麻豆约拍

Explore the 麻豆约拍
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Ll锚n

麻豆约拍 麻豆约拍page
Cymru'r Byd

Llais Ll锚n
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
S么n amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn


Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ar y Lein
Teithio'r byd efo Bethan Gwanas
Adolygiad Caron Wyn Edwards o Ar y lein gan Bethan Gwanas. Hughes. 拢6.95. Dyddiadur cyfres deledu S4C.

Mae'r syniad tu 么l i gyfrol ddiweddaraf Bethan Gwanas, Ar y Lein, yn un syml - mynd ar daith sy'n dilyn llinell ledred 52潞 ar fap o'r byd.

Y llinell hon sy'n digwydd rhedeg trwy dref Llanymddyfri.

Y canlyniad yw hanes ar ffurf dyddiadur i gydfynd 芒'r gyfres deledu lwyddiannus a ddarlledwyd ar S4C yn gynharach eleni.

Awdur pobl
Ac mae'r symlrwydd hwn yn effeithiol tu hwnt. A'r prif reswm tros ei effeithiolrwydd yw dawn dweud naturiol yr awdur.

Clawr y llyfrDyma bersonoliaeth sy'n gwbl sicr o'i llais, llais sydd eisoes wedi talu ar ei ganfed gyda nofelau megis Amdani a Gwrach y Gwyllt.

Mae Bethan Gwanas, yn anad dim, yn awdur pobl - yn siarad yr un iaith 芒'i darllenwyr ac, o ganlyniad, mae'r hanesion dyddiol a geir yn y gyfrol yn darllen fel cardiau post personol, sy'n galluogi'r darllenydd rannu yn y profiad o fynd ar y daith.

Rhannu profiadau
Cymru, Lloegr, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Gwlad Pwyl, Rwsia, Yr Wcrain, Siberia, Alaska a Chanada. Cawn ninnau gipolwg ar fywyd yn y gwledydd hyn trwy gyfrwng y geiriau a'r naws sgyrslyd.

Un o'r sylwadau cyntaf a geir am Wlad Pwyl yw,

"Wyddoch chi fod Gwlad Pwyl yn berwi o ricsios? Na, na finna chwaith."

Mae'r onestrwydd yn ennyn parch y darllenydd, yn ogystal 芒 chyfrannu at y syniad fod y siwrnai yn un ddeublyg.

Daw'r golygfeydd mwyaf ffwr' a hi yn ddisgrifiadau cynnil a byw ac yn enghreifftiau o gyfoeth ei geirfa.

Y disgrifiad o gwpl ifanc ar draeth yn Yr Iseldiroedd er enghraifft:
"...yn gorwedd yn fechdan gnawd yn y tywod."

Mae'r gyfrol yn gyson yn cyfosod briwsion o fywyd fel hyn gyda ffeithiau hanesyddol, ac yn gwneud hynny heb i chi deimlo'u bod yn cael eu stwffio lawr eich corn gwddf.

Un o'm hoff ffeithiau oedd mai dim ond yr Iseldirwyr sy'n gallu ynganu enw'r dref Scheveningen yn gywir ac "...mae'n debyg fod modd dweud pwy oedd yr ysbiwyr Almaeneg yn ystod yr Ail Ryfel Byd dim ond wrth ofyn iddyn nhw ynganu'r enw."

Yn wir, i ddefnyddio gair mae'r awdur yn hoff iawn ohono, mae'r gyfrol yn 'berwi' o ffeithiau - rhai'n ddoniol, rhai'n ddifyr, rhai'n ddifrifol ac eraill yn ddim llai na brawychus.

A dweud y gwir, mae hi'n ddogfen hanesyddol, ddaearyddol werth chweil, ac mi fentra i y byddai'n ennyn diddordeb mwy o blant na'r rhelyw o lawlyfrau hirwyntog, sych.

Cymharu 芒 Chymru
Elfen arall o'r gyfrol a ddylai apelio at rai, yw'r duedd sydd gan yr awdur i gymharu sefyllfaoedd ac amgylchiadau mewn rhannau eraill o'r byd gyda sefyllfa'r Cymru.

Digwydd hyn yng nghyd-destun iaith, twristiaeth a hunaniaeth a thrwy ddwyn ar brofiadau sy'n gyfarwydd i'w darllenwr daw dieithrwch y gwledydd hyn yn fwy cyfforddus.

Yn nofelydd hefyd
Hawdd gweld wrth ddarllen y gyfrol, fod yr awdur hefyd yn nofelydd.
Yn wir, mae Ar y Lein yn berchen ar lawer o nodweddion nofel, gyda chriw y cwmni cynhyrchu'n is-gymeriadau i brif gymeriad Bethan, a'r awgrym o isblot Bridget Jonesaidd o drafod dynion yn islais drwy'r gyfrol.

O'r ffigwr tywyll ar ddec y cwch ar Lyn Baikal yn Rwsia, sy'n ei hudo 芒'i "You are very beautiful woman" i'w hymateb hi, y "dylai pob merch gael y profiad...mi gadwith fi i fynd am flynyddoedd" gan gyffwrdd trafod pwnc sydd wedi ei amlygu ei hun mewn llenyddiaeth ers cyfnod Jane Austen a'i chyfoedion.

Rhyw beth i bawb felly - dim ond ichi beidio 芒 disgwyl cael treiddio'n ddwfn i fywyd yn y gwledydd hyn.

Nid dyna'r math o ddyddiadur teithio a geir yma ond, yn hytrach, llwyfan i iaith goeth a sylwadau sy'n gallu bod yn fendigedig o fachog.

"Wnes i ddim gofyn iddo fo lle oedd y gelfyddyd mewn pedoli chwanen."

Yn syml, mae Ar y Lein yn taflu cipolwg ar fyd dieithr gan ddefnyddio gohebiaeth gyfarwydd, ac yn gwneud hynny'n effeithiol tros ben.

Cysylltiadau Perthnasol


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r 麻豆约拍 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu L貌rd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
L么n Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am l么n Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Gl芒n i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
S么n amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar 麻豆约拍 Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the 麻豆约拍 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy