麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Cwrs sgrifennu creadigol
Cyngor gan sgriptwraig brofiadol
Mae gan y brifysgol ym Mangor gwrs arbennig ar gyfer rhai sydd a'u bryd ar sgrifennu'n greadigol.

Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i ddarpar sgrifennwyr drafod eu hymdrechion gydag ysgrifennwr profiadol a chael cyngor ymarferol.

Bydd hynny'n digwydd trwy gyfrwng cyfres o negeseuon strwythuredig ar-lein a drefnir gan Adran Dysgu Gydol Oes y Brifysgol ym Mangor.

Byddai'n bosib hefyd ennill credydau tuag at radd prifysgol.

Yn arloesol
"Beth sy'n gwneud y cwrs yma'n arloesol iawn yw ei fod yn cael ei ddysgu ar-lein ac yn dod a hyfforddiant ysgrifennu creadigol i rai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig neu anghysbell, a hefyd i'r rheini sy'n ffafrio gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai llefarydd ar ran y Brifysgol.

Gellir dilyn y cwrs drwy'r Gymraeg neu'r Saesneg gyda Dwynwen Berry nyn gofalu am y naill a Zoe Skoulding yn gofalu am y llall ac yn darparu ymateb unigol drwy gyfres o ymarferion strwythuredig ar-lein.

Bu Dwynwen Berry, ar y dde yn y llun, yn sgriptio ar gyfer y teledu, theatr a radio ers 25 mlynedd gan gyfrannu i gyfresi fel Pengelli, Amdani a Tipyn o Stad.

Hi oedd awdur y ffilm ddiweddar, Mela.

Golygydd sgriptiau
Bu hefyd yn olygydd sgriptiau gydag S4C lle'r oedd yn gyfrifol am arolygu holl sgriptiau drama'r sianel am chwe blynedd gan gydweithio gydag awduron i sicrhau llwyddiant ystod eang o gynyrchiadau.

Yn ddiweddar bu'n diwtor ar nifer o gyrsiau Ysgrifennu Creadigol gan weld hynny'n estyniad o'i gwaith gydag awduron proffesiynol.

Cymerodd Zoe ran mewn nifer o brosiectau barddoniaeth, cerdd a ffilm ac y mae ganddi ddoethuriaeth mewn Ysgrifennu Beirniadol a Chreadigol.

"Mae'r cwrs yn rhoi cefnogaeth i'r sawl sydd eisiau gwella eu hysgrifennu, boed ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith, ffuglen neu ffeithiol. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi dod yn fwy ymwybodol o'r gwahanol fathau o ysgrifennu, wedi dysgu prosesau ysgrifennu newydd ac wedi dod yn fwy ymwybodol o gyd-destun eich gwaith eich hun mewn perthynas 芒 mathau eraill o ysgrifennu," meddai datganiad ar ran y Brifysgol.

Tuag at radd
Bydd y sawl sy'n cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn derbyn 20 credyd lefel 1 (addysg uwch) a gall y rhain gyfrif tuag at nifer o gymwysterau yn y Brifysgol gan gynnwys BA mewn Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol a BA Astudiaethau Cyfunol.

Mae'r cwrs yn costio 拢160 gyda chynllun eithrio ffioedd ar gyfer rhai sy'n derbyn rhai budd-daliadau ac heb feddu ar radd gyntaf.

Cysyllter 芒'r adran ar 01248 382705 neu drwy ebost

Cysylltiadau Perthnasol

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy