麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Jambo Carib诺
Cymro ar daith dros Mind
Adolygiad Lowri Wyn Roberts o Jambo Carib诺 - Taith i Borth Uffern gan Rocet Arwel Jones. Lolfa. 拢6.95

Dyddiadur am daith noddedig yn Kenya yw hwn.

Nid taith hamddenol ond her aruthrol i godi arian tuag at yr elusen Mind sy'n gweithio gyda rhai s芒l eu meddwl.

Clawr y llyfrHer a olygai gerdded ar lethrau serth dros naw mil o droedfeddi o uchder gyda'r haul yn grasboeth ar eich gwar.

A chyn hynny; yr holl ymarfer blinedig ar hyd llwybrau oer a gwlybion cefn gwlad Ceredigion.

Un o bob pedwar
Dywed Rocet ar ddechrau'r llyfr y gall un o bob pedwar ohonom ddioddef o salwch meddwl rywbryd yn ystod ei oes. Rhaid canmol ei ymdrech arbennig dros yr elusen bwysig hon.

Yn wir, roedd y ffigwr yn chwithdod i mi ac wrth ddarllen ei hanesion teimlais fy mod wedi gwerthfawrogi ei ymdrech gymaint mwy o gofio y byddai elusen mor deilwng yn elwa.

I fod yn onest mae'n anodd credu sut y llwyddodd i gadw dyddiadur mor gynhwysfawr a llawn hiwmor yn ystod taith mor galed! Buaswn i wedi'i chael yn anodd concro'r daith heb s么n am lwyddo'n llenyddol hefyd!!

Hawdd ei ddarllen
Naws ysgafn sydd i'r dyddiadur. Mae'n rhwydd i'w ddarllen gyda'r yr iaith yn syml ac yn gwbl gyfarwydd i ni ddarllenwyr cyffredin.

Ond er hyn - i'r rhai sy'n hoff o ddisgrifiadau lliwgar a manwl mae digon ohonynt. Y disgrifiadau hyn sy'n galluogi'r darllenwr i 'weld' y golygfeydd yn berffaith fel y gwelai Rocet hwy ei hun.

Dyma un enghraifft, a dynnodd fy sylw, sy'n llwyddo heb fod yn farddonllyd:

"Roedd y clogwyni'n drwch o gydynnau hir o fwsog gwyrdd oedd yn lasach na'r adladd mwya brwd, a rhaeadr yn disgyn yn gawod drostyn nhw- yn gawod gynnes, cynhesach nag unrhyw gawod arall roeddan ni wedi ei chael yn Kenya. Dyma'r math o le y byddai rhywun yn disgwyl gweld merch ifanc noeth yn ffilmio hysbyseb shampw"

Mae yna hefyd ddisgrifiadau gonest heb unrhyw ymdrech i guddio ei deimladau tuag at rai o'i gyd deithwyr!!

Yn wir, mae'n ddigon parod i fynegi ei farn amdanynt a dynwared eu ffordd o siarad, yn enwedig Connor a Kylie a enwodd eu pabell yn, "Faw't欧 Ten'po'es".

Hwy yn ddau o gymdogion Rocet a oedd yn boendod mawr gyda'u cega a'u cwyno wedi llwyr fynd ar ei nerfau, druan!

Gyda'i ddisgrifiadau didwyll o'i gyd-deithwyr "o uffern" a'i hiwmor naturiol llwyddodd i lunio dyddiadur nad yw'n sych nac yn ddiflas fel y gall rhai llyfrau taith fod.

Cymaint wedi digwydd
Amhosib cyhuddo hwn o fod yn ddiflas gan fod cymaint o bethau wedi digwydd yn ystod y daith!

Stormydd milain; ofnau bod un o'r criw ar goll; damweiniau ac ymweliad dawnswyr y Masaai yn gwisgo trainers Nike!

Ond o blith yr holl anturiaethau a hanesion rhyfedd y digwyddiad sy'n aros yn fy nghof i yw ei ymweliad ag ysgol feithrin mewn ardal dlawd yn Nairobi gyda disgrifiadau o'r plant bach, diniwed, yn hongian oddi ar ei freichiau ac yn cael hwyl wrth weiddi a sgrechian yn y maes chwarae.

Ond y realiti oedd fod bron bob un ohonynt yn amddifad oherwydd gafael AIDS ar y wlad.

Mae darlun o'r plant yn gwenu ar y camera heb wybod pa mor anobeithiol eu tynged.

Yn wir, mae'r defnydd cyffredinol o luniau yn ychwanegu at werth y dyddiadur ac yn gwneud yr hanesion yn fwy real.

Yr unig welliant fyddai cael rhai lliw.

Edrychaf ymlaen yn barod at hanes ei daith nesaf - yn Peru y flwyddyn nesaf a chofiwch bod cyfran o elw'r gyfrol hon yn mynd at Mind.

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy