麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Teithiau'r Meddwl
I Gymru wedi'r erlid
Adolygiad Gwyn Griffiths o Teithiau'r Meddwl: Ysgrifau Llenyddol Kate Bosse-Griffiths. Y Lolfa. 拢12.95.

Yr oedd Kate Bosse-Griffiths yn nhras a thraddodiad disglair Iddewon canol a dwyrain Ewrop. Dosbarth canol breintiedig gyda, i fenthyg dywediad Saesneg, dysg a diwylliant yn dod allan o'u clustiau.

Byr fu parhad y cyfnod breintiedig hwnnw. Daeth Hitler 芒'i erlid ac y mae'r erchylltra hwnnw wedi ei serio ar ymwybyddiaeth y mwyafrif ohonom. Neu o leiaf fe ddylasai fod er y dangosodd campau diweddar aelod o'r teulu brenhinol nad yw'r hanes yn wybyddus i bawb.

Clawr y llyfr Llwyddodd rhai Iddewon - er gwaethaf difaterwch a rhwystrau llywodraeth Prydain - i ddianc i Brydain yn y tridegau. Dihangodd eraill i'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill.

Bu cyfraniad y ffoaduriaid hynny i ddiwylliant a chelfyddyd yn Lloegr yn aruthrol. Dyna ochr o'r stori na chlywch byth amdani. Gadawsant eu h么l ar sawl agwedd o'r diwylliant Americanaidd, hefyd.

Yr unig un
Daeth Iddewon i Gymru, hefyd, gan wneud marc ym myd y gyfraith, meddygaeth a masnach. Ond hyd y gwn, Kate Bosse-Griffiths - nad ydym yn perthyn o gwbl er gwaetha'r cyfenw - oedd yr unig un a ymdaflodd i'r bywyd Cymraeg, yn sgrifennu nofelau a stor茂au byrion a newyddiadura yn yr iaith.

Bu'n flaenllaw yng ngweithgareddau Plaid Cymru a Chymdeithas y Cymod yn ogystal 芒'i hysgolheictod ym maes Eifftoleg. Sefydlodd, a bu'n guradur, yr Amgueddfa Eifftaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe.

Bu ei chyfraniad yn sefydlu'r gymdeithas lenyddol, Cylch Cadwgan, yng Nghwm Rhondda yn allweddol.

Ei hanes
Mae hanes ei bywyd a'i gwaith a sgrifennwyd gan ei phriod, y diweddar Athro J. Gwyn Griffiths, hefyd yn rhan o'r gyfrol Teithiau'r Meddwl, yn ychwanegiad cyfoethog i'r gyfrol a bron mor ddiddorol 芒'r ysgrifau. Fe'i ganed yn Wittenberg yn nwyrain Yr Almaen ac er mai ei mam yn unig oedd yn Iddewes, dioddefodd y teulu yn enbyd, a ffoi oedd ei hunig ddewis.

Yn Rhydychen y cyfarfu 芒'r myfyriwr ymchwil J. Gwyn Griffiths.

Rhan fechan o'i diwydrwydd llenyddol mawr a gynrychiolir yn y gyfrol hon, erthyglau ac ysgrifau a gyfrannodd i nifer o bapurau a chylchgronau - Barn, Y Faner, Y Cymro, Seren Cymru, Western Mail, South Wales Evening Post, Y Fflam, Y Ddraig Goch ...

Cyfrannodd yn gyson, hefyd, i gyhoeddiadau ysgolheigaidd.

Gwerth eu trysori
Credaf mai W. J. Gruffydd, yn ei gofiant i Owen M. Edwards, a ddywedodd y gall newyddiaduraeth dda fod yn llenyddiaeth barhaol. Yn sicr, y mae nifer o ysgrifau'r gyfrol hon yn rhai gwerth eu cadw a'u trysori.

Arbennig o werthfawr yw'r bamffled Mudiadau Heddwch Yn Yr Almaen a gyfrannodd i'r gyfres Pamffledi Heddychwyr Cymru ac a gyhoeddwyd ym 1943.

Mae'n ddiddorol iawn am ei bod yn dangos gryfed y traddodiad o heddychiaeth seciwlar yn yr Almaen.

Hoffais yn fawr ei dyfyniad o waith y bardd Jean Paul: "Anffawd rhyfel yw mai dau berson sy'n penderfynu arno a miliynau yn ei weithredu. Byddai'n well i'r miliynau benderfynu ac i'r ddau ymladd."

Ni ellir s么n am bob ysgrif yn y gyfrol, ond mae cynifer yn taro rhyw dant.

Gwybod am y Celtiaid
F没m i erioed yn Hwngari, ond cofiaf y pleser o groesawu'n fisol dros gyfnod yn yr wythdegau, newyddiadurwyr a darlledwyr o Hwngari i bencadlys y 麻豆约拍 yng Nghaerdydd a cheisio eu darbwyllo nad Lloegr - neu Lundain - oedd Prydain oll.

Nid oedd hynny'n anodd o gwbl, oherwydd yr oedd eu diddordeb a'u gwybodaeth am y Celtiaid yn fawr.

Wedi'r cwbl, onid eu gwlad hwy oedd crud ein diwylliant? Gan yr Hwngariaid hynny y clywais am y cylch baledi gwlatgar, Beirdd Cymru, a sgrifennwyd gan ei bardd J谩nos Arany yn y bedwaredd ganrif a bymtheg.

Testun y baledi yw cyflwr Cymru ar 么l y darostyngiad gan Edward I.
Gofynnodd Edward i'r beirdd ganu iddo fel y bu iddynt ganu clod eu tywysogion. Gwrthod wnaethant, a chael eu harteithio a'u dienyddio.

Cyfansoddodd Arany y cerddi mewn cyfnod pan oedd Hwngari yn ymladd - yn aflwyddiannus - am ryddid oddi wrth ymerodraeth Awstria. Er na allai annog ei gydwladwyr i ryfela yr oedd ei gerddi yn gwneud iddynt feddwl am, ac uniaethu gyda, beirdd Cymru.

Daeth arwyddoc芒d pellach i'r cerddi yn ystod Rhyfel 1939-45.

Yr oeddwn mor falch o gael fy atgoffa o'r stori hon yn y gyfrol hon a hefyd am y Celtiaid yn Stuttgart.

Yn anochel, nid yw'r ysgrifau i gyd gystal 芒'i gilydd. Ni chefais lawer o flas ar Dirgelion Ynysoedd Hawii sydd, yn anffodus, yn ysgrif gyntaf y gyfrol!

Mam-gu
Yr oeddwn wedi disgwyl rhywbeth fuasai'n cysylltu Santes Anna, Llydaw, 芒'r traddodiad o chwedlau am Hannah, mamgu Iesu Grist, yn Ethiopia yn yr ysgif Y Fam-gu sanctaidd yn Llydaw.

Mae'r erthygl Yn Wyneb Haul, sy'n dod yn union wedi Y Fam-gu sanctaidd yn Llydaw yn s么n am feini hirion yn ne Ffrainc a'u cymharu 芒 maen a ddarganfuwyd yn Llanfor, Y Bala, ym 1973.

O ddarllen y ddwy yn y drefn y gosodwyd hwy yn y gyfrol gallai rhywun feddwl pam s么n am feini hirion de Ffrainc a'r rhai yn Llydaw yn llawer gwychach ac wedi eu haddurno 芒 phatrymau a gop茂wyd yng ngwisgoedd traddodiadol y bobl - pwynt fuasai'n berthnasol i'r ysgrif.

A hithau newydd fod yn Karnag, rhyfedd na fuasai wedi gweld cysylltiad mwy diddorol a chyfoethocach, meddwn wrthyf fy hun. Ond wedi craffu ar y llyfryddiaeth yng nghefn y gyfrol gwelir mai Yn Wyneb Haul a sgrifennwyd gyntaf.
Rwy'n hollti blew!

Ysgrif iasol
Cefais yr erthygl Brad (Saunders Lewis) yn iasol o wybod am brofiadau a gwybodaeth unigryw Kate Bosse-Griffiths.

Diddorol iawn yr ysgrif ar Euros Bowen a'r Gaeaf Caled.
Yr oedd J. Gwyn a Kate Bosse-Griffiths yn byw yn Y Bala adeg eira mawr 1947 ac Euros Bowen yn Rheithor Llangywair. Hefyd, yr oedd gwersyll carcharorion rhyfel Almaenig yn Llandrillo a chyfunwyd y cyfan mewn ysgrif ddestlus a difyr iawn.

Ceir ei hymateb chwyrn, ond boneddigaidd, i adolygiad Roy Lewis o Blas y Cynfyd Islwyn Ffowc Elis yn Y Faner (1959) ...

Nid fedraf ond crafu wyneb y gyfrol gyfoethog a thoreithiog hon. Mae'n ddyletswydd ar unrhyw un sy'n proffesu rhywfaint o gariad at Gymru a'r byd ei darllen.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy