麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Lliwiau Liw Nos
Blwyddyn goch Fflur
  • Adolygiad Hafina Clwyd o lliwiau liw nos gan Fflur Dafydd. Lolfa 拢6.95


  • Mae yna ambell flwyddyn gofiadwy yn hanes pawb ohonom.
    Ambell dro am resymau trist, dro arall ceir dyddiau llythyren goch.

    Credaf mai blwyddyn llythyren goch a gafodd Fflur Dafydd eleni.
    Am y tro cyntaf anfonodd ymgais i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith a dod yn agos i'r brig.

    Mwy na hynny cafodd eiriau canmoliaethus oddi wrth feirniaid sydd yn gwybod be di be.

    "Trwy ddychymyg ffrwythlon yr awdur llwyddir i roi inni olwg newydd sbon ar them芒u megis cariad, anffyddlondeb ac eiddigedd..."

    Clawr y llyfrAc yng ngeiriau Meinir Pierce Jones "nofel gyfoes a soffistigedig..... ysgrifennu sensitif...caiff y darllenydd bleser rhyfeddol...."

    Dawn gerddorol
    Anlwc fawr Fflur oedd bod Dylan Iorwerth wedi anfon Darnau i mewn.

    Mi wyddem am ei dawn gerddorol ac eleni hefyd y lansiodd ei halbwm cyntaf, Coch am weddill fy Oes.

    Heb glywed yr albwm ni allaf ddirnad beth yw ystyr y 'coch' yn y teitl.

    Mae un peth yn wir: nid yw ei llenyddiaeth yn goch - yn ystyr ogleddol y gair.
    Mae hon yn nofel feistrolgar os anodd ei darllen ar brydiau.

    Bloc o fflatiau
    Y cefndir yw bloc o fflatiau ac o fewn tair fflat ceir trigolion llawn cyfrinachau.

    Mae yna unigedd a thwyll ac eiddigedd a ffetish.

    Mae enwau'r trigolion yn dweud rhywbeth wrthym amdanynt.

  • Dyna Gwydion y g诺r priod sydd yn cario 'mlaen hefo'r ferch yn y fflat uchaf.
    Mae'r enw Gwydion yn awgrymu Cymro dosbarth canol gyda phwerau arbennig - y gallu i ddenu merched efallai. Ffotograffydd ydyw a gw锚l bopeth yn ddu a gwyn.

  • Lena yw ei wraig - enw cyffredin yn creu darlun o lygoden fach.
    Mae Gwydion yn medru bod yn ddigon difeddwl a miniog ei dafod hefo Lena. "Beth wyt ti'n ei weld wrth edrych arna i?" hola Lena. "Wal" meddai a cherdded allan o'r ystafell.
    Nid wyf yn hoffi Gwydion o gwbl.

  • Ni cheir enw'r ddynes ffansi ac y mae hynny hefyd yn arwyddocaol; cyfrinach, wyneb mewn edrych, y tu 么l i'r llenni. Ond llawn cyfrwystra a hi a chwaraeodd y tric mwyaf annynol ar Lena druan.
  • Yn y fflat ganol y mae Cain.
    Y mae ef fel y Cain gwreiddiol yn ddyn trist a chymhleth; mae ganddo berthynas od a'i fam.
    Perthynas odiach a Julie (enw arall ddewiswyd yn ofalus) y ferch adawodd wrth yr allor ond sydd yn disgwyl ei blentyn.
    Mae gan hwn obsesiynau afiach ac yr ydym i gyd yn adnabod dynion digon tebyg.
    Mae'r ddeialog rhyngddo ef a Julie uwch y pryd bwyd yn y gwesty yn orchestol ac yn rhoi inni ddarlun llawn o'i bersonoliaeth.

    Gweledigaeth a dyfnder
    Mae yma stori afaelgar a chymhleth. Mae yma weledigaeth a dyfnder.

    Ac eto yr wyf yn teimlo bod yr holl angst yn peri bod y darllen yn llafurus ar brydiau.

    Teimlwn hefyd nad yw pobl gyffredin yn meddwl ac yn pensynnu fel y cymeriadau yn y nofel hon.

    Anodd hefyd yw cymryd at yr un ohonyn nhw ac erbyn y diwedd yr oeddwn yn teimlo eu bod i gyd yn cael yr hyn a haeddent.

    Heblaw am fab Gwydion efallai.

    Mae un peth yn sicr.
    Mae Fflur yn sicr o fynd o nerth i nerth ac fe gawn fwy o waith disglair ganddi yn y dyfodol.

  • Gweler Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Holi Fflur Dafydd


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy