麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cadw Golwg
Byd bardd
  • Adolygiad Caron Wyn Edwards o Cadw Golwg gan Dic Jones. Gwasg Gwynedd, 拢5.95


  • Clawr y llyfr Llais y Cyfarwydd a glywir yng ngeiriau Dic Jones, a hynny yng ngwir ystyr(on) y gair.
    Does dim amheuaeth ei fod yn un o gewri'r gynghanedd ac mae ei farddoniaeth yn llifo mor rhwydd a braf a diymdrech 芒 sgwrs, a'i ddawn i gostrelu gwefr a theimlad mewn cwpled cofiadwy yn gyfarwydd.

    Dros y blynyddoedd mae ei farddoniaeth wedi nodi achlysuron a chloriannu cyfnod neu ddigwyddiad mewn hanes - o ben-blwyddi (o bob math):

    Anwiredd milawd arall,
    Ond fel erioed fe eilw'r haul
    Hydref a gwanwyn di-draul
    A haf llawn a gaeaf llwm
    Ymlaen am gan mileniwm.
    (Mileniwm o Golwg Arall Gwasg Gomer, 2001) i Barc yr Arfau:
    Daear hud yw'r erw hon,
    Cartre cewri'r tair coron.
    Lawntre werdd gan olion traed
    Ac ehofndra'u hysgafndraed.
    (Parc yr Arfau o Sgubo'r Storws; Gwasg Gomer, 1986)

    Mae ei waith yn cyfleu teimlad cyffredinol 芒 huodledd, boed hwy'n gywyddau croeso, yn gywyddau cyfarch, yn alarnadau neu'n gywyddau coffa.

    Yn wahanol i rai beirdd, a barddoniaeth arall, mae ganddo ddilyniant ymysg pobl nad ydynt fel arfer yn ymddiddori yn y genre, ac heb os, ef yw un o'n prifeirdd mwyaf poblogaidd yn yr ystyr o fod yn 'populist' - ffaith a amlygir gan ei gyfraniad rheolaidd i Golwg.

    Ffrwyth y cynnyrch hwnnw sydd i'w ganfod yn ei gyfrol ddiweddaraf, Cadw Golwg (Gwasg Gwynedd, 拢5.95).

    Yn wahanol i rai o'i gyfrolau blaenorol - megis Golwg Arall sydd wedi cyfuno barddoniaeth a rhyddiaith mewn casgliad o gerddi ac ysgrifau - cerddi yn unig sydd yma, a'r rheiny'n bwrw golwg ar g芒n ar y byd a'i bethau.

    Ceir yma dros 140 o gerddi yn y mesurau caeth a rhydd, cerddi digrif a difrifol a rhai cyfarwydd i'r rhai hynny ohonoch sy'n darllen ei golofn Bardd ar y Byd yn y cylchgrawn.

    Yr unig beth
    Mae'n rhaid i mi fod yn onest, fydda i ddim yn darllen pob peth sydd i'w ganfod yn y cylchgrawn hwnnw.

    A deud y gwir, oherwydd cyfyngder amser yn amlach na pheidio, rhyw daro golwg sydyn dros y cyfan fydda i - ar wah芒n i un peth - colofn Dic Jones.

    Bron nad ydy hi'n ddefod bellach i eistedd lawr efo paned a chael cyfle i fwynhau'r grefft a'r geiriau.

    Daw cynganeddu mor rhwydd 芒 pharablu iddo, ond byth ar draul safon.

    Mae hyn yn bendant yn wir am Cadw Golwg, sy'n berl o gyfrol ac yn un y gall rhywun blymio i mewn iddi fel y myn.

    Ac er mod i wedi darllen bron i bob un ohonynt o'r blaen wnaeth hyn amharu dim ar fy mwynhad ohonynt am yr eildro, ac mae'n hyfryd eu cael wedi eu cloriannu gyda'i gilydd fel hyn.

    Pob math o bynciau
    Fe ag ym mhob un o'i gyfrolau, mae ystod eang o bynciau, digwyddiadau ac achlysuron yn cael eu cynnwys a'u cofio yma, a hwythau'n eu tro yn ennyn amrywiaeth o ymateb ac emosiynau o'u darllen.

    Dyna i chi'r englyn bachog am Arlywydd yr America, Dubya'n Gwneud y Dwbwl

    Mae rhagor o 诺r Laura - o'n blaenau'r
    Pedair blynedd nesa.
    Mwy mi dybiwn mai Dubya
    Ydyw duw yr UDA.

    Er ei bod hi'n ymddangos yn hynod o syml, ymhlyg ei chynildeb mae sawl cwestiwn yn cael ei godi.

    A dyna sut fydda i'n meddwl am ran o'i farddoniaeth - byth yn haerllug gyhuddgar, ond yn hytrach yn codi rhyw ael holgar.

    Enghraifft arall o hyn yw Rhesymeg yr Oes Yma:

    Tra mae'n lotri ni'n edwino - mae'r Iancs
    Yn mawrhau eu gamblo
    Felly i'n mantais byddai, sbo,
    Yn syniad cael casino.

    Fel lladmerydd a sylwebydd ar yr oes fodern mae'n ddi-fai, a buaswn yn argymell i unrhyw un fynd allan i brynu copi a chael gweld ei grefft ar waith drostynt eu hunain.

    Ond beth bynnag ddyweda i, mae'n debyg mai'r ganmoliaeth orau fyddai dweud imi benderfynu prynu ail gopi i'w rhoi'n anrheg yn ddiweddar - dim ond i ganfod fod pawb yn disgwyl stoc newydd wedi i'r lot cyntaf werthu allan!

  • Adolygiad ar Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy