麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cysgodion y Coed
Codi awydd am ddilyniant
  • Adolygiad Llinos Dafydd o Cysgodion y Coed gan Sian Eirian Rees Davies.


  • Rhaid imi gyfadde', cyn mynd ati i ddarllen y nofel fer yma, roeddwn i'n amau na fyddwn yn ei mwynhau gan nad oedd I Fyd Sydd Well, nofel gynta'r awdur a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005, wedi cydio ynof o gwbwl.

    Ond dyna'r paragraff cyntaf un yn fy mhrofi'n anghywir.

    Mae unrhyw awdur gwerth ei halen yn cipio dychymyg y darllenydd o'r dechrau un ac yn ei wneud yn rhan o'r stori...

    "Rwyt ti'n disgwyl stori, yn dwyt ti? Wrth gwrs dy fod di! Pam arall faset ti'n codi'r hen lyfr 'ma? Wel mae gen i stori i ti...Dw i eisiau dy sylw di i gyd. Dw i eisiau mwy na hynny. Dw i'n mynnu dy ddewrder di, dy ddychymyg chwim a dy galon di..."

    Clawr y llyfr Dyma osod naws y nofel o'r cychwyn ac mae gan yr awdur ddawn arbennig o ddisgrifio'r ynys si芒p deigryn, a'r daith yno'n "...un hynod o hardd..." gyda changhennau'r coedd "yn drwm o ffrwythau tew, blasus..." ac "wrth nesau at y pentref gallwch deimlo'r awel gynnes drwy eich gwallt ac arogli persawr blodau'r goedwig."

    Ond nid yw pentref Bryn Bahirawa yn f锚l i gyd, ac mae yna gymeriad peryglus iawn, Madam Neja, yn llechu ac yn trio rheoli'r ynys gyfan trwy ddeffro Bwystfil Bryn Bahirawa.

    Hi yw dynes ddoeth Bryn Bahirawa, y pentref "...lle mae cariad mor brin 芒 dwr...", wedi cymryd yr awenau yn dilyn diflaniad y g诺r doeth gwreiddiol, Tada Amin.

    Ond mae'n cymryd mantais o'i statws ac yn trin pawb yn y pentref fel caethweision gyda'i chansen famb诺.

    Antur tri phlentyn sydd yma, wrth iddyn nhw neidio ar gefn Cioma'r eliffant i geisio datrys dirgelwch diflaniad Tada Amin a dianc o grafangau erchyll Madam Neja.

    Ond pwy sy'n anfon y negeseuon iddyn nhw drwy'r amser?
    Rhai fel:
    "Rhaid stopio Bwystfil Bryn Bahirawa
    Rhag ddeffro o'i ogof dywylla -
    Mae'r chwedl yn wir,
    Gall yr awyr cyn hir
    Syrthio dan swyn Madam Neja."

    Yn bodoli
    Ac a yw Cysgodion y Coed wir yn bodoli a pham fod Dwlani, chwaer fach Athani, sydd ddim yn llawn llathen, yn ailadrodd "Nima-adat-eam-ell" yn ei chwsg bob nos?

    Mae'r atebion yn glir erbyn diwedd y nofel ac mae'n daith gwerth ei dilyn i ddarganfod a yw'r plant yn llwyddo i drechu Madam Neja.

    Mae Sian Eirian Rees Davies wedi llwyddo i lifo'r stori'n dda, a darlunio Madam Neja mewn ffordd afiach, gyda "...phlygiadau ei bloneg yn torri'n donnau am ei chanol wrth iddi siglo'i phen-么l i rhythm rhyw g芒n ddychmygol."

    Ceir disgrifiadau bach hynod, fel "...pryfed yn sgrialu mewn sawl sgarmes..."sy'n dangos bod ganddi glust dda am s诺n y geiriau, ac mae'n ychwanegu naws i'r darlun.

    Darllen mwy
    Erbyn cyrraedd y diweddglo, roeddwn i'n ysu am ddarllen mwy ac mae yna sg么p enfawr ar gyfer dilyniant.

    Yn wir, mae'r awdur ei hun yn disgwyl gweld rhyw fath o antur ar yr ynys unwaith eto:

    "Efallai y bydd Madam Neja'n rhoi cynnig arall ar ddeffro Bwystfil Bryn Bahirawa rywdro...gyda chymorth Tada Amin, Sanswca, Dwlani a Cioma, dw i'n gwybod y bydda i'n barod am unrhyw antur a ddaw i'w rhan ar yr ynys ryfeddol hon..." meddai.

    Nofel gwerth chweil a'm cadwodd ar flaenau fy nhraed o'r eiliad gyntaf - dwi eisiau gweld dilyniant pl卯s!

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad: I Fyd Sydd Well


  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy