麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwladfa Kyffin - Kyffin in Patagonia
Cyhoeddi casgliad o luniau Patagonia gan Kyffin Williams
Golwg ar Gwladfa Kyffin - Kyffin in Patagonia. Casgliad o luniau Patagonia Kyffin Williams. Llyfgell Genedlaethol Cymru. Clawr caled 拢19.95 a chlawr meddal 拢12.95.

Rhyfedd y gwahanol bethau sy'n gwneud argraff ar wahanol bobol pan fo nhw'n ymweld 芒'r un lle.

Kyffin Williams Dyna ichi Batagonia. Glesni tanbaid yr awyr sy'n mynd a sylw rhai. Y llwch eraill. Ac wedyn y mwd yn dilyn glaw. . .

Yn dilyn ei ymweliad ef 芒'r Wladfa ym 1968 s么n am y gwynt di-baid yr oedd yr arlunydd o Gymro, Kyffin Williams.
Ac, fel y byddai rhywun yn disgwyl, natur y golau - rhywbeth na fyddai o ddirfawr bwys i ymwelydd cyffredin.

"Roedd y golau yng Nghwm Hyfryd yn rhyfeddol," meddai mewn cyflwyniad i lyfr sydd newydd ei gyhoeddi gan y Llyfrgell Genedlaethol.

"Yn aml gyda'r nos byddai'r awyr yn troi'n ddu-las gan achosi i'r ddaear ymddangos yn aur llachar mewn cyferbyniad."

Ceri Ellis yn yfed mate Ennill ysgoloriaeth Churchill a wnaeth Kyffin Williams i dalu am yr ymweliad a'i fwriad gwreiddiol oedd marchogaeth o Ddyffryn Camwy ar draws y paith i Esquel gan ddarlunio'r golygfeydd wrth fynd.

Fodd bynnag, fe'i darbwyllwyd ar 么l cyrraedd i beidio ag ymgymryd 芒 menter mor ff么l.

"Pan holais yn Nhrelew ymhle y buaswn yn medru dod o hyd i geffylau, syllodd y bobl arnaf mewn anghrediniaeth gan awgrymu y byddwn, pe byddwn yn mentro ar y fath antur fyrbwyll, yn sicr o golli fy ffordd ac y deuid o hyd i'm corff o bosibl rywbryd yn ystod yr hanner canrif dilynol," meddai.

Er na fu taith ar gefn ceffyl gwireddodd yr arlunydd ei fwriad i gofnodi "pobl, tirwedd, anifeiliaid a phlanhigion" y Wladfa a chyhoeddodd lyfr am ei brofiadau hefyd.

Yn gymeriad lliwgar ei hun - maddeued yr ansoddair! - maen nhw'n dal i gofio ymweliad Kyffin yn y Wladfa ac yn hongian - yn gam - ar fur yng Ngholeg Camwy y mae un o'i luniau. Llun a fyddai werth rhai miloedd yma yng Nghymru si诺r o fod!

Teulu'r Reynolds, Lle CulYn gymeriad mor lliwgar yr enillodd ymgeisydd wobr gyntaf mewn cystadleuaeth gwisg ffansi yn y Gaiman am wisgo "fel Kyffin Williams" yn ystod ei ymweliad!

Erbyn hyn trosglwyddodd Kyffin Williams ei gasgliad o luniau'r Wladfa i'r Llyfrgell Genedlaethol ac yn sgil hynny y cyhoeddwyd llyfr dwyieithog hardd, Gwladfa Kyffin - Kyffin in Patagonia, yn cynnwys nid yn unig y lluniau ond ragymadrodd gan yr arlunydd sydd wedi profi cyn heddiw ei fod cyn ddifyrred sgrifennwr ag yw o arlunydd - rhywbeth nad yw bob amser yn cael ei adlewyrchu yn y cyfieithiad Cymraeg.

Digwyddiad anghyffredin
Heb os yr oedd y cysylltiad rhwng Cymru 芒'r Wladfa yn un llawer breuach ym 1968 nag yw heddiw pan yw'r lle yn prysur ddod yn rhyw fath o sw ddynol i finteioedd o ymwelwyr o'r Hen Wlad.

"Yr oedd ymweliad gan arlunydd o Gymru bell yn ddigwyddiad anghyffredin. Yr oeddent yn rhyfeddu bod Cymro yn medru siarad Cymraeg cyn saled ac nad oeddwn yn edrych yn arbennig o Gymreig," meddai gan ychwanegu iddo ddod yn rhywfaint o ryfeddod yng ngolwg y bobl.

Am y Wladfa dywed: "Ar wah芒n i'r gwynt cyson mae'r Wladfa yn lle tawel" gan ychwanegu:
"Canfu^m fod y capeli bach ym mhob ardal yn ynysoedd Cymraeg yng nghefnfor anferth De America. Rhuai'r gwyntoedd o'u cwmpas gan guro ar y ffenestri; ond oddi mewn bron na allai'r bobl fod ym Mlaenau Ffestiniog neu Dregaron.

"Cofiaf deimlo Cymreictod y rheini nad oedd erioed wedi gweld gwlad eu hynafiaid," meddai.

Tir, pobl ac anifeiliaid
Mae tir, pobl ac anifeiliaid yn y trigain neu fwy o luniau a atgynhyrchir yn y gyfrol hyfryd hon.

"Ceisiais gofnodi'r tirwedd 芒 phensil inc a dyfrlliw ond buan y sylweddolais fod inc yn gyfrwng rhy galed, oherwydd yr oedd yna ryw ysgafnder yn y golau a'm gorfodai i ddefnyddio dyfrlliw.

Luis Gonzales"Gan fy mod yn bwriadu trosi fy lluniau i fod yn lluniau olew yn Llundain fe ychwanegais nodiadau mewn pensil arnynt, yn Saesneg i ddechrau ac yn ddiweddarach, wrth imi siarad mwy o Gymraeg, yn yr iaith honno hefyd," meddai.

"Ceisiais dynnu llun popeth gan fod popeth yn newydd imi," eglura.

Mae o'r farn mai lluniau a wnaeth ar 么l croesi'r paith a chyrraedd Esquel yw rhai gorau ei ymweliad.

Gan fod y papur a ddefnyddiai yn drwm a thuedd ynddo i sugno "fe'm gorfodwyd i ddefnyddio gouache ac yn y cyfrwng hwnnw fe ail-grewyd tirlun dieithr y paith gan fy nghof mewn ffordd na fuaswn wedi llwyddo i'w wneud petawn wedi defnyddio dyfrlliw. Y rhain, mae'n debyg, oedd y darluniau gorau a luniwyd gennyf ym Mhatagonia," meddai.

Y lluniau pobl, yn hytrach na'r golygfeydd, sy'n mynd a fy mryd i yn y casgliad. Lluniau i hir syllu arnynt ac wrth gwrs gwnaeth y gauchos argraff arno yntau hefyd.

Ymhlith bendithion yr ymweliad, meddai Kyffin Williams, yw fod cynifer o'r lluniau yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol "yn gofnod am byth o ddewrder a phenderfyniad ychydig o ddelfrydwyr i ddarganfod eu Hiwtopia eu hunain yn y fwyaf pellennig o diroedd dau gyfandir America.

Gaucho"Pan glywn am rai o drigolion y Wladfa yn cwestiynu tybed a fu'r cyfan yn werth yr ymdrech, byddwn yn ei sicrhau, er ein bod ni yng Nghymru wedi eu anghofio am tua chan mlynedd ein bod erbyn heddiw yn llawn balchder oherwydd eu dycnwch yn sefydlu ac yn diogelu yr unig wladfa Gymreig sydd gennym."

Braf chwilio'r lluniau hyn am olion o'r dycnwch hwnnw a phrofi'r tir a ddofwyd ganddo.
Glyn Evans



cyfannwch

amy davies y fenni
Mae hwn yn wych. Edrychais i ar y wefan yma am fy ngwaith cartref ar Syr Kyffin Williams. Mae'r wefan yma wir wedi'n helpu. Dwi'n credu mae Kyffin yn artist gwych.



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy