麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Troseddau Hynod 2
Trysorfa o droseddau ysgeler

Adolygiad Dafydd Meirion o Troseddau Hynod 2 gan Roy Davies, (Golygydd: Lyn Ebenezer). Gwasg Carreg Gwalch, 拢6.50

Dynion yw'r rhan helaethaf o'r llofruddion yn y llyfr hwn, er bod yna un neu ddwy o ferched wedi diweddu bywyd rhywun arall - un yn fam ddi-briod yn lladd ei babi newyddanedig.

Ac mae yna nifer o ferched yn cael eu lladd gan gariadon cenfigennus.

Mae yna hanner cant o achosion o ganol y ddeunawfed ganrif i ddiwedd yr ugeinfed ganrif, ac o bob cwr o Gymru, yn ail gyfrol Troseddau Hynod gan y cyn bennaeth ditectifs, Roy Davies.

Sawl rheswm dros ladd
Mae yna sawl rheswm dros ladd yn y llyfr.
Cariad a chenfigen, ond hefyd mae gan arian ran amlwg yn llawer o'r achosion.

Er enghraifft, yn un o'r achosion mywaf diweddar, 1967, mae llanc o Lanberis yn lladd rheithor er mwyn cael arian i ddianc i Lundain.

Clawr y llyfr Lladdodd siopwr o'r Trallwng ddyn busnes lleol am ei fod mewn dyled iddo a lladdodd dyn ei wraig er mwyn cael yr arian yswiriant.

Darluniau byw
Yn ei ragair dywed Lyn Ebenezer fod y straeon yn "ddarluniau byw o'r gymdeithas lle digwyddodd yr achosion hynny".

Mae yna achosion o'r Gymru wledig a'r Gymru ddiwydiannol. Mae yma bobl fu'n cydfyw 芒'i gilydd am flynyddoedd ac mae yma bobl dd诺ad.

Mae yma hanes yr olaf i gael ei garcharu yng Ngharchar Brynbuga, a sonnir am yr unig ddyn ym Mhrydain gafodd ei grogi ac yna ei amlosgi cyn cael ei gladdu o fewn muriau'r carchar a hynny am mai Indiad oedd o.

Y ferch olaf
Caroline Williams o Lanrwst oedd y ferch olaf yng Nghymru i gael ei dedfrydu i'w chrogi - hi hefyd fyddai yr unig ferch yn Sir Ddinbych i gael y gosb eithaf ers 250 mlynedd ond mai carchar am oes gafodd hi yn y diwedd.

Ceir s么n yn achos Robert Coe a laddodd gyfaill iddo a dwyn ei gyflog yn 1865 fod y rheithgor wedi cael ei anfon "i aros dros nos mewn gwesty, rhywbeth anarferol iawn bryd hynny".

A Robert Coe oedd yr ieuengaf a'r olaf i gael ei grogi'n gyhoeddus yn Abertawe gyda rhwng 12,000 a 15,000 wedi dod i'w weld yn cael ei grogi.

Rhai wedi teithio yno o Aberpennant, Merthyr Tudful ac Aberd芒r a rhai o fasnachwyr y dref wedi gosod "eu stondinau'n agos at y crocbren".

"Llwyddodd pedair menyw i wthio'u ffordd drwy'r dorf i fyny at y crocbren i ymosod ar y carcharor 芒 chyllyll.

Sathrwyd nifer o'r dorf gan anafu 120 ohonynt. Dyma arweiniodd at ddiddymu crogi cyhoeddus".

Ond hyd yn oed pan symudwyd y crogi o fewn muriau'r carchar deuai pobl yno ar ddydd y crogi. Roedd yna ddeng mil y tu allan i garchar Caerfyrddin pan grogwyd David Evans.

Mewn gambo
Mae yna s么n hefyd am William Emmanuel gafodd ei gludo mewn gambo i sefyll ei brawf yn Sesiwn Fawr Caerfyrddin gyda'r dorf yn "hisian, ei regi a'i wawdio".

Cael Wil Manny yn euog wnaeth y rheithgor a hynny yn 1751, yr achos cynharaf yn y llyfr, ac nid yn unig y cafodd ei grogi ond hefyd ei "sibedu [sef rhoi'r corff mewn cawell i'r cigfrain ei fwyta] ar y groesffordd agosaf i gartref ei ddioddefydd" a hynny fel rhybudd i eraill.

"Bu corff Wil yn hongian am bedwar diwrnod cyn iddo gael ei dorri i lawr a'i gladdu yn un o'r caeau gyda pholyn wedi'i wthio drwy ei gorff i ddynodi'r fan".

Cyllell neu forthwyl
Defnyddir sawl dull o ladd, ond cyllell neu forthwyl yw'r rhai mwyaf cyffredin. Caiff gynnau eu defnyddio sawl tro ac mae yna sawl achos o wenwyno.

Yn achos y rheithor o Lanberis cafodd ei ladd drwy gael ei daro sawl gwaith 芒'i Gwpan Cymun.

Ar ddydd Nadolig
Mae yma ladd yn ystod y nos a'r dydd, ac hyd yn oed ar ddydd Nadolig.

Cafodd un wraig ei lladd wrth ddrws y capel ac mae yna hyd yn oed achos o ddyn yn lladd ei fam.

Mae yna rai digwyddiadau digon digri o ystyried yr amgylchiadau:
"... wrth iddo osod y llofrudd ar y drws trap, ni sylwodd y crogwr Robert Baxter fod troed ei gynorthwywr Alfred Allen hefyd ar y drws.

"Y canlyniad fu i Allen ddisgyn i'r twll ond ni chafodd unrhyw niwed."

Crogwyr Cymreig
Saeson oedd y rhan fwyaf o'r crogwyr - gan gynnwys y brodyr Pierrepoint, ond mi roedd yna Gymry yn eu plith.

"Credir mai ef [Seth Ellis o Hengoed, Sir Forgannwg] oedd un o'r ychydig iawn o Gymry i ymwneud 芒'r fath waith erioed yn yr ugeinfed ganrif."

Straeon rhyw bedair tudalen yr un yw'r rhain ac yn hawdd iawn eu darllen. Does yna ddim trefn arbennig iddyn nhw - nid ydyn nhw yn 么l trefn amser, ardaloedd daearyddol na dulliau o ladd neu resymau dros wneud hynny, er tuag at y diwedd ceir nifer o lofruddiaethau na chawasant eu datrys.

Yr unig gwyn sydd gen i mai enw'r llofrudd (ar wahan i ble na chafodd y drosedd ei datrys) a geir fel pennawd i bob stori ac mae hynny'n gadael y gath allan o'r cwd yn rhy gynnar.

Ond cwyn fach yw honno ac i unrhyw un sydd gan ddiddordeb mewn cyfraith a threfn - neu ddiffyg y fath beth, llofruddiaethau a drwgweithredwyr yn ogystal 芒 hanes cymdeithasol ein cenedl, mae Troseddau Hynod 2 yn drysorfa.

Cysylltiadau Perthnasol



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy