Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cerddi'r Cymoedd
Colli'r cyffro
  • Adolygiad Gwyn Griffiths o Cerddi'r Cymoedd. Golygydd, Manon Rhys. Cyfres Cerddi Fan Hyn. Gomer. £6.95.


  • Y mae cymoedd y de yn fro i gynhyrfu'r gwaed.
    Cymoedd fu'n Gymraeg eu hiaith, yn wyrdd a choediog.

    Cymoedd a rwygwyd wedyn ac a reibiwyd gan byllau glo a gweithfeydd haearn ac a ysbeiliwyd o'u cyfoeth a'u hiaith - ond yn awr yn dechrau adfer eu hen lesni. A'r iaith.

    Clawr y llyfr Cymoedd ag iddynt dristwch a thrueni.
    Dyma gymoedd Aberfan, Senghenydd, Cilfynydd - cymoedd trychinebau.

    Buaswn yn disgwyl i Cerddi'r Cymoedd fod yn gasgliad o farddoniaeth llawn angerdd i'm hysgwyd fel y gwnaeth cyfrolau eraill yng nghyfres Cerddi Fan Hyn.

    Daw hiraeth am gerddi meddwol fel ambell un a gafwyd yn Cerddi Sir (sic) ³Òâ°ù yn yr un gyfres.

    Digon difflach
    Eto, er bod yn y gyfrol ddiweddaraf hon gerddi gan feirdd o bwys, digon difflach ydyw ar y cyfan.

    Yn rhy fynych, adwaith beirdd o bant sydd yma i rai o ddigwyddiadau mwyaf torcalonnus y cymoedd.

    Cerddi digon crefftus gan feirdd dawnus ond heb ysgwyd y darllenydd.

    Mae darllen y detholiad o Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu Kitchener Davies yn atgoffa dyn bod y darnau o'r bryddest a leolwyd yn ardal Llangeitho yn rhagori ar ei ddarlun o'r Rhondda.

    Hyd yn oed gan feirdd a anwyd yn y cymoedd ni theimlaf inni gael yr angerdd y mae gennym yr hawl i'w ddisgwyl.

    Y ffyrnicaf ei lach yw T. Gwynn Jones yn ei soned i Senghenydd.

    Cawn dristwch hiraethus yn y detholiad o Y Llen, pryddest arloesol Dyfnallt Morgan, sy'n arbennig oherwydd iddi gael ei hysgrifennu mewn tafodiaith.

    Ac os yw cerddi J. J. Williams yn sentimental mae'r dafodiaith amheuthun yn eu hachub.

    Er bod yn y cymoedd feirdd a ganent yn y mesurau caeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyn hynny ni welir llawer o'u cynnyrch yn y detholiad hwn .

    Yn wir, syndod a siom gweld cynifer o wallau cynghanedd yn y canu caeth.

    Y difyrraf
    Y deunydd difyrraf o ddigon yw'r llu tribannau sy'n britho'r gyfrol. Cerddi ffraeth a doniol o ardal Merthyr gan awdur anhysbys a thribannau Lewis Wiliam, Yr Hoywal Newydd, i'r gamlas rhwng Merthyr a Chaerdydd.

    Mae hyn yn peri imi feddwl fod ein beirdd yn parhau'n fwy cysurus yn canu am yr hen Gymru wledig Gymraeg.

    Diolch, fodd bynnag, am fflach gan Aneirin Karadog i'n hatgoffa bod y fath bethau'n bod yn y cymoedd â stadau tai dienaid.

    Hwyrach fy mod yn swnio'n llawdrwm ond y gwir yw fy mod, ar fy ngwaethaf, yn cymharu'r gyfrol hon â rhai o gyfrolau eraill yr un gyfres.

  • Gwybodaeth ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Cerddi Sir ³Òâ°ù
    Rara Avis gan Manon Rhys

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý