麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar Orwel Eryri
Dewis y bobl
Mae 30 o bobl wedi body n dewis eu hoff rannau o Eryri ar gyfer llyfr newydd gan wasg Gomer.

Mae Ar Orwel Eryri yn llyfr trawiadol o luniau ysblennydd sy'n cael ei gyhoeddi ar y cyd 芒 Chymdeithas Eryri.

Clawr y llyfr Mae'n cynnwys ffotograffiaeth ddramatig Steve Lewis ac ysgrifau byrion gan bobl sy'n byw neu'n gweithio o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae'r cyfranwyr yn cynnwys ffermwyr, wardeiniaid, gweithwyr mynydd, artistiaid, awduron ac arweinwyr cymunedol.

Dewis Kyffin
Mae rhai, fel Kyffin Williams, Dafydd Elis Thomas ac Iolo Williams yn adnabyddus drwy Gymru ond yr un peth sy'n gyffredin i bob cyfrannwr yw eu cariad at y tir a'r ffordd o fyw.

Lluniwyd rhagair i'r llyfr gan Bryn Terfel.
"Braint i ni yw eu bod wedi rhoi cipolwg bychan i ni ar yr hyn sy'n gwneud y Parc a'i gymunedau yn rhan mor arbennig o'r byd," meddai am y cyfranwyr eraill.

Dewisodd yr artist Kyffin Williams ysgrifennu am y Grib Goch, gan ddweud:

"Uwchben Nant Peris y mae'r Grib Goch yn llechu ac i mi, fel artist, bu'n destun rhyfeddod erioed. . . .

"Mae'n tra-arglwyddiaethu dros y dyffryn a chreigiau llai Clogwyn y Person a Gyrn Las.

Grib Goch "Mae rhaeadrau'n tywallt i lawr i'r afon islaw: mae un ohonynt yn llifo trwy Gwm Glas - fe baentiais honno laweroedd o weithiau.

"Wrth i'r haul fudo o'r Dwyrain i'r Gorllewin y tu 么l i'r grib, bydd y mynydd yn tywyllu ac yn aml yn ddigon bygythiol ei natur.

"Dim ond wrth i'r haul ddechrau suddo y mae ei belydrau'n cyffwrdd ag un rhan arbennig o'r mynydd a phryd hynny bydd ei ochr orllewinol dan wawl euraid i gyd.

"Rwy'n caru'r Grib Goch dan eira pan fydd yr awyr y tu cefn iddi'n disgleirio; bryd hynny bydd yr eira'n dywyllach na'r nen, ac mewn rhyw ffordd ryfedd, bydd y cyfan yn fwy diddorol i lygad artist."

'Paradwys a grewyd gan Dduw'
Disgrifiodd Gwyn Thomas sy'n ffermio yn yr ardal y lle fel paradwys a gr毛wyd gan Dduw.

"Y fi yw tenant Blaen-y-nant ers wyth mlynedd bellach. Fferm organig yw hi, ar dir uchel yn Nyffryn Nant Ffrancon.

"Dyma baradwys a gr毛wyd gan Dduw ei hun - gyda mymryn o gymorth dwylo dyn.

"Mynyddoedd creigiog, diffeithdir agored anhygoel, caeau 芒'u waliau sychion, y sgri, yr afon 芒'i dolenni hyfryd.

"Dyma'r lle mwyaf bendigedig yn y byd i mi ... allwn i byth fyw mewn dinas a gweithio mewn ffatri.

"Dyma fy mywyd: yma, yn fugail mynydd. Ond fy ngobaith yw gallu rhannu'r fferm gyda'r gweithiwr ffatri o'r ddinas - a dyna pam rwy'n awyddus i gadw'r cyfan ar ei orau drwy'r amser," meddai.Ac meddai llefarydd o Wasg Gomer am y llyfr: "Mae Ar Orwel Eryri yn rhoi golwg o'r tu mewn i ni o'r Parc Cenedlaethol."

Mae fersiwn Saesneg o'r gyfrol hefyd, Private Views of Snowdonia.

  • Ar Orwel Eryri. Steve Lewis. Gwasg Gomer a Chymdeithas Eryri. Clawr caled. 96tt. ISBN 1 84323 486 6. 拢19.99.

  • Cysylltiadau Perthnasol


    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu L貌rd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    L么n Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Gl芒n i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    S么n amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy