麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Fel Nerthol Wynt
Dan ddylanwad gwynt sy'n chwythu
Adolygiad Glyn Evans o Fel Nerthol Wynt gan Elfyn Pritchard. Gomer. 192 tudalen. 拢6.99.

Y disgrifiad ar glawr Fel Nerthol Wynt ydi; "nofel gyffrous, amserol, bryfoclyd fydd yn sicr o wneud i chi feddwl".

Go brin y gallech chi ofyn am fwy na hynny.

Clawr y llyfr Ar wah芒n i'r geiriau hyn ar y clawr cafodd nofel ddiweddaraf Elfyn Pritchard gryn sylw yn sgil canmlwyddiant Diwygiad '04-'05 gan mai Ifan Roberts yw enw'r prif gymeriad ac i Elfyn Pritchard ei hun fod yn dweud na ddymunai weld heddiw ddiwygiad arall tebyg i hwnnw.

Gwewyr a chyffroadau
Ac ydi, mae hi yn nofel sy'n ymwneud 芒 gwewyr a chyffroadau crefyddol ac ymgais i ddiwygio neu, yn wir, wyrdroi Cristnogaeth.

Nid darllen am hyn oll a'm gyrrodd i at y nofel, fodd bynnaf, ond dyletswydd i'w hadolygu.

Doedd fy nisgwyliadau ddim yn uchel ond, yn fuan iawn yr oeddwn yn ymgolli yn y stori - rhywbeth nad yw'n digwydd ddigon aml wrth adolygu.

O fewn penodau yr hanner cyntaf mae yma ddigon o awgrymiadau ac o osod abwyd i'n bachu. Darogan rhyw wae anelwig sy'n mynd i darfu ar gyfforddusrwydd beunyddiol y cymeriadau.

Cychwyn ar wyliau
Mae'r nofel yn cychwyn ar fore annifyr o Fedi yn Wrecsam pan yw Ifan Roberts a'i wraig, Bethan, yn cychwyn ar wyliau tramor sy'n argoeli'n un tyngedfennol.

Gyda'r ddyfais o ddarogan a ddefnyddia sawl tro yn ystod y nofel dywed yr awdur am Ifan:
"Pan ddaeth y bws roedd ei chweched synnwyr ar waith drachefn, yn ei rybuddio ei fod yn wynebu byd bygythiol a sinistr, a bod y camu i'r bws yn symbol o gamu i'r anwybod mawr, dieithr."

Wedi prolog y bennod gyntaf mae'r nofel yn ailgychwyn yn ystod y cyfnod sy'n arwain at ddal y bws tyngedfennol hwn.

Dyma pryd y deuwn i adnabod Ifan Roberts fel cyfrifydd parchus, blaenllaw yn ei gymdeithas, amlwg yn ei gapel, triw i'w deulu ac yn Daid hyfryd i'w wyrion.

Ond gweithaholig sy'n gorfod ildio i orfodaeth ei deulu i fynd ar wyliau gyda'i briod, Bethan, i Ffrainc. Ei wyliau cyntaf ers cantoedd, os nad erioed.

Hyn sy'n arwain at ddal y bws yna yn Wrecsam ac yn ystod y gwyliau hwn gwelwn ddechrau datgelu rhywfaint ar ddarogan y prolog er na ddatgelir yn llwyr beth sydd wedi digwydd - daw hynny bob yn friwsionyn yn ystod trydedd ran y nofel.

Digwyddiad mewn eglwys
Mae'r cyfan wedi ei hoelio ar ddatgeliad rhyfeddol yn eglwys La Clusaz yn Alpau Ffrainc. Datgeliad sy'n chwyldroi yn llwyr fywyd Ifan Roberts a'i agwedd tuag at y grefydd Gristnogol gonfensiynol y bu'n ei byw cyn hyn.

"Mae yna nerthoedd y tu 么l i mi, y tu hwnt i'r byd materol hyd yn oed, yn fy ngyrru i," meddai wrth geisio egluro'r grym sydd wedi'i feddiannu - grym sy'n cael ei ddisgrifio fel "rhyw wynt nerthol" a hynny'n atgof o'r ddelwedd Feiblaidd o'r Ysbryd Gl芒n.

Wedi ei feddiannu
Bellach, mae'r cyfrifydd ceidwadol a chymesur yn ddyn wedi ei feddiannu; yn union fel y diwygiwr o'r un enw yn '04-'05.

Y cwestiwn yw ai dyn wedi ei feddiannau gan rhyw weledigaeth newydd ydyw ynteu un a feddiannwyd gan gabledd.

Troediwn gydag ef a'i deulu y ffin denau honno rhwng argyhoeddiad dwfn a gorffwylltra sy'n bygwth nid yn unig ddryllio Ifan Roberts ond ei garennydd hefyd.

Tipyn o gors
Cyrhaeddwn gyfnod yn y nofel pan yw'r prif gymeriad, a'r awdur, mewn rhywfaint o gors a honno'n gors nad yw'n ei chael yn hawdd ei thrin.

Yn sicr mae'r pryder am gyflwr meddwl Ifan Roberts a'i densiynau mewnol o ddiddordeb sy'n ganolog i'r holl nofel ond mae'r awdur mewn peryg o fod yn euog o lawer iawn gormod o droi a throsi athronyddol ac o ailbobi'r un pwyntiau argyfyngus drosodd a throsodd wrth ymdrin a gwewyr Ifan.

Mae hon yn rhan o'r nofel a fyddai wedi elwa ar naddu a chwtogi llawer llymach er mwyn cadw'n diddordeb ac er mwyn symud yn llyfnach tuag at ddiweddglo anorfod y nofel.

Er yr enghreifftiau rhagorol o greu disgwyliadau nid yw'r sylweddoliad mor effeithiol.

Y diwedd
Diweddglo anorfod? Ie - a rhagdybiedig hefyd gan beri rhywfaint o siom nad yw'r diwedd yn fwy annisgwyl. Yn fwy o ergyd neu ysgytwad i'r darllenydd.

Bydd rhai yn teimlo rhywfaint o siom hefyd pan ddatgelir cyfrinach gweledigaeth Ifan yn La Clusaz gan nad yw'r 'gwirionedd' a ddaw iddo mor ysgytiol - na newydd - pan ddaw i'r golwg ac a awgrymir wrth ei ddarogan!

Gwneud y syniad canolog hwn yn ysgytiol ac yn gredadwy ar yr un pryd oedd yr her fawr wrth sgrifennu'r nofel hon ond dydw i ddim yn siwr a lwyddodd yr awdur gant y cant yn hynny o beth - er imi fynnu cadw gydag ef hyd at ddiwedd y stori - er gwaetha'r athronyddu estynedig.

Nofel gyffrous, amserol, bryfoclyd fydd yn sicr o wneud i chi feddwl, felly?
Er nad yw'r broliant yn gelwydd - dydi o ddim, ychwaith, yn dweud y gwir i gyd!
Fel cymaint o bethau yn y byd crefyddol.

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy