Â鶹ԼÅÄ

Explore the Â鶹ԼÅÄ
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

Â鶹ԼÅÄ Â鶹ԼÅÄpage
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar dafod Gwerin
Casgliad Tegwyn Jones o benillion bob dydd
Adolygiad Glyn Evans o Ar Dafod Gwerin - penillion bob dydd wedi'u casglu gan Tegwyn Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. £16.99. Clawr meddal - £10.99.

Yn brynwr, byddwn i'n mynd am y fersiwn clawr caled, smartiach o'r llyfr hwn sydd ar bapur gwell na'r un clawr meddal.

Heb os mae hon yn gyfrol y bydd mynd a dod mawr iddi dros y blynyddoedd gyda'i 1,193 o benillion traddodiadol eu naws fel y beddargraff hwn ym mynwent Eglwys Penbryn, Ceredigion:

Byr a brau yw bywyd dyn
Tra sydyn daw ei ddiwedd;
Felly darfu 'mywyd i
Trwy foddi yn dra rhyfedd!

Gellir ystyried cyfrol Tegwyn Jones yn gymhares deilwng i gasgliad awdurdodol Syr T H Parry-Williams, Hen Benillion, a gyhoeddwyd yn 1940 ond sydd allan o brint, bellach.

Clawr y llyfrTybed a fydd cyhoeddi casgliad newydd Tegwyn Jones yn sbardun i rywun ail gyhoeddi honno eto?

Nid dyma'r tro cyntaf i Tegwyn Jones wneud cymwynas â ni yn y maes hwn - yn 1976 cyhoeddodd gasgliad rhagorol o dribannau Morgannwg.

Ac yn awr wele Ar Dafod Gwerin yn barod i swatio gyda'r ddwy arall ar bob silff lyfrau werth chweil gan i'r awdur wneud ymdrech fwriadol i beidio a chynnwys penillion sydd yn y naill neu'r llall o'r cyfrolau hynny.

Mae Tegwyn Jones yn disgrifio cynnwys ei gyfrol fel "penillion a rhigymau cofiadwy am amrywiol brofiadau byw a bod" ac mae'r casgliad yn cychwyn gyda'r pennill hwn o Fronnant, Ceredigion:
A glywsoch chi fod Mari ni
Yn gwisgo dannedd dodi?
Ac am ei thraed mae hig heel boots -
Mae'n siarad am briodi.

Mwyaf syml
Barddoniaeth ar ei mwyaf syml a'i mwyaf dirodres sydd yma yn ymwneud a phob agwedd o fywyd yn null yr Hen Benillion a gasglwyd gan Parry-Williams - ond nid yw'r cyfan o benillion y gyfrol hon yn hen gan ei bod yn cynnwys hefyd gyfansoddiadau cyfoes gan brofi fod y dull hwn o gyfansoddi yn parhau mewn bri.

Un peth sy'n sicr; yn gyfoes ac fel arall maen nhw'n ran o olyniaeth anrhydeddus iawn nad oes angen rhagorach disgrifiad ohoni nag un Parry-Williams yn ei gasgliad ef:
"Beth bynnag yw tarddiad a thras y Penillion dienw hyn, fe'u cadwyd ar gof oherwydd bod rhyw apêl ynddynt, yn eu cynnwys, yn eu dull, yn eu mynegiant. Yr oeddynt yn deffro ymateb yn rhywle, yn cyffwrdd â rhyw synhwyrau, yn boddio rhyw ddyheadau ac yn cyflenwi rhyw anghenion," meddai.

Gwerinol a gwledig
Ac fel T H Parry-Williams mae Tegwyn Jones yntau yn tynnu sylw at natur gyffredin neu fyw pob dydd y penillion o ran cynnwys.

"Gwerinol" yw un gair sy'n cael ei ddefnyddio i'w disgrifio - "gwledig" yn un arall.

Nodwedd arall yw fod yr awduron yn anhysbys erbyn a hynny am mai ar dafod leferydd y trosglwyddwyd y penillion a'u diogelu ar y cof yn hytrach nag ar bapur.

Erbyn eu rhoi ar bapur roedd enw'r awdur wedi'i hen anghofio.

"Perthyn i'r traddodiad llafar a wnânt yn hytrach na'r traddodiad ysgrifenedig, a gellir honni mai tro ymadrodd annisgwyl, odl ddigri neu sylw gogleisiol, ac addasrwydd cyffredinol y cynnwys i brofiad y lliaws, yn hytrach nag unrhyw werth llenyddol mawr, a sicrhaodd eu goroesiad," meddai Tegwyn Jones.

Ond er i'r awduron gael eu disgrifio fel rhai syml a di-ddysg ac er symlrwydd eu cyfansoddiadau peryglus iawn fyddai dibrisio'r hen benillion o ran eu gwerth.

Ys dywed T H Parry-Williams: "Nid iselradd mo'r neilltuolion hyn : y mae iddynt eu gwerth a'u grym. Hwynt-hwy yn aml, yn y gwaelod, yw seiliau celfyddyd fwy uchelgeisiol ac ymwybodol."

Ac meddai Tegwyn Jones:
"Barddoniaeth bob dydd sydd yma . . . barddoniaeth sy'n cyffwrdd yn uniongyrchol â bywyd, ac arni gryn sawr y pridd . . . Ymddiddan 'y werin gyffredin ffraeth' â hi ei hun yw swm a sylwedd y casgliad hwn."

Cyfeiria hefyd at benillion ei gasgliad yn cofnodi "teimlad neu chwiw'r foment, nodi rhyw ddoethineb yn deillio o hir sylwi, neu gynnig cyngor, efallai, seiliwyd ar brofiad personol."

Deuddeg rhan
Rhannodd ei gasgliad yn ddeuddeg i gynnwys gyda'i gilydd benillion yn ymwneud â meysydd mor amrywiol a; serch, profiad, man a lle, hwiangerddi, dwli, bwyd a diod, crefydd, beddargraffiadau, rhigymau bysedd ac adran amrywiol i gloi.

Nodir ffynhonnell pob bennill wrth ei chwt ac yng nghefn y gyfrol mae mynegai o linellau cyntaf.

Yn wahanol i T H Parry-Williams yn ei gasgliad ef penderfynodd Tegwyn Jones beidio â chynnwys nodiadau eglurhaol ac nid oes amheuaeth y bydd rhai darllenwyr yn gweld eu heisiau.

Fodd bynnag, bydd yr ambell i nodyn o eglurhad sydd gyda rhai o'r penillion yn ddigon i ddiwallu'r rhan fwyaf o ddarllenwyr.

.Cyfrol i'r porwr yw hon - cyfrol i'r sawl sy'n hoff o grwydro o un blewyn glas i'r llall - ac heb os un y byddai croeso iddi yn y rhan fwyaf o sanau Nadolig.

Ynddi down o hyd i wreiddioldeb, i hiwmor, dwyster a phrydferthwch ac mae'n ddiddorol sylwi sut y mae gwahanol gyfnodau yn lliwio meddylfryd.

Dyma bennill ymddangosodd yn Y Brython 1858:
Na chais esmwythyd yn y byd,
Rhaid dwyn o hyd rhyw groesau;
Dioddef orfu'th dad a'th daid
A dioddef raid i tithau.

Mae llawer o ddoethinebu yma a sawl rhigwm yn rhoi cyngor a hynny'n aml yn berthnasol i'r ffordd wledig o fyw:

A arddo ar eira
A lyfno ar law,
Ni fed y gŵr hwnnw
Ond chwyn a baw.

Bu serch erioed yn broc i'r arwen - ac felly yma ond yn ddiddorol iawn y penillion yn ddieithriad gan ddynion:

Mae'n dda gen i datws, mae'n dda gen i laeth,
Mae'n dda gennyf fenyw â thafod go ffraeth,
A thipyn go-lew o wrid yn ei boch
A'i gwallt weithiau'n felyn ac weithiau'n goch, goch.

Ond mae eithriadau a dyma bennill o safbwyn y ferch:

Mae'n well i chwi o lawer
I dreio bildio plas
Draw ar y moroedd geirwon
Sydd rhwng y tonnau glas,
A chodi rheiny i fyny
I ryw fynyddau fry
Na threio oeri cariad
Rhwng Ifan bach a mi.

Ac meddai un arall:

Mi geso gariad newydd fflam
A het bob cam oedd ganddo,
Crys a ffrils a neisied wed
A gwallt ei ben yn cwrlo.

Mae apêl arbennig i'r cerddi dwli fel y pennill hwn o'r Waunfawr, Caernarfon:

Biti biti garw
Hen wreigen wedi marw,
Claddu yn y winllan
A bawd ei throed hi allan.

Weithiau mae'r cynnwys fymryn yn amrwd:

Cofiwch wraig Lot
Yn eistedd ar y pot.
Y pot yn torri
A'r hen wraig yn boddi.

A da chael gyda rhai o'r penillion y mân amrywiadau o wahanol rannau o Gymru.

Wrth gwrs, mae hon yn gyfrol y gellir dyfynnu yn ddiddiwedd ohoni a hynny'n brawf o'i haeddiant ac yn adlewyrchiad o'r mwynhad a'r pleser sydd ynddi.

Cysylltiadau Perthnasol
Holi Tegwyn Jones

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar Â鶹ԼÅÄ Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the Â鶹ԼÅÄ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý