Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Miss Pringle a'r Tatŵ
Doniolwch naturiol
Adolygiad Glyn Evans o Miss Pringle a'r Tatŵ gan Harri Parri. Gwasg y Bwthyn. £6.

Sawl llyfr? Sawl stori, mae Harri Parri wedi'u sgrifennu erbyn hyn?
Sawl gwên mae o wedi'i chodi? Faint mae o wedi'u goglais?

Waeth ichi heb na chwilio yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru am yr ateb i'r un o'r cwestiynau yna.

Clawr y llyfr Diffyg - annodweddiadol - o'r gyfrol werthfawr honno yw na chynhwysodd y golygydd, Meic Stephens, enw Harri Parri yn hyd yn oed yr ail argraffiad - er yr haeddai ei le yn argraffiad cyntaf 1986.

Trowch at Gwales ac fe gewch chi well argraff o hyd a lled cyfraniad y dyn a gododd bentref Carreg Boeth gan fod gwefan werthu Cyngor Llyfrau Cymru yn rhestru 18 o lyfrau'r awdur sydd ar gael i'w prynu.

A'r rheini yn amrywio o'r casgliadau o straeon byrion doniol a gysylltir yn bennaf ag ef i gyfrolau eraill fel Meddygon y Ddafad Wyllt ac Etholedig Arglwyddes - y naill yn olrhain hanes y teulu rhyfeddol o Ben LlÅ·n a gynigiai feddyginiaeth allai wella'r tyfiant croen hwnnw a elwid yn ddafad wyllt a'r llall yn nofel wedi ei seilio ar fywyd un o 'wragedd y plas' o LÅ·n.

Ond heb os fel y W J Griffith Henllys Fawr cyfoes y mae Harri Parri fwyaf adnabyddus ond yn llawer mwy cynhyrchiol na chrëwr yr Hen Siandri.

Radio a theledu
A dim ond rhan o'r stori yw hynny gan i'r diweddar Charles Willimas ddod a straeon Hufen a Moch Bach ac ati yn fyw i'n clust ar y radio.

Bu cyfres deledu hefyd - er teg yw dweud mai dim ond lled lwyddiannus oedd honno gyda'r hiwmor a'r cymeriadu oedd mor fyw a doniol ar bapur yn styfnigo rhag cael eu troi'n deledu.
Collwyd y cyfuniad anhepgor o arddull y dweud a dawn darllenydd i greu lluniau o eiriau.

Ers hynny, gyda'r adroddwr newydd, John Ogwen, yn cael yr un hwyl bob tamaid ag a gafodd Charles Williams, daeth straeon Harri Parri yn rhai sy'n llenwi'r Babell Lên yn ddyddiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Gweinidog diniwed
O'r cychwyn, mae'r straeon yn troi o amgylch gweinidog, Y Parchedig Eilir Thomas, a'i wraig, Ceinwen. Yn ei ofalaeth gyntaf yng Ngharreg Boeth i ddechrau ond erbyn hyn wedi symud o berfeddion gwlad i dref Porth yr Aur nad oes angen dychymyg mawr i weld ynddi ddarnau o Gaernarfon lle bu Harri Parri ei hun yn weinidog a lle mae'n dal i fyw.

Bu'r symudiad hwn yn fodd iddo ddod a chymeriadau newydd ond mae'r straeon yn dal i droi o gwmpas gweinidog diniwed sy'n cael ei dynnu ar ei waethaf i bob math o helyntion a thrafferthion.

Gyda hyn oll wedi bod yn mynd ymlaen ers y saithdegau y deyrnged uchaf y gall rhywun ei thalu i Harri Parri yw dweud fod y straeon yn parhau yn ffres a doniol ond ar yr un pryd yn cadw at eu naws gychwynnol.

Mae'n gyflwr od mewn gwirionedd gydag amser fel pe byddai wedi sefyll yn llonydd mewn rhyw gyfnod arall diniweitiach a symud yn ei flaen ar yr un pryd yn y straeon hyn.
Yn gyfoes, mae iddyn nhw hefyd naws rhyw gyfnod diamser arall yn troi o gwmpas capel, blaenoriaid a gweinidog.

Mae llwyddo i wneud hyn heb fod hefyd yn hen ffasiwn yn gryn gamp.

Ai o ganlyniad i ymdrech ymwybodol y digwydd ynteu rhyw osmosis llenyddol sydd ar waith?

Diniwed a syml
Yn aml iawn, diniwed a syml - ac anhebygol hefyd - yw y stori ei hun. Mae'r wefr yn y dweud ac yn y sylwgarwch a'r ffraethineb wrth ddarlunio pobl a'u nodweddion.

Ac yn arbennig yng ngafael sicr yr awdur ar Gymraeg go iawn, gyfoethog a grymus y mae sawl sgwennwr cyfoes yn prysur droi ei gefn arni a'i ffeirio am anystwythder sy'n adlais o gystrawennau ac ymadroddion Saesneg yn hytrach nag yn iaith sy'n codi ac yn brothio o'n ffynhonnau ein hunain.

Dim ond mewn Cymraeg y gall straeon Harri Parri weithio gyda'u deialogi cyfoethog.

Erbyn darllen dim ond tair o'r chwe stori sydd yn y casgliad diweddaraf hwn byddai gan rywun ddigon o ddyfyniadau ac enghreifftiau i fodloni unrhyw adolygydd

Tynnu coes
Er bod yma dynnu coes a digrifo cymeriadau mae'r cyfan yn hanfodol ddifalais a thyner ond yn dangos adnabyddiaeth graff o'r natur ddynol yn ei gogoniant a'i gwendidau.

Bydd unrhyw un sydd yn gyfarwydd yn barod a Mulligan y Tarmaciwr, John Wyn, ysgrifennydd blin y capel, Cecil y cadi ffan o dorrwr gwallt, William Howarth yr Ymgymerwr, John James, y cyfreithiwr sebonllyd, or foneddigaidd a Jac Black yr hen longwr wrth eu boddau gyda'r casgliad diweddaraf hwn a welodd olau dydd gyntaf ym Mhabell Lên Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau.

A fydd neb yn synnu gweld ailadrodd y wyrth yn Abertawe y flwyddyn nesaf.

Mae Harri Parri - a ninnau - yn ffodus iawn o'i ddawn.

Braf cael doniolwch mor naturiol a chwbl ddiymhonnus yn y Gymraeg.

  • Gwybodaeth ar Gwales

  • Cysylltiadau Perthnasol
    Holi Harri Parri


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹ԼÅÄ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý