yn trafod y cyfnod pan ddaeth o'i hun yn aelod o'r Orsedd - ac mae'n ddiddorol mai cael ei dderbyn er anrhydedd a wnaeth o yn y lle cyntaf ac nid fel enillydd un o brif wobrau'r Eisteddfod.

    Dim ond wedi iddo ennill medal y Prif Lenor y cafodd yr hawl i gael ei ystyried yn Archdderwydd ac er bod llawer ohonom yn gwybod ei fod a'i lygaid ar y brif swydd ers rhai blynyddoedd cyn cael ei ddewis nid yw'n s么n fawr ddim o gwbl am y cyfnod hwnnw pan gafodd ei wrthod gan y criw bychan oedd yn dewis Archdderwydd yr adeg honno.

    Pleidlais i bawb
    Nid yw'n s么n ychwaith am y ddadl i roi'r hawl i holl aelodau'r Orsedd ddewis bos y sioe a sut y bu iddo ef fynd ati i drechu dau o'i wrthwynebwyr yn yr etholiad cyntaf.

    Does dim s么n ychwaith am safiad y cyn Gofiadur J芒ms Niclas a drodd y fantol ar fater pleidlais i bawb mewn cyfarfod cyffredinol o Orsedd y Beirdd.
    Safiad gorseddol hanesyddol yn fy marn i.

    Yn llawdrwm
    Ond rhag imi roi'r syniad nad oes dim o'r Robyn Ll欧n go iawn yn y gyfrol newydd mae'n deg nodi ei fod o'n llawdrwm iawn ar yr Orsedd am beidio 芒 chynnig anrhydedd erioed i'r Dr John Gwilym Jones.

    Ac, wrth gwrs, mae'n werth tynnu sylw at y fath sarhad ar un o'n llenorion disgleiriaf.

    Cwbl siabi
    Mae'r llyfr hefyd yn rhoi sylw i'r driniaeth gwbl siabi a gafodd Harri Gwynn nid yn unig gan yr Orsedd ond hefyd gan yr Eisteddfod ei hun - ac mae'n dda o beth ei fod wedi pigo cydwybod y Sefydliad Sanhedrinol.

    Y Frenhines ar y clwt?
    Ond mae yna ddirgelion yngl欧n 芒'r gyfrol hefyd.
    Y mae'r cyn Archdderwydd sydd hefyd yn swyddog cyfreithiol Bwrdd yr Orsedd yn cyhoeddi nad yw y Frenhines a'i gwr bellach yn aelodau o'r cylch cyfrin.

    O dan y cyfansoddiad newydd ni all neb nad yw'n siarad Cymraeg fod yn aelodau meddai - felly mae yr hen Elizabeth o Windsor a Phylip Meirionnydd allan ar y clwt.

    Ond, medda fo wedyn; nid oes sicrwydd a yw rhywun wedi rhoi gwybod iddyn nhw am y sefyllfa.
    Diddorol ynte?

    Llythyrau ffug
    Dirgelwch dyfnach i mi ydi'r ffaith i'r awdur benderfynu cyhoeddi tudalennau o lythyrau ato sydd yn amlwg yn llythyrau ffug oddi wrth rywrai oedd yn honni eu bod nhw yn ddarpar dderwyddon rhyngwladol.

    Llwyddodd y llythyrwr neu lythyrwyr hyn i oglais yr Archdderwydd. Efallai'n wir ei fod o'n credu fod y rhain yn llythyrau gan bobl ddilys. Yn wir, cyflwynodd un ohonynt i Fwrdd yr Orsedd - ond efallai nad oedd yr aelodau mor barod i gael eu perswadio.

    Bid a bo hynny - fel darllenydd mae'n rhaid i mi gyfaddef imi gael yr holl gybolfa yn gwbl ddibwrpas ac rwy'n synnu hefyd mai dyma'r rhan o'r llyfr a ddefnyddiwyd i heipio'r cyhoeddiad.
    Trueni am hynny.

    Pethau eraill
    Ond beth arall sydd yma?
    Wel, fe gewch chi hanes Cynan a'r cylchgrawn Lol; clywed sut y bu i'r Archdderwydd roi chwip din i Ann Clwyd - nid yn llythrennol cofiwch - a sut y cafodd yntau chwip din gan y Sanhedrin am gyfeirio at foch a gwinllan ym Mhrifwyl Casnewydd.

    Fe ddowch i ddeall hefyd fod Archdderwydd yn cadeirio a choroni prifeirdd ond yr hyn a ddigwydd i'r prif lenorion yw cael eu medalu - sy'n swnio braidd yn boenus i mi.

    Diddorol sylwi hefyd i'r awdur fodloni ar un llun yn unig o amryw o gyn archdderwyddon ond rywsut wedi canfod lle i gryn wyth o luniau ohono ei hun yn ei lifrai gorseddol gan gynnwys un dramatig iawn ohono yn canu gweddi'r orsedd. Llun y mae o'n cyfaddef a ddisgrifiwyd gan rywun fel, "Diawledig".

    A dyna ni.
    Bron i ddau gant o dudalennau.
    Yr arddull a phopeth yngl欧n 芒'r sgwennu o'r safon uchaf bosibl.

    Mae Gwasg y Lolfa yn 么l ei harfer wedi cyflwyno'r cyfan yn raenus a chaboledig ond er hyn i gyd fe ddewisodd yr awdur farchogaeth hen geffyl swrth a braidd yn ddifywyd.

    Ac mae hynny'n drueni.
    Dwi'n si诺r fod gan Robyn Ll欧n well stori i'w dweud petai wedi dewis gwneud hynny.

    Tybed a yw yntau fel yr Archdderwydd gorau a gafwyd erioed yn teimlo'n "hen a pharchus"?

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy