Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Achos
Cartwna powld a dwys fyfyrio
  • Adolygiad Gerwyn Wiliams o Achos gan Grahame Davies. Cyhoeddiadau Barddas, £6.95. Tud. 94.


  • Cyrhaeddodd y copi adolygu o Achos, trydedd gyfrol Grahame Davies o gerddi er 1997, ynghanol cawod dymhorol o gardiau Nadolig, ac fel y cardiau, mae'r cerddi'n rhai amrywiol: rhai yn gartwnaidd, bowld - 'yn dy wyneb' yw'r idiom anghyfiaith a ddaw i'r meddwl; rhai yn gynnil, yn gain, ac yn gelfyddydol; rhai yn ddwys ac yn ddefosiynol; a rhai yn annisgwyl ac yn anghonfensiynol.

    Clawr y llyfr Ychwaneger at yr amrywiaeth honno hygyrchedd y dweud - a hynny byth braidd ar draul sylwedd - ac efallai nad yw'n syndod mai am gyfrol o gerddi gan Gwyn Thomas y meddyliwn o bryd i'w gilydd wrth bori yn y gyfrol hon.

    Mae Achos yn cynnwys deugain ac un o gerddi - hanner cant os ystyrir y naw cerdd yn y dilyniant 'Muriau' fel rhai unigol - ac fe'u dosbarthwyd i bedair adran: 'Cerddi Caerdydd', 'Cerddi'r Clawdd', 'Cerddi'r Cymoedd' a 'Cerddi Eraill'.

    Rhyngddynt eir â ni ar daith o brifddinas y Gymru Newydd a anfarwolwyd yn Cadwyni Rhyddid, bro mebyd Grahame Davies yng Nghoed-poeth ger Wrecsam, Merthyr Tudful a chymoedd de Cymru lle y bu'r awdur yn byw cyn mudo i Gaerdydd ac ardal a archwiliwyd yn Adennill Tir, a lleoliadau tramor fel Miami a Chubut.

    Y cerddi cartwnaidd
    Beth am y cerddi cartwnaidd, powld i ddechrau?
    Mae'r rhan fwyaf i'w cael yn yr adran gyntaf, 'Cerddi Caerdydd', ac maen nhw'n cynnwys y parodi ar 'Aberdaron' Cynan, 'Abercanna' ('Pan fwyf yn hen a pharchus / a hyder yn fy hynt, / a minnau'n amddiffynnol / o'r hyn a wawdiwn gynt'), 'Yn Wreiddiol' (''Dwi'n dioddef o ymberthyn-overload'), a 'Bro' ('Problem y Gymru wledig, / mi glywais lawer tro, / yw sut i gadw brodorion / i aros yn eu bro').

    A Grahame Davies yn un o selogion y Stomp eisteddfodol, gellir dychmygu'r cerddi pryfoclyd, heriol, chwareus hyn yn ennyn ymateb brwd ynghanol mwg a chwrw rhyw dafarn fin nos yn ystod wythnos y Brifwyl; maen nhw'n mynnu gwrandawiad cyhoeddus a pherfformiad byw.

    Mae'r addasiad afieithus o 'A Nation Once Again' a gynhwysir at ddiwedd y gyfrol, 'Yn Genedl Drachefn', hefyd yn taro nodyn ewfforig ar gyfer gwlad yn dathlu sefydlu'r Cynulliad.

    Delfrydau aruchel a ddyrchefir yn y gân honno - 'Daw rhyddid o ddeheulaw Duw / a rhaid yw cadw ffydd, / a chyfiawn fydd y rhai sy'n gwneud / ein Cymru'n Gymru rydd!' - ond ochr arall y geiniog, yr ymelwa unigolyddol, materolaidd, a ddadlennwyd gan Grahame Davies mor gofiadwy yn Cadwyni Rhyddid. Efallai mai pris ei lwyddiant yn y cerddi hynny, yn ogystal â'r ffaith fod nofelwyr fel Robat Gruffudd a Dafydd Huws bellach wedi turio ymhellach i'r un diriogaeth, yw'r ffaith nad yw'r darluniau o Gymru dosbarth canol y cyfryngau a'r Cynulliad yn taro dyn gyda'r un ffresni a newydd-deb y tro hwn.

    Mae'r gerdd agoriadol, 'Gyrfa Bardd', o ran mesur a persbectif, yn ateb cerdd deitl agoriadol Cadwyni Rhyddid: yn lle dychanu targedau allanol, mae'r bys yn pwyntio'n hunangyhuddgar at y bardd ei hun pan ddywed, 'bu'r cyflwr gorthrymedig yn llesol iawn - i mi'.

    Ond er cystal y daliwyd y tirlun dinesig yn 'Cysgod' - 'dyma'r dosbarth canol ... eu sesiynau reiki, eu Saabs mawr diesel. / Eu recessed lighting, eu lloriaulaminate' - ni ellir rhwystro ymdeimlad o déjà vu.

    A dyna pam mai'r cerddi dinesig amgen - cofier am y cardiau mwy cynnil, cain a chelfyddydol - yw'r rhai a apeliodd ataf fwyaf yn y gyfrol hon.

    Perlau
    Ymhlith perlau'r gyfrol fe gynhwyswn y soned reolaidd 'Siop Lyfrau Ail-Law Oxfam, Heol yr Eglwys Fair, Caerdydd' a'r ddau villanelle 'Ar Fws Cynnar i Landaf' ac 'Y Capital Bookshop, Arcêd Morgan Caerdydd'.

    Dyma'r Gaerdydd lai amlwg a chyhoeddus, Caerdydd fwy personol a phreifat, a mwy o bwyslais ar gyfleu dychymyg y bardd nag ar ddisgrifio allanolion.

    Ers ei gyfrol gyntaf, bu'r soned yn hoff fesur gan Grahame Davies a cheir amryw enghreifftiau llwyddiannus ohono yn y gyfrol ddiweddaraf, ond dim ond yn Ffiniau, y gyfrol a gyhoeddodd ar y cyd gydag Elin ap Hywel, y'i gwelwyd yn mynd i'r afael â mesur anodd y villanelle. ("Villanelles are a nightmare; there is no other way to say it" yw'r cyflwyniad calonogol i'r mesur ar un wefan farddoni!)

    Mae'r ymdrech yn sicr wedi dwyn ffrwyth erbyn y gyfrol hon: llwyddwyd i sicrhau mai ystyrlon, rhagor mecanyddol, yw'r defnydd o'r dechneg ailadrodd sy'n nodweddu'r mesur arbennig hwn, a gwedda hynny i'r dim i natur chwilfrydig y cerddi hyn gyda'u dyfalu a'u hel meddyliau a'u codi cwestiynau.

    Dod o hyd i brofiad
    Drwy amryw o'r cerddi hyn mae dyn yn synhwyro rhyw awydd ac ymchwil i ddod o hyd i brofiadau real, i dir cadarn, a fydd yn wrthbwynt i afrealaeth Caerdydd y Bae; mae'r nodyn myfyrgar i'w glywed yn gliriach yn y gyfrol hon, yn enwedig yn y cerddi dwys a defosiynol fel 'Bendith' ('Na foed i ti hiraethu bod fory'n ddiwrnod gwell, / na foed i ti weld gwynfyd bob tro ar orwel pell') a 'Cais' ('Ysbryd, defnyddia fi heddiw, / nid mewn rhyw wyrth / a wna i eraill ryfeddu / gan fy ngwneud i yn falch').

    Mae'r gwrthbwynt i afrealaeth i'w gael hefyd yn y ddwy gerdd am Eisteddfod Gydwladol Llangollen a'r ysbryd cymodlon a chreadigol a'i nodweddai adeg ei sefydlu drannoeth yr Ail Ryfel Byd, ac fe'i ceir hefyd mewn sonedau am brofiadau plentyndod yng Nghoed-poeth fel 'Gorffennol Gwyllt', 'Gwyngalch' ac 'Y Mission Room'.

    Hafanau gobaith tawel hefyd yw'r cerddi cynnes am gymeriadau agos-at-eu-lle, halen y ddaear llawn 'ymroddiad' fel Billy Sticks a fu'n gwerthu'r South Wales Echo ym Merthyr am dros dri-chwarter canrif, neu Margaret Payne, warden eglwys yng Nghyfarthfa y coffeir ei 'ffyddlondeb'.

    Nid atebion hawdd
    Ond nid yw'r grefydd a gynigir o fewn y gyfrol o reidrwydd yn cynnig atebion hawdd nag amhroblematig: mae'r soned ragorol 'Cydwybodol' yn awgrymu 'mor gastiog' yw gorchmynion Duw, 'yn galw rhai i'r gad ... ac eraill ... i sefyll dros Ei deyrnas yn y gell', ac mae'r llinell 'Arglwydd y Lluoedd neu Dywysog Hedd?' yn arwyddo'r gallu a welir ar waith yn y gyfrol i grisialu gwrthgyferbyniad yn epigramatig o fewn ychydig eiriau.

    Enghraifft arall yw'r frawddeg yn 'Y Cymoedd': 'Aeth byd y glo / mewn cenhedlaeth yn atgo'', ac er bod y gerdd honno'n clodfori cywirdeb moesol yr hen ardaloedd glofaol (''Dyn ni angen y Cymoedd, / fel y gorffennol y daethom i gyd ohono, / y man, er ei adael, sy'n dal ei afael arnom / fel nad oes unman arall byth mor solet, mor real'), nid yw'r cysur a gafodd yno o'r blaen bellach mor hawdd ei gael.

    Mae'r soned 'Ar y Rhandir II' yn cyfeirio'n ôl at weledigaeth obeithiol 'Ar y Rhandir' yn Adennill Tir, ond dadrithiedig yw'r cywair y tro hwn ac yntau wedi colli cyswllt â'r darn tir ym Merthyr yr arferai ofalu amdano: 'Ond heddiw, gelwais heibio'r lle drachefn, / a minnau ar daith fusnes yn y cwm, / a chael y chwyn yn ailsefydlu'u trefn / a'r ddaear blaen ynghudd dan grinwellt llwm, / heb fawr i'w ddweud wrth deithiwr o Gaerdydd / â dwylo, bellach, nad adwaenent bridd.'

    A'r un ansefydlogrwydd ac aflonyddwch, y cwestiynu parhaus ynglŷn â ble y mae'n ffitio ac i bwy neu beth y mae'n perthyn, sy'n sicrhau momentwm a deinameg i amryw o'r cerddi hyn.

    Cerddi annisgwyl
    A dyma ddod at y cerddi annisgwyl ac anghonfensiynol a gynrychiolir ar eu gorau gan y dilyniant 'Muriau'.

    A'r hyn sy'n sicrhau'r elfen annisgwyl ac anghonfensiynol yw'r ffaith mai cerddi cymeriad ydyn nhw, cerddi yn cael eu hadrodd o safbwynt nifer o gymeriadau ysgrythurol, chwedlonol a hanesyddol fel y diwydiannwr Robert Crawshay neu'r Brenin Hussein o'r Iorddonen.

    Hynny yw, ceir cyferbyniad ynddyn nhw i lais mwy uniongyrchol Grahame Davies ei hun.

    Er mai 'Muriau' yw teitl y dilyniant, cerddi yw amryw ohonyn nhw am ddynion yn chwalu'r muriau sy'n eu caethiwo wrth orchmynion neu ddisgwyliadau ac yn mynnu torri eu cwys eu hunain.

    Enghraifft arbennig yw 'Y Ffrynt Gorllewinol, 1918', am filwr Prydeinig a ymryddhaodd o'r pwysau milwrol a macho a lwythwyd arno ac mewn gweithred lawn dynoliaeth a gydiodd yn llaw milwr Almaenig er mwyn ei gysuro wrtho iddo farw.

    Ei gŵys ei hun
    Er bod Grahame Davies yn ei ddisgrifio'i hun fel 'nashi adain chwaith i'r carn' mewn un gerdd, y mae yntau'n fardd sy'n mynnu torri ei gwys ei hun a does dim yn rhagweladwy nac yn dryloyw am y safbwyntiau a fynegir yng ngherddi'r gyfrol hon.

    Roedd Cadwyni Rhyddid yn rhwym o fod yn gyfrol anodd ei dilyn, ac mae Achos o gymharu yn gyfrol dawelach ar sawl cyfri sy'n ennyn ymateb mwy myfyriol.

    Ond gyda'i chyhoeddi mae Grahame Davies yn cadarnhau ei safle fel un o leisiau mwyaf annibynnol, a chan hynny, mwyaf diddorol barddoniaeth Gymraeg gyfoes.

  • Gweler Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý