麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Amen Dyn Pren
Trysori iaith liwgar y bobl
Adolygiad Glyn Evans o Amen, Dyn Pren - Difyrrwch ein hiaith ni gan Gwilym Tudur a Mair E Jones. Gwasg Gwynedd. 拢8.95.

Disgrifir hwn fel llyfr hynod - "y cyntaf o'i fath efallai" meddan nhw ar y cefn.

Dydi hynny ddim yn hollol gywir gan mai un o'r un olyniaeth 芒 chasgliadau rhagorol R E Jones, Llanrwst, o idiomau Cymraeg ydi o.

Ac nac anghofier campwaith Huw Jones o eiriau ac ymadroddion amaethyddol wedi eu casglu mewn pedair cyfrol y mae angen berfa i'w cario.

Gan Huw Jones hefyd y cafwyd casgliad o ymadroddion Beiblaidd a ddaeth yn rhan o'n hiaith bob dydd.

Mae Amen, Dyn Pren yn ychwanegiad haeddiannol i'r olyniaeth anrhydeddus a difyr honno. Clawr y llyfrDa gweld ychwanegu at ddarpariaeth sy'n ymwneud 芒'r diddordeb hwn mewn iaith.

O rigwm
Daw'r teitl o'r rhigwm hwnnw y clywid plant a phobl yn ei ddefnyddio'n ebychiad 'slawer dydd;
Amen, dyn pren - sticio mochyn yn i ben er ni chlywais ei ddefnyddio ers sawl pobiad erbyn hyn.

Ymadroddion, lliwgar, gwreiddiol, gwirion ac hyd yn oed fasweddus, weithiau, wedi eu casglu gan frawd a chwaer o Eifionydd, yw'r cynnwys.

Ond er mai blas Eifionydd sy'n drwm ar y gyfrol bydd llawer o'r geiriau a'r ymadroddion - fel yr Amen, dyn pren - yn gyfarwydd i rai o ardaloedd eraill hefyd.

Y diddordeb hwnnw ym marddoniaeth naturiol a'r dyfeisgarwch cynhenid hwnnw sydd ym mer esgyrn iaith sy'n cael ei borthi mewn cyfrol fel hon.

Saeson o dras
Mae rhyw wefr hefyd mewn darganfod beth sydd tu 么l i rai dywediadau a ddaeth mor gyfarwydd nes peri inni fynd mor hyf arnyn nhw ag i anghofio'u tras fel petai.

Diddorol sylwi mai Saeson o dras yw rhai ymadroddion sy'n ymddangos mor naturiol Gymreig gystal eu cymhathiad.

Dyna ichi "colli limpin" am wylltio.

"Y limpin," yn 么l y gyfrol hon, "yw'r peg haearn drwy'r echel y tu allan i'r both i ddal olwyn yn gadarn. Saesneg - lynch-pin."

A pha air sy'n swnio'n Gymreiciach na cymowta ond sy'n llygraid bendigedig o come out.

Ar yr un perwyl y Saesneg, shuffle yw man cychwyn jowffla sy'n golygu "chwilio'n ddyfal am rywbeth".

O'r Saesneg lumber y daw lembo a mistimanars o misdemeanors a blagardio o black-guard

Y cyfan ohonyn nhw wedi dod yn eiriau sy'n ymddwyn cyn Cymreicied a geiriau sy'n 'Gymry' o doriad eu bogail.

Man cychwyn y llyfr ei hun oedd cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1964.

"Gwneud rhestr ddigon carbwl a wnaethom yn ystod gaeaf 1963-64 a'i hanfon . . . Erbyn ailafael ynddo o ran ymyrraeth tua'r Nadolig 2001 roedd yr hen gasgliad wedi melynu'n arw, ond bu'n amheuthun ei gael; mae'n syndod faint ohono oedd wedi mynd yn angof llwyr," eglurir mewn rhagair.

Rhennir y casgliad yn 17 adran i gynnwys pynciau fel, chwarae plant, pryd a gwedd, cerydd a dadl, o gwmpas y cartref, bwyd a diod, iechyd - pobl ac anifeiliaid, byd natur, ffermio, tywydd, hen goelion a hen lwon.

I rannu fel hyn weithio'n hwylus mae gofyn am fynegai hefyd ond does yna'r un gyda'r gyfrol hon a all olygu cryn waith chwilio am air neu ymadrodd nad yw'n gwbl amlwg i ba adran y perthyn.

Ond i bwrpas y porwr llyfrau mae'n gae gyda sawl blewyn glas.

Siarad a'r Arglwydd
Mae ambell i 'gymeriad' i'w adnabod hefyd fel yr hen gymeriad hwnnw gynhaliai sgyrsiau mor gartref 芒'r Bod Mawr wrth wedd茂o.

"Cofia'r hogia' yn Burma draw, o Dad," meddai ar un weddi. "Ew, mae'n galad ofnadwy arnyn nhw ysti - 'sgen ti'm syniad pa mor boeth ydi hi yno, Arglwydd Mawr."

Ac wrth ddyfynnu - eto mewn gweddi - o'r emyn, Y g诺r fu gynt o dan hoelion meddai:
"Huw Derfel 'na'th hwnna ysti, ac emyn ardderchog ydi o hefyd. O'dd o'n perthyn i mi ysti, Arglwydd Mawr, o'dd o'n gefndar i 'nhad."

Cymeriad arall, parod ei ateb, oedd Gwynfor, hen lanc llawn direidi oedd hefyd yn saer da, yn fardd ac yn arlunydd.

Un tro, pan ofynnwyd iddo pa un oedd y llun anoddaf iddo'i wneud erioed ei ateb parod oedd, "llun rhech."

A son am wreiddioldeb dyfynnir cyngor gan Kate Roberts yngl欧n thorri darn o gig neu frechdan: "Torra fo mor dena' nes gweli did y nain drwyddo fo."

Gwahanol bobol
Difyr yw'r casgliad o enwau annifyr i ddisgrifio pobl:
Cringo - dyn blin
Clechor - dyn cas
Jadan - dynes dywyllodrus ( o jade)
Llymbar - dyn croes
Sbrych - neu brych
Sopan - dynes groes
Ac fe'n hatgoffir y defnyddir y gair hen yn aml iawn o flaen y rhain.

Ydi, mae hwn yn llyfr sy'n mynd a ni'n 么l i gyfnod llawer diniweitiach na'r un yr ydym yn byw ynddo - ac un fydd cyn ddieithried a phlaned arall i ambell un.

Yn naturiol, gwledig - gwladaidd, weithiau - yw hi o ran naws oherwydd ei milltir sgw芒r a hynny'n gwneud i rywun feddwl y byddai cyfrol gyffelyb a'i thread ar ddaear ddiwydiannol Cymru yn ddilyniant teg a difyr ar gyfer y flwyddyn nesaf.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy