麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Iesu Tirion
Lobsgows o gylch meithrin
Adolygiad Lowri Rees o Iesu Tirion gan Lleucu Roberts. 拢6.95. Lolfa.

Nofel sy'n dilyn helyntion cylch meithrin pentref dychmygol, Nantclagwydd, ydi Iesu Tirion.

Lleucu Roberts A hithau'n fam i bedwar o blant bu'r awdur, Lleucu Roberts yn ymwelydd cyson 芒 chylchoedd meithrin ac mae'n hen gyfarwydd 芒 threfn cylchoedd o'r fath.

Ac y mae cyfeiriadau gydol y nofel sy'n ei gwneud yn amlwg iddi fod a'r flaen y gad yn y maes hwn.

Edrych ymlaen
Rwy'n un sy'n mwynhau ymgolli mewn nofel dda ac ar 么l derbyn y nofel gyntaf hon o eiddo Lleucu Roberts edrychwn ymlaen yn fawr at swatio mewn cornel dawel i fwynhau nofel a fyddai'n ymdrin 芒 phwnc sydd yn un hynod gyfarwydd i mi a sawl mam arall.

Mae'r nofel yn cael ei ddisgrifio yn y rhagair fel:
"Nofel ysgafn llawn hiwmor."

"Bydd darllen y nofel yn ddifyrrwch pur i unrhyw riant, gyda lobsg贸ws o gymeriadau cyferbyniol yn trio cadw trefn ar eu plant - o fewn un dosbarth yn unig fe geir 'un tedi rhacs, un eviction ac un affair," meddir.

Pob math o helynt
Yn syth roedd y nofel yn apelio!

Mae'r arweinydd, Mared, gyda chymorth gan ei chydweithwraig Doreen, yn ceisio cadw trefn ar wyth o blant ond yn fwy na hynny yn ceisio cadw rheolaeth ar eu rhieni hefyd sydd yn cael eu hunain mewn pob math o helyntion.

Fel rhiant sydd 芒 phlentyn mewn ysgol feithrin, mae rhywun yn gwybod yn iawn am drefn - ac anhrefn! - cylch o'r fath ynghyd a'r helynt a all godi a'r adegau rhwng rhieni - ond rwy'n amau i awdur Iesu Tirion fynd ymhell dros ben llestri a threthu'n hygoeledd ar adegau wrth lunio'r stori hon.

Yn enwedig o gael y ddwy chwaer, Doreen a Tina, yn mynd ati i baffio mewn tafarn ac yna Doreen yn neidio i'r gwely gydag un o famau'r cylch!

Mae Mared, prif gymeriad y nofel, yn gorfod delio a phwysau bywyd nifer o'r cymeriadau ac yn gorfod trin amrywiaeth o wahanol drafferthion gan gynnwys carwriaethau, perthynas hoyw, rhegi, ymladd a dadlau yn gyffredinol a hynny o fewn ffiniau'r cylch heb s么n am geisio cadw trefn ar ei theulu ei hunan.

Er gwaethaf tuedd y nofel i fod yn gyfres o ddigwyddiadau wedi eu taflu at ei gilydd yn lobsgows mae yna benodau unigol a pharagraffau gwych a digri iawn a thrueni nad yw'r gwead yn fwy cywrain.

O enau plant bychain
Sawl tro mae'r nofel yn tanlinellu'r hen wireb mai o enau plant bychain y daw'r gwirionedd a cheir enghreifftiau cyson o hyn.

Mae yna ddarnau teimladwy a sensitif hefyd - yn enwedig pan fo Mared yn trafod ei charwriaeth newydd gyda Gwion y mab:
"Be ti'n feddwl o'r .... sefyllfa," mentrais. "Dwi'n cymryd i bod hi'n iawn gin ti mod i'n gweld rhywun ...wsti...
"Mmm,' meddai Gwion, a finna'n methu dehongli a'i mm negyddol ta mm cadarnhaol oedd ganddo.
"Achos pe bysa gin ti wrthwynebiad , swn i'n...swn i'n be, dwn i'm . . .

Yn ei hymgais i bortreadu y gwahanol gymeriadau a'u teuluoedd, teimlwn fod yr awdur yn mynd ar goll a'r adegau.

Ar ben hynny, ychydig yn arwynebol yw cynnwys y nofel mewn gwirionedd.

Clawr y llyfr Teimlais hefyd fod gormod o bwyslais ar gael llwyth o straeon bach yn clymu 芒'i gilydd yn hytrach na chanolbwyntio ar un stori dda a'i datblygu.

Mae'r them芒u i gyd yma, y dadlau, affairs, ymladd a rhyw - y math o bethau y byddai rhywun yn eu mwynhau yn fwy mewn nofel wedi ei saern茂o'n well.

Wedi gorffen darllen, teimlad o gyfle wedi ei golli sydd yna a rhaid cyfaddef na weithiodd y nofel hon fel cyfanwaith i mi.

Ond fe roddodd achos imi ddiolch i'r drefn bod ein cylch meithrin ni yn un tra gwahanol i un Nantclagwydd.

Wel, hyd y gwn i beth bynnag - ond wedi'r cyfan nid fi yw'r arweinydd!



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy