麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Clwyfau
Mwy D H Lawrence na Kate Roberts!
  • Adolygiad Hafina Clwyd o Clwyfau gan Penri Jones. Y Lolfa. 拢6.95

Gan fy mod eisoes eleni wedi darllen dwy nofel Gymraeg wedi eu llunio o gwmpas ynfydrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf (un gan Angharad Tomos a'r llall gan Mari Emlyn) mi syrthiodd fy nghalon braidd wrth ganfod bod y nofel hon gan Penri Jones hefyd ar yr un pwnc.

Clawr y llyfr Ond y mae hon yn wahanol gan mai nofel ydyw am filwr ddaeth yn 么l yn fyw.

Y mae dweud ei fod "yn fyw" yn ymylu at fod yn gabledd oherwydd yr oedd wedi'i glwyfo'n ddrwg a'i iechyd wedi'i dorri. Mwy na hynny yr oedd ei feddwl hefyd wedi'i glwyfo gan iddo weld dau o'i ffrindiau yn cael eu chwythu'n chwilfriw o flaen ei lygaid ym Mrwydr Coed Mametz..

Huw yw enw'r prif gymeriad ac un annwyl a meddylgar iawn ydyw. Gofalwyd amdano'n dyner yn ei gartref ar fferm ym Mhen Ll欧n gan ei chwaer, Magi. Ceir portread hyfryd o Magi "y fam Gymreig" ddibriod a diblant sydd wedi eidduno ei holl fywyd i ofalu am ei thad a'i brodyr ar y fferm.

Y rhai o'i gwmpas
Heblaw am roi inni ddarlun clir a chigog iawn - os oedd angen un - o erchyllterau'r Rhyfel dieflig hwnnw, thema'r nofel yw y modd yr effeithiodd clwyfau Huw ar ei anwyliaid o'i gwmpas.

Ei dad sych-dduwiol, ei frawd ofer, Alis ei nith beniog ac yn bennaf oll ei gariad Luned.

Nid yn aml y cawn yn y Gymraeg ddisgrifiad o ddau yn caru a hynny ar brydiau mewn geiriau tu hwnt o graffig.

Disgrifiwyd y cyfnod hwn fwy nag unwaith gan Kate Roberts ac yr ydym wedi cymryd ei gwaith hi fel enghraifft o'r ing achoswyd gan y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae yna adlais o hynny yma gan Penri yn y disgrifiadau o'r tirwedd a'r dillad a'r galar ond fuasai Dr Kate byth bythoedd wedi disgrifio'r act rywiol fel a wneir yn y gyfrol hon!
Mwy o D H Lawrence nag o Kate efallai.

Hyd at ddagrau
Mwynheais y stori'n fawr. Hyd at ddagrau yma ac acw, er fy mod yn gweld popeth yn gorffen yn rhy daclus braidd.

Un peth oedd yn fy nharo'n chwithig oedd penawdau'r penodau - a oedd angen rhai o gwbl?

Mae'n gwneud y cyfan ymddangos yn rhy gatalogaidd.

Ac ar y diwedd y mae yna dudalen o Ddiolchiadau a phedair tudalen a hanner o Gydnabyddiaethau.
Buasent yn llawer gwell ar ddechrau'r llyfr yn fy marn i.

Ond stori pob teulu yng Nghymru yw hon - stori teulu Hedd Wyn a Wilfred Owen, brawd fy nain, pedwar cefnder i fy nhad - a thra pery cof teulu nid yw rhyfel byth yn gorffen.

Adolygiad ar Gwales



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy