麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Chwyn Joe Pye a Phincas Robin
Rhwng ll锚n gwerin i l锚n-yddiaeth
Adolygiad Glyn Evans o lyfr Bethan Wyn Jones, Clogyn Joe Pye a Phincas Robin. Llyfrau Llafar Gwlad. Gwasg Carreg Gwalch. 拢5.50.
Pe na byddai iddo unrhyw rinwedd arall mae llyfr Bethan Wyn Jones yn sicr yr un gyda'r teitl mwyaf anghyffredin i'w gyhoeddi yn y Gymraeg ers tro.

Clawr y llyfrWrth gwrs, mae mwy i'r gyfrol na theitl da.

Fel; sawl un arall bum yn dilyn yn selog erthyglau Bethan am ryfeddodau byd natur a gyhoeddir yn Yr Herald bob wythnos ac felly'n croesawu gweld yr erthyglau hynny'n wedi eu cywain dan y teitl gogleisiol hwn.

Fel "ysgrifau ar ryfeddodau a ll锚n gwerin byd natur" maen nhw'n cael eu disgrifio a dau o ryfeddodau'r gyfrol ydi Chwyn Joe Pye a Phincas Robin.

Y tyfiant hwnnw sy'n edrych fel blodyn gwalltog ar blanhigion rhosod gwyllt ydi Pincas Robin ond dydi o ddim yn flodyn o gwbwl ond yn amddiffyniad mae'r planhigyn yn ei greu i wy math o wenynen.

Wedi i'r wenynen ddodwy ei hwy mae'r planhigyn yn adweithio trwy dyfu'r Pincas o gwmpas yr wy - yn yr un modd ag y mae'r peli bychain brown yna yn cael eu creu ar goed derw.

Mae i'r Pincas gysylltiadau llenyddol - wedi ei enwi, o bosib, ar 么l Robin Goodfellow sef Puck yn nrama A Midsummer Night's Dream gan Shakespeare.

Diddordeb llenyddol
Y diddordeb hwn mewn cysylltiadau llenyddol sy'n gwneud llyfr natur Bethan Wyn Jones yn wahanol i lyfrau natur eraill.

Gwelir hynny o'r cychwyn cyntaf un gyda dyfyniad o waith Waldo Williams yn ei herthygl gyntaf am yr Eirlys:

Gwyn, gwyn
Yw'r gynnar dorf ar lawr y glyn.
O'r ddaear ddu y nef a'u myn

Wrth drafod y Fwyalchen mae'n cyfeirio at ddisgrifiadau gwahanol feirdd o g芒n y deryn du gyda T Llew Jones yn gweld tebygrwydd rhyngddi a ch芒n Caruso ond meddai Myrddin ap Dafydd:
Hyfryted 芒 Phav'roti
A'i solo'n Domingo i mi.

Yn yr America
Fel sy'n gweddu i bapur newydd lleol planhigion ac anifeiliaid ei milltir sgw芒r sy'n cael sylw Bethan Wyn Jones, er, ym Mhennsylvania yr Unol Daleithiau y daeth ar draws enw'r planhigyn arall yn nheitl y gyfrol, Chwyn Joe-Pye (mae'n amrywio'r sillafiad o fod gyda ac heb heiffen.)

Pan glywodd yr enw Americanaidd, meddai:
"Wel, dyma ddechrau codi 'nghlustiau. Roedd hwn yn blanhigyn sy'n ddigon cyffredin i mi gan fod hwdedd ohono fo yn tyfu'n yr ardal yma, ac yn arbennig yn Llanffinan."

Iddi hi yng Nghymru mae'n adnabyddus fel bedwen chwerw, cywarch gwyllt a cywarch d诺r neu Hemp Agrimony yn Saesneg.

Darganfu hefyd i'r rhywogaeth a welodd yn y Merica gael ei enwi ar 么l un o'r brodorion a'i defnyddiai i wella clefydau.

"Yn 么l be fedra i ddeall mae trwyth o Chwyn Joe-Pye wedi cael ei ddefnyddio gan sawl un o lwythau Indiaid America fel sudd affrodisaidd yn ogystal ac i drin y dwymyn, anhwylderau'r arenau, annwyd ac anhwylderau'r croen. Mae'n dal i gael ei ddefnyddio hyd heddiw, i wella yr annwyd a ffliw," meddai.

Ie, cyfrol sy'n gasgliad difyr a diddan o ysgrifau sy'n cysylltu sawl diddordeb o l锚n gwerin i l锚n-yddiaeth 芒 byd natur gyda nifer o luniau lliw yn y canol - ond y rheini yn amrywio rhywfaint mewn ansawdd.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy