麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Hewl
Cofnod annigonol o un o gerddorion gorau Cymru
  • Adolygiad Dafydd Meirion o Hewl - Stori Geraint Griffiths gan Geraint Davies a John Davies. Gwasg Gomer, 拢7.99

    Canwr, cerddor, nyrs a Gwyddel.
    Ie, Gwyddel yw Geraint Griffiths, yn 么l ei basport beth bynnag!

    Ond eto mae'n Gymro i'n carn - erbyn hyn, beth bynnag er iddo gyfaddef i'w Gymreictod fod yn un simsan ar brydiau.

    Un o Bontrhydyfen yw Geraint, yn byw yn awr yn Nghaerfyrddin. Erbyn hyn, o bosib, mae'n fwy adnabyddus fel actor ond, ac yntau'n dod o deulu cerddorol, does dim rhyfedd iddo wneud ei farc ar Gymru fel cerddor a chanwr.

    Clawr y llyfr Dechreua'r stori yn y dechrau - ei blentyndod.
    Rhaid cyfaddef, rwy'n cael hanes plentyndod yn anniddorol ar y cyfan os nad oes rhywbeth mawr, trychinebus, wedi digwydd a lywiodd weddill eu bywydau.

    Roeddwn ar d芒n eisiau clywed amdano yn codi ei git芒r gyntaf (cefais yr un rhwystredigaeth wrth ddarllen hunangofiant Meic Stevens).

    Yn wir, cawn wybod ar dudalen naw ei fod wedi cael ukelele yn anrheg Nadolig pan yn saith oed a chawn ei hanes yn canu mewn cyngherddau ac eisteddfodau pan yn fachgen - ond does dim s么n am git芒r tan dudalen 26!

    Caneuon y Beatles
    Ei gyfaill, Hefin Elis, oedd y cyntaf i brynu git芒r, a dysgodd y ddau ganu'r offeryn a dysgu caneuon y Beatles ymysg eraill.

    Cwyd enw Hefin drwy'r llyfr.
    Nid yn unig yr oedd yn rhannu'r un ysgol ag o ond bu Geraint yn ymwneud ag Edward H, yn aelod o Injaroc yn cymryd rhan yn Nia Ben Aur (cyfarwyddwr cerdd: H Elis) a chan i Hefin fod yn gynhyrchydd ac yn un o gyfarwyddwyr Sain gyda'r cwmni hwnnw y gwnaeth gr诺p Geraint, Eliffant, ei ddau albwm.

    Yn Llundain
    Yn Saesneg, fel y rhan fwyaf yn y 1960au, y canai Geraint a'i grwpiau cynnar ym Mhontrhydyfen a Llundain, ac yntau wedi symud yno yn nyrs.

    Ffurfiodd sawl gr诺p yn Llundain gan fod yn gerddor llawn amser am un cyfnod byr.

    Dechreuodd ddod yn 么l i Gymru yn achlysurol, yn ymddangos ar lwyfan ac ar record gydag Edward H.

    Cafodd wahoddiad i ymuno ag Injaroc, ac erbyn iddo ffurfio Eliffant roedd o a'i wraig - sydd o dras Wyddelig (a dyna pam ei fod o ei hun yn dal pasport Gwyddelig erbyn hyn) - wedi penderfynu symud i Gymru.

    Wedi cychwyn araf, mae'r llyfr erbyn hyn yn symud yn gyflym.
    Mae'n cymryd rhan Niclas y Glas mewn opera roc, mae'n ennill C芒n i Gymru yn 1984 ac opera roc arall yn ystod Eisteddfod Llambed.

    Roedd yn cael cymaint o waith nes iddo benderfynu rhoi'r gorau i'w waith yn nyrs a dod yn ganwr llawn amser.

    Gwaith actio
    Cymerodd un o'r prif rannau yn Teilwng yw'r Oen, triniaeth fodern o'r Meseia - mewn rhaglen deledu ac ar S4C, ac mae'n cyhoeddi ei albwm cyntaf ar ben ei hun, Madras.

    Daw gwaith actio yn sgil y canu. Mae hyd yn oed yn cyflwyno'r rhaglen blant, Ffalabalam.

    Caiff waith radio, mae'n cyflwyno cwisiau, mae'n ymddangos mewn pantomeim ac mae'n cymryd rhan mewn sawl ffilm.

    Mae'n ymddangos, hefyd, ar fwy nag un tro, yn Pobol y Cwm. Erbyn hyn, mae'n fwy o actor nac o ganwr a cherddor.

    A thrueni hynny - gyda'i lais cryf, a'i allu anhygoel ar y git芒r (ac offerynnau eraill), mae'n drueni na allai fod yn gerddor llawn amser.

    Mae, hefyd, yn gyfansoddwr o safon, a cheir enghreifftiau o eiriau ei ganeuon drwy'r llyfr.

    Ceir sawl peth digon difyr drwy'r llyfr.
    Ceir disgrifiad o'r rhes o dai lle cafodd ei eni fel 'un t欧 a lle t芒n i bob teulu' - gan fod y to wedi'i osod mewn un darn.

    Dywed, hefyd, fod ei waith fel nyrs theatr lle'r oedd yn gorfod gwisgo cap yn siwtio canwr pop i'r dim, gan y gallai wthio ei wallt hir o dan y cap!

    Llawer o wybodaeth
    Ceir llawer o wybodaeth am Geraint drwy'r llyfr - arbrofi a chyffuriau, ei hoffter o feiciau modur, ei allu i dynnu llun 芒 chamera a brwsh.

    Rhyw 170 o dudalennau yw hyd y llyfr, ond credaf y byddai'n well llyfr o adael rhai pethau allan.

    Ceir cyfeiriadau at bethau sy'n dweud dim am hanes na gyrfa Geraint. Er enghraifft, paragraffau am drip i Baris - i be?
    Ddigwyddodd ddim yno.

    Yr un modd, y trip i'r America.

    Rhagor o luniau
    Ac, yn wir, mi hoffwn i fod wedi gweld rhagor o luniau ynddo.

    Ar ddiwedd y llyfr, sonnir mai fel rhan o waith ar gyfer cwrs ysgrifennu creadigol wnaeth y dechreuodd y llyfr hwn.

    Yn wir, byddai'n llawer gwell gen i pe byddai Geraint wedi dweud ei stori ei hun - er bod yna rai dyfyniadau ganddo drwy'r llyfr.

    Does yna ddim byd personol, agos atoch yn y llyfr, does dim llawer o emosiwn ynddo.

    Er hynny, gan ei fod yn gyfraniad pwysig i lenyddiaeth canu pop Cymraeg, rwy'n argymell unrhyw un sydd 芒 ddiddordeb yn y maes yma yn ystod y 70au a'r 80au i'w ddarllen.

    Mae'n drysorfa o wybodaeth am y canwr a'r cyfnod.

  • Adolygiad ar Gwales



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 脙垄 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy