麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Perffaith Nam
Nam heb ddiffygion
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Perffaith Nam gan Menna Elfyn. Gomer, 拢8.99.

Mae cyfrol ddiweddaraf Menna Elfyn, Perffaith Nam, yn arwydd o ddatblygiad arall eto fyth yng ngwaith un o brif feirdd Cymru.

Am y tro cyntaf ers dros ddegawd mae'r bardd huawdl o Landysul wedi cyhoeddi casgliad gwreiddiol o gerddi i oedolion yn Gymraeg yn unig.

Ac er ei bod yn dasg hynod anodd i ddilyn y teitl amlieithog ei chyfrol Cell Angel (Bloodaxe, 1996) a'i chyfrol ddiwethaf, Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss (Bloodaxe, 2001) mae teitl paradocsaidd y casgliad diweddaraf hwn yn amlygu ei hymdriniaeth o eiriau a'i hymwybyddiaeth o bwer y geiriau hynny.

Wythfed cyfrol
Perffaith Nam yw ei hwythfed cyfrol mewn cyfnod cynhyrchiol sy'n rhychwantu dros 30 mlynedd o gyhoeddi barddoniaeth.

Clawr y llyfr Nid oes yr un ferch arall yn yr ugeinfed ganrif wedi cyhoeddi mwy o gyfrolau ac, wrth gwrs, fe'i hystyrir hi gyda'r orau o'i chyfoedion barddonol - boed hwy'n fenywaidd neu'n wrywaidd.

Mae hi'n gyfrol o gerddi myfyriol, tawel ac eto mae yma gerddi sy'n dal i herio ac aflonyddu.

Mae'r elfen baradocsaidd sy'n perthyn i'r teitl hefyd yn ymestyn i weddill ei gwaith sydd yn ddigyfaddawd ac eto'n dyner, ac yn llwyddo i blethu'r gwleidyddol a'r personol heb i'r darllenydd deimlo ei fod yn darllen pregeth.

Mae'r elfen wleidyddol hon i'w gweld hyd yn oed yn ei cherddi sydd ar yr olwg gyntaf yn rhai ysgafn eu naws.
Cerddi fel Sardinau sy'n trafod,
Aelodau fu yn dorf mor ddedwydd,
Yn eu hyd dan do eu byd, nes daw dydd -
I redeg yr agoriad, a'u gweled,
Garcharorion syn heb ddeall goleuni...

I'r glust
Nid oes gwell enghraifft i gefnogi'r ddadl mai llenyddiaeth i'w chlywed ac nid i'w darllen yw cerdd. Mae cyfoeth yr eirfa yma'n hudolus, gyda llinellau fel
"Cysgaduron clyd wedi eu pacio'n dynn / A'u bryd ar roddi pryd, yn ei flas..."
yn swyno'r glust.

Cerdd ysgafn arall sydd eto'n llawn o ffraethineb geirfaol a gwleidyddol yw Morfilod a ysgrifennwyd yn 么l nodyn y bardd "ar 么l clywed am sylw un o Efrog Newydd wrth weld Cheese from Wales"

Yma mae'r bardd, gyda'i thafod wedi ei sodro'n reit gadarn yn ei boch, yn cynnig ambell i sylw craff am Gymru a'r Cymry, yn ogystal 芒'r syniad sydd gan eraill ohonom.

A pha well gohebiaeth am hunaniaeth yn yr oes fodern sydd ohoni na'r canlynol,
Daeth rhai o Hollywood draw
I weld a fyddai modd cael m诺fi -
Catherine ac Anthony fel y s锚r -
Am i'r ddau ddysgu'n rhwydd
Sut i siarad Morfileg.

Un o amryw ddoniau Menna Elfyn yw ei gallu i briodi geiriau bendigedig y Gymraeg 芒 geiriau benthyg, geirfa fwngrel sydd wedi ei benthyca a'u bastardeiddio o'r Saesneg, fel 'Abseiliodd newydd-ddyfodiaid ar ffolennau', ac i lwyddo i wneud iddynt swnio'n gwbl naturiol ac eto'n wrthun ar yr un pryd.

Bwrw yma y brychau
Yn 么l Menna: "Prif thema'r gyfrol yw'r awydd i fwrw ymaith y brychau sy'n ein plagio trwy'n bywyd.

"Hwyrach mai dyna yw ysfa penna'r artist, cyfannu'r hyn sy'n hollt ynom."

Atega hyn yn y gerdd Plygain;

Rwy'n ymolch
bob bore
yn nagrau diolch,

pob nam a'i chlwyf
sy'n llechu
ar esgair yr hyn ydwyf.

Nid o gam i gam
y rhedaf yr yrfa -
ond o nam i nam,

di-gri yw'r graith
yn grachen
sydd mor berffaith.

Bron nad yw'r cwpled olaf yn cyfleu'r hyn sydd mor arbennig am ei gwaith. Mae barddoniaeth fel ffurf, yn un trefnus ac annaturiol ei ffordd ar y cyfan, ac eto mae canu Menna Elfyn yn llifo mor rhwydd ac mor huawdl fel bod ei cherddi'n llithro'n gwbl naturiol o'r genau ac o'r galon.

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy