麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Sgrech
Llyfr "Byw y freuddwyd"
Adolygiad William H Owen o Sgrech - Byw y Freuddwyd. Gwasg Carreg Gwalch.

Teimlo'n ddigon sigledig wnes i wrth edrych ar glawr lliwgar 'rhifyn arbennig' o'r 'cylchgrawn pop' Sgrech am fis 'Gorffennaf 2005' sy'n cyhoeddi'n aneglur 'Byw y Freuddwyd'.

Clawr y llyfr Mae llythrennau wedi eu torri'n dameidiau i roi effaith grynedig yn gwneud i mi fod y peth tebyca' i s芒l m么r.

Buan y dois i dros fy salwch wedi agor y clawr. Mae cynnwys 'y gyfrol' - fel y'i gelwir - mewn du a gwyn ac yn drybola o stwff i'ch sadio.

Ond mae'n rhaid i chi fod yn tynnu am y deugain oed neu h欧n i'w llwyr werthfawrogi.

Cylchgrawn pop - ac mae'r 'pop' yn eich dyddio'n syth - oedd Sgrech, rhag ofn fod y ffaith honno'n newydd i chi.

Saith mlynedd
Cefais fy synnu wrth weld nad oedd wedi bod ar yr hen ddaear yma ddim rhagor na saith mlynedd gan ymddangos bob deufis.

Cafodd ei eni yn 1978 ym mhentref Dinorwig yn unigeddau Eryri a bu farw'n dawel, hyd y medra' i gasglu, yn 1985.

Nid oes cofnod llawn o'i farwolaeth.

Ei dad oedd dyn gweithgar o'r enw Glyn Tomos. Druan ohono, mae'n dal i orfod dioddef pwn y blynyddoedd rheini wrth i rai gyfeirio ato o hyd fel Glyn Sgrech.

Y Golygydd wrth ei waith - Glyn Tomos Un o 'bobol y gwneud' oedd disgrifiad Eifion Glyn ohono yn Y Cymro yn Rhagfyr 1981.
Sut gwn i hynny?
Dyma un o'r pethau cyntaf welwch chi yn y llyfr sy'n dangos yn glir fod Glyn Tomos fel wiwer am gadw toriadau papur newydd.

Ffrwyth cadw holl bapurach yn ymwneud 芒 Sgrech o'r saith ar Wythdegau yw'r gyfrol. Prin nad oes yr un dudalen heb ffaith neu lun dadlennol arni, hyd yn oed hysbysebion y cyfnod.

(Be' ddigwyddodd i'r Cywion Ieir Cartra o Nebo?)

Pwy oedd y to iau
Os nad yw'r llyfr yn dangos dim arall inni mae'n dangos pwy oedd y to iau a ddylanwadwyd arnynt yn y cyfnod gan gantorion, gan y cylchgrawn ei hun a chan ddigwyddiadau fel Noson Wobrwyo Sgrech a Seshiynau Sgrech a ddeilliodd ohono.

Ar wah芒n i Glyn Tomos mae'n rhaid rhoi clod i'r rhestr hir o ffotograffwyr a gyfrannodd i'r cylchgrawn yn eu tro.

Heb eu hymdrech hwy fydden ni ddim yn medru gwerthfawrogi llawer o gynnwys y gyfrol - y rhan ohoni sy'n rhoi gwir bleser.

Aelod Seneddol Ewropeaidd
Mae enwau adnabyddus erbyn hyn - o Aelod Seneddol Ewropeaidd i un o ymgeiswyr y Blaid Doriaidd - yn ymddangos yn eu hieuenctid pur ar dudalennau'r gyfrol.

Ni welais yr un Rhyddfrydwr amlwg ond mae mwy nag un llun o fersiwn iau o Lywydd Plaid Cymru, enillydd tlws "Gwobr Arbennig" yn Noson Gwobrau Sgrech yn 1982.

Os oedd Eluned Morgan wrthi'n gwerthu'r cylchgrawn yn Ysgol Glan T芒f roedd Bethan Ifan wrthi yn Ysgol y Gader.

Nid ei bod hi'n agos i'r Tor茂aid a 'doedd Gwanas ddim yn agos i'w henw 'chwaith pan oedd yn cael ei rhestru fel un o "wir ffrindiau Sgrech".

Wynebau heddiw
Dyna ogoniant y gyfrol - cael gweld rhai wynebau amlwg byd adloniant a bywyd cyhoeddus heddiw fel yr oeddynt yn nyddiau eu glasoed.

Mae'n rhyfeddol y nifer y mae rhywun yn eu hadnabod sydd mor berthnasol i'r oes bresennol mewn gwahanol feysydd.

Mwy rhyfeddol fyth yw gweld yr holl grwpiau - grawn unnos rai ohonyn nhw mi wn - sy'n cael eu rhestru fel rhai a wnaeth rhyw gyfraniad yn y cyfnod byr yn hanes Sgrech.

Doeddwn i erioed wedi clywed am grwpiau Sgidie Newydd, Meibion Mr Rees a Bismyth.

Ac yr oedd y rhan fwyaf yn ymdrechu i gael enw Cymraeg - arferiad aeth yn angof yn fuan iawn wedi'r cyfnod hwnnw.

Mae'n arwyddocaol fod Sgrech mewn bodolaeth am rai blynyddoedd cyn dyfodiad S4C.

Ond roedd y cyfryngau 'dani cyn geni'r sianel a Glyn Tomos yn drwm ei lach ar raglen deledu Twndish yn 1979 gan ei bedyddio'n Twnshit. A dyna'n wir yr unig gof oedd gen i am gynnwys Sgrech.

Beirniadu
Wrth gwrs 'doedd y cylchgrawn, am ei fod yn ymhyfrydu bod yn un annibynnol, ddim yn brin o feirniadu ac fel y gwelwn roedd colofn Wil a Fi yn ennyn sawl teimlad cas ymhlith y cyfryngis.

Y syndod yw bod un o feirniaid Sgrech, un Rhys Owen o'r Herald Cymraeg bryd hynny, yn gyfryngi ei hun erbyn hyn.

Fel y mae Nic Parry, i bob pwrpas, y dyn sydd wedi derbyn y dasg o lunio cyflwyniad byr i'r gyfrol gan roi clod haeddiannol i'r golygydd glew am ei gyfraniad i'r "sin bop".

Mae'r golygydd yntau yn canmol Nic am ei gyfraniadau i Sgrech y gorffennol gan nodi na fyddai byth yn hwyr yn anfon ei lith.

Haeddu canmoliaeth
Heb ddim amheuaeth, mae Mistar Golygydd yn haeddu'r ganmoliaeth am fynd ati i'n hatgoffa am gyfnod cynhyrchiol-gyffrous Sgrech.

Mae ambell gyfrannwr yn byw mewn gobaith y bydd modd gweld cyfnod tebyg eto a Glyn Tomos ei hun yn awgrymu y gallai'r her o "Fyw y Freuddwyd" ail gynnau yn y dyfodol, yn sgil cyhoeddi'r gyfrol hon o bosib.

Ond er cystal yw cael ein hatgoffa o'r oes fyrlymus honno anodd iawn yw gweld hynny'n digwydd rhywsut.

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy